Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch Corfforaethol 2017/18

Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol am 2017/18.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyriedyr Adroddiad Blynyddol ar Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ar gyfer 2017/18.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gweithrediadau Iechyd yr Amgylchedd grynodeb o’r prif ystyriaethau i’w tynnu o’r adroddiad fel a ganlyn

 

           Mae gwaith sylweddol wedi’i wneud i adfywio Iechyd a Diogelwch yn y Cyngor, ac mae Uwch Swyddogion, Adnoddau Dynol a Iechyd a Diogelwch Corfforaethol wedi bod ynghlwm â’r gwaith. Y prif ffrydiau gwaith ar lefel uwch swyddogion fu datblygu Polisi Iechyd a Diogelwch Corfforaethol newydd sy’n egluro’r rolau a’r cyfrifoldebau ar gyfer yr holl fudd-ddeiliaid yn y Cyngor. Yn ogystal, mae rôl ddiwygiedig y Cydlynwyr Iechyd a Diogelwch i fod yn fwy rhagweithiol o ran gwella iechyd a diogelwch wedi bod yn newid mawr yn y trefniadau.

           Ar gyfer 2017/18, cofnodwyd cyfanswm o 1322 o ddigwyddiadau sy’n ostyngiad o 111 o nifer y digwyddiadau yn y flwyddyn gynt. Cofnodwyd cyfanswm o 249 o ddigwyddiad yn gysylltiedig â gweithwyr, sydd 46 yn is nag yn y flwyddyn gynt. Darperir dadansoddiad o’r digwyddiadau yn yr adroddiad a phan welwyd tueddiadau neu batrymau yn dod i’r amlwg, mae gwaith wedi’i wneud i leihau’r risg. Dylai bod hyn wedi helpu i ostwng nifer y digwyddiadau ac mae’n broses sy’n parhau.

           Adroddwyd cyfanswm o 20 digwyddiad i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (AGID) o dan y drefn RIDDOR (Rheoliadau Adrodd am Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus) gyda’r AGID yn derbyn adroddiad ar bob digwyddiad. Ni wnaeth yr AGID gymryd unrhyw gamau dilynol sy’n dangos ei fod yn fodlon gyda’r gwaith a wnaed i atal yr un digwyddiad rhag digwydd eto.

           Darparwyd cyfanswm o 92 o gyrsiau hyfforddiant byr ar ystod o bynciau iechyd a diogelwch yn ystod y flwyddyn, gyda chyfanswm o 892 aelod o staff yn eu mynychu.

           Fe wnaed gwaith partneriaeth rhwng y chwe tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yng Ngogledd Cymru, gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn darparu gwybodaeth i gynorthwyo gyda ffrydiau gwaith Iechyd a Diogelwch. Mae Cyngor Gwynedd wedi darparu cefnogaeth a Hyfforddiant ar Iechyd Galwedigaethol.

           Darparwyd gwybodaeth i gynorthwyo’r AGID. Er na fu unrhyw ymyraethau gan yr AGID yn 2017/18, fe wnaeth y tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol gynnal 336 o ymyraethau rhagweithiol i gynorthwyo gyda materion Iechyd a Diogelwch. Cyflwynwyd bwletin misol Iechyd a Diogelwch yn ogystal er mwyn codi ymwybyddiaeth am faterion iechyd a diogelwch o fewn y Cyngor.

           Mae Cynllun Gweithredu Iechyd a Diogelwch Corfforaethol wedi’i ddatblygu hefyd er mwyn gwella safonau Iechyd a Diogelwch ymhellach yn y Cyngor.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r wybodaeth ac fe wnaeth y pwyntiau canlynol

 

           Nododd y Pwyllgor fod y neges o’r adroddiad yn bositif ar y cyfan ac yn adlewyrchu diwylliant Iechyd a Diogelwch sy’n gwella yn y Cyngor; roedd y Pwyllgor yn croesawu’r amlygrwydd a’r gwelededd a roddir i Iechyd a Diogelwch o fewn y Cyngor ynghyd â’r camau a gymerwyd i roi sylfaen gadarn i Iechyd a Diogelwch.

           Nododd y Pwyllgor, er bod cyfanswm nifer y digwyddiadau wedi gostwng o’r flwyddyn gynt, mae nifer yr ymosodiadau corfforol (digwyddiadau’n gysylltiedig â chleientiaid a disgyblion) wedi dyblu bron iawn yn yr un cyfnod o 56 yn 2016/17 i 103 yn 2017/18. Nododd y Pwyllgor hefyd fod digwyddiadau’n cael eu cofnodi o dan gategori ar wahân ar gyfer ymosodiadau corfforol gan berson, ond nad oedd y data’n gwahaniaethu digon rhwng y ddau gategori. Gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad am y cynnydd mewn ymosodiadau corfforol a sut gellid mynd i’r afael â hyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y data yn cynnwys digwyddiadau o ymosodiadau corfforol mewn ysgolion, rhai prif lif ac ysgolion arbennig, yn cynnwys disgyblion gydag anghenion dysgu arbennig/ychwanegol mewn ysgolion prif lif. Mae’n bosib bod digwyddiadau mewn ysgolion wedi cyfrannu at ganran uwch o ddigwyddiadau yn gyffredinol. Gellid hefyd briodoli’r cynnydd yn 2017/18 yn rhannol i’r ffaith fod gan ysgolion Bolisi Iechyd a Diogelwch Ysgol mewn lle bellach sy’n seiliedig ar y Polisi Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, a bydd hynny wedi dylanwadu ar gofnodi ac adrodd am ddigwyddiadau. Cafodd y Polisi Iechyd a Diogelwch diwygiedig ei weithredu yn 2017/18 ac mae’n manylu’n fwy clir nag o’r blaen beth yw’r disgwyliadau ar gyfer ysgolion, yn enwedig y disgwyliadau o ran rôl Prif Athrawon, uwch athrawon ac athrawon mewn perthynas ag adrodd digwyddiadau wrth Uwch Dîm Arweinyddiaeth yr ysgol. Er hyn, mae angen ymchwilio ymhellach i’r rhesymau am y cynnydd gyda’r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch Corfforaethol a gweld sut mae’r canlyniadau o un flwyddyn i’r nesaf wedi eu cymedroli, a sefydlu p’un a yw’r cynnydd yn nifer yr ymosodiadau corfforol o ganlyniad i gynnydd ystadegol oherwydd adrodd cliriach neu p’un a yw o ganlyniad i gynnydd mewn pryderon.

 

Dywedodd y Rheolwr Gweithrediadau Iechyd yr Amgylchedd y byddai cymharu’r data ar gyfer 2017/18 gyda’r data yn adroddiad ariannol y flwyddyn nesaf 2018/19 o bosib yn rhoi darlun cliriach o sut mae’r effeithlonrwydd o ran adrodd wedi gwella yng nghyd-destun y nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu hadrodd.

 

           Nododd y Pwyllgor fod y cynnydd mewn ymosodiadau corfforol yn adlewyrchu tueddiadau diweddar yn y Gwasanaeth Iechyd lle mae ymosodiadau ar staff rheng-flaen wedi cael llawer o sylw’n gyhoeddus; dylai’r Cyngor geisio cael yr un lefel o gyhoeddusrwydd ar gyfer ymddygiad heriol yn erbyn staff y Cyngor.

           Nododd y Pwyllgor y gallai damweiniau a/neu anafiadau a geir tra mae person ar ddyletswydd y Cyngor, neu yn fwy arbennig gan aelodau o’r cyhoedd tra maent yn eiddo’r Cyngor, arwain at hawliadau yn erbyn y Cyngor a allai fod yn gostus. Ceisiodd y Pwyllgor eglurhad ynghylch p’un a yw’r Cyngor yn tracio nifer yr hawliadau iechyd a diogelwch a wneir yn erbyn y Cyngor, a’r costau cysylltiedig.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod Rheolwr Yswiriant a Risg y Cyngor yn cadw cofnod o nifer yr hawliadau a wneir yn erbyn y Cyngor yn ogystal â’u canlyniad yn nhermau yr hawliau a gafodd eu derbyn a’r rheini a gafodd eu herio.

 

Dywedodd y Pennaeth Archwilio a Risg, fel rhan o gyfrifoldebau llywodraethu newydd, ehangach y Pwyllgor Archwilio, y bydd yn derbyn Adroddiad Yswiriant blynyddol yn ei gyfarfod nesaf ym mis Ebrill a bydd yr adroddiad hwnnw yn ymgorffori materion sy’n ymwneud â hawliadau yn erbyn y Cyngor.

 

           Nododd a chroesawodd y Pwyllgor y sesiynau hyfforddiant a ddarparwyd i staff y Cyngor yn ystod y cyfnod adrodd fel mesur ataliol pwysig wrth gynnal iechyd a diogelwch yn y gwaith.

 

Penderfynwyd derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar Iechyd a Diogelwch Corfforaethol ar gyfer 2017/18 a nodi ei gynnwys, gan nodi hefyd bod gofyn i’r Pwyllgor Gwaith ystyried trefniadau a pherfformiad Iechyd a Diogelwch.

 

CAM GWEITHREDU A GYNIGWYD: Gofyn i’r Swyddog Iechyd a Diogelwch Corfforaethol roi eglurhad ar y canlynol

 

           P’un a oes unrhyw resymau penodol am y cynnydd yn nifer yr ymosodiadau corfforol a p’un a yw’r cynnydd yn adlewyrchu tuedd sy’n dod i’r amlwg.

           Y gwahaniaeth rhwng y ddau gategoriYmosodiad Corfforol gan Bersonyn y Tabl Mathau o Ddigwyddiad ar dudalen 6 yr adroddiad.

Dogfennau ategol: