Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  14C257 – Cefn Trefor, Trefor

Cofnodion:

7.1 14C257 – Cais amlinellol i godi annedd fforddiadwy ynghyd â manylion llawn am y fynedfa i gerbydau a’r system ddraenio gyda’r holl faterion eraill wedi eu cadw yn ôl ar dir ger Cefn Trefor, Trefor

 

Pwrpas yr adroddiad yw diffinio’r term ‘Angen Lleol’ ac awgrymu amodau i’w gosod ar yr hysbysiad penderfyniad mewn perthynas â’r cais a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2018 yn amodol ar gytundeb Adran 106 i sicrhau bod yr annedd yn cael ei datblygu fel annedd fforddiadwy, yn groes i argymhelliad Swyddogion y dylid gwrthod rhoi caniatâd gan fod y cais yn groes i bolisi TAI 6.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Asiant yr ymgeisydd wedi awgrymu y dylai ‘lleol’ fod wedi’i ddiffinio yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC) ac y dylai ‘lleol’ olygu Ynys Môn a Gwynedd. Cynigiwyd mapiau lliw i’r Pwyllgor a oedd yn dangos beth a olygir gan yr ardal o amgylch clystyrau fel rhan o’r cytundeb Adran 106 petai’r ymgeiswyr yn dymuno gwerthu’r annedd yn y dyfodol. Dywedodd y Swyddog fod y mapiau’n cael eu cynnig i gydymffurfio â’r polisi sef i gynnig anheddau i bobl leol gan fod rhaid iddynt fod wedi byw yn y pentref neu’r ardal sydd yn union gerllaw am 5 mlynedd.

 

Holodd yr Aelodau a oedd y trefi a’r pentrefi wedi cael eu tynnu oddi ar y mapiau lliw a gynigwyd i’r cyfarfod. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai nod y polisi yw cynnig tai lleol; nid nod y polisi yw tynnu pobl o’r trefi a’r pentrefi i fyw yn y wlad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Eric W Jones ei fod yn ystyried bod holl drigolion yr Ynys yn bobl leol i Ynys Môn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd K P Hughes fod y canllawiau yn rhwystro yn hytrach na hwyluso’r mater o berson lleol. Mynegodd ei bod yn bwysig gadael i bobl ifanc sy’n dymuno aros yn eu cynefin eu hunain gael adeiladu tai ac aros ar yr Ynys. Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylai ‘person lleol’ gynnwys Ynys Môn gyfan. Eiliodd y Cynghorydd Eric Jones y cynnig. 

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn ystyried bod diffyg yn y polisi mewn perthynas â’r diffiniad o ‘berson lleol’. Er tegwch i’r cais hwn ac i unrhyw geisiadau yn y dyfodol a ddaw gerbron y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion, cynigiodd y Cadeirydd y dylid gohirio’r cais a chyfeirio’r diffiniad o ‘berson lleol’ i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd am drafodaeth ac eglurhad rhag ofn i’r Awdurdod hwn wynebu her neu apêl gan yr Uchel Lys yn y dyfodol. Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig. 

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod y cais hwn wedi’i gymeradwyo o dan Bolisi TAI 6 ac mae’r polisi hwn yn glir fod rhaid i ddeiliaid yr annedd fyw yn y clwstwr neu fod wedi byw yn yr ardal wledig. Dywedodd ei bod yn dderbyniol bod y Pwyllgor yn gofyn i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ymateb er mwyn cael eglurder ar y diffiniad o ardal leol a pherson lleol.    

 

Yn dilyn y bleidlais ddilynol PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais ac i gyfeirio’r diffiniad o ‘berson lleol’ at y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd am gadarnhad a thrafodaeth.

 

Dogfennau ategol: