Eitem Rhaglen
Y Gyllideb ar gyfer 2019/20 a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canol
- Cyfarfod Cyngor Sir Ynys Môn, Dydd Mercher, 27ain Chwefror, 2019 2.00 o'r gloch (Item 7.)
- Gweld y datganiadau o gysylltiad ar gyfer eitem7.
(a) Cyllideb Refeniw 2019/20
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2019.
(b) Cyllideb Gyfalaf 2019/20
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2019.
(c) Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2019/20
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2019.
(ch) Gosod y Dreth Gyngor
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror 2019.
(d) Diwygio’r Gyllideb
Cyflwyno’r gwelliant canlynol i gynigion y Gyllideb gan Grŵp Annibynnwyr Môn, yn dilyn derbyn rhybudd yn unol â Pharagraff 4.3.2.2.11 y Cyfansoddiad fel a ganlyn:-
‘Hoffai Grŵp Annibynwyr Môn gynnig cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-2020.
Gwneir hynny drwy:-
· beidio â llenwi swydd wag y Prif Weithredwr Cynorthwyol – arbediad o £100,000;
· gostwng nifer yr Aelodau sydd ar y Pwyllgor Gwaith o 9 i 7 – arbediad o £26,464;
· gohirio adeiladu’r Safle i Sipsiwn a Theithwyr yn Star – arbediad o £33,600 yn y taliadau cyllido cyfalaf;
· gostwng y gyllideb ar gyfer y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor o ganlyniad i osod Treth Gyngor is na’r un a gynigiwyd gan y Pwyllgor Gwaith – arbediad o £225,000;
· cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor. Byddai hyn yn golygu fod y dreth ar gyfer Band D yn £1,197.18 – cynnydd blynyddol o £56.97;
· cynyddu’r premiwm ar dai gwag i 35% yn hytrach na’r 100% a gynigiwyd gan y Pwyllgor Gwaith;
· byddai’r gostyngiad yn y Dreth Gyngor a’r Premiwm ar Gartrefi Gwag yn golygu lleihad o £1,950,449 yn yr arian a geir drwy’r Dreth Gyngor a byddai modd cyllido hynny drwy ostwng gwariant gan £385449 (gweler uchod), trwy ddefnyddio £1m o’r arian wrth gefn sydd wedi’i glustnodi a chan ddefnyddio £565,000 o’r balansau cyffredinol;
· os bydd arian ychwanegol yn cael ei ryddhau ar gyfer pensiwn, bydd yn cael ei drosglwyddo’n ôl i’r balansau cyffredinol.’
(Sylwer : Mae angen ystyried y cyfan o’r papurau uchod fel un pecyn).
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Cyllid gynigion y Pwyllgor Gwaith ar gyfer cyllidebau Refeniw a Chyfalaf 2019/20, y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys a gosod y Dreth Gyngor – eitemau 7(a) i (ch) yn y Rhaglen. Dywedodd mai’r gyllideb hon fu’r gyllideb fwyaf heriol i’r Cyngor orfod ei chyflwyno. Dechreuwyd y broses gyllideb gychwynnol ym mis Mehefin 2018 a chafodd adolygiadau unigol eu cynnal o’r holl wasanaethau o fewn y Cyngor. Fe heriwyd y gwasanaethau i adnabod gwerth £5m o arbedion yn unol â’r Cynllun Ariannol Tymor Canol. Cynhaliwyd nifer o weithdai yn ystod mis Hydref gyda’r gwasanaethau’n cyflwyno eu cynigion arbedion i’w hystyried, a gwahoddwyd holl Aelodau’r Cyngor i fynychu. Roedd yr holl gynigion arbedion a gyflwynwyd yn dod i gyfanswm o £3.747m. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus o 15 Tachwedd i 31 Rhagfyr, 2018 gan ganolbwyntio ar y 15 o brif gynigion arbedion. Dywedodd yr Aelod ei fod yn gwerthfawrogi’r ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus ac mai’r ymgynghoriad ar y broses o osod y gyllideb sydd wedi derbyn y nifer uchaf o ymatebion erioed gan y Cyngor. Nododd fod y Cyngor wedi cynnal 6 chyfarfod gyda gwahanol grwpiau a budd-ddeiliaid i drafod yr arbedion arfaethedig a chael syniad o’u barn. Y neges gref o’r cyfarfodydd hyn oedd fod angen gwarchod cyllidebau addysg er mwyn cynnig yr addysg orau bosib mewn ysgolion. Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 4 Chwefror, 2019 ac fe adroddodd y Cadeirydd yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror, 2019.
Nododd hefyd pe na bai’r Cyngor yn gosod cyllideb ddarbodus yn y cyfarfod heddiw, yna mae’n bosib y gallai’r Cyngor wynebu problemau ariannol sylweddol fel yr adroddwyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror, 2019. Mae’n rhaid i’r Cyngor osod cyllideb sy’n cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor, ac yn bwysicaf oll, sy’n gwarchod y gwasanaethau y mae’r bobl fwyaf bregus yn ddibynnol arnynt sef y gwasanaethau oedolion, plant ac addysg. Mae’r sefyllfa ariannol enbyd y mae awdurdodau llywodraeth leol ar draws y DU yn ei hwynebu yn ganlyniad i bolisïau llymder Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi torri’r ffigyrau setliad i lywodraeth leol; mae awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru a Phowys wedi gweld gostyngiad o dros £2.3m yn y gyllideb gan Lywodraeth Cymru tra bod awdurdodau lleol De Cymru wedi gweld cynnydd o £30m yn eu setliad llywodraeth lleol. Nododd hefyd fod cynnydd mewn dyfarniadau tâl staff a phensiynau athrawon a’r cynnydd ym mhraesept yr Awdurdod Tân wedi rhoi pwysau ar y gyllideb. Dywedodd yr Aelod Portffolio nad oes gan yr awdurdod gyllideb o fewn ei gronfeydd wrth gefn i gau’r bwlch yn y diffyg ariannol y mae’r Cyngor yn ei wynebu. Nododd fod y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 wedi adrodd yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror fod lefel y cronfeydd cyffredinol wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol ac na ddylid gadael iddynt ostwng ddim pellach. Dywedodd ymhellach fod yr Archwilydd Cyffredinol yn ei lythyr dyddiedig 5 Chwefror, 2019 i’r Cyngor hwn wedi amlinellu nad yw’n gynaliadwy i ddibynnu ar gronfeydd wrth gefn i gefnogi costau cynyddol y gwasanaethau. O ganlyniad, argymhelliad y Pwyllgor Gwaith i’r Cyngor llawn oedd cynyddu’r Dreth Gyngor 9.5% a fydd yn galluogi’r awdurdod i leihau’r toriadau ariannol i’r gwasanaethau addysg o £1.7m i £626k. Hefyd, os derbynnir cyllid ariannol gan Lywodraeth y DU tuag at ariannu’r cynnydd yn y cyfraniad i bensiynau athrawon (mae’r awdurdod wedi cyllidebu ar gyfer hyn eisoes yn y gyllideb) bydd hanner y swm a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio i ostwng y lleihad i gyllidebau ysgolion ymhellach.
Mynegodd yr Aelod Portffolio Cyllid y bydd cynnydd o 9.5% yn y Dreth Gyngor yn anodd i drigolion Ynys Môn ond dyma’r opsiwn darbodus sydd ar gael yn yr amgylchiadau anodd hyn. Golyga hyn y bydd y Dreth Gyngor gyfartalog i bob cartref yn cynyddu £2 yr wythnos er mwyn gwarchod y gwasanaethau pwysicaf h.y. y gwasanaethau plant, oedolion ac addysg. Fodd bynnag, yn dilyn y cynnydd hwn bydd y Cyngor yn parhau i fod â’r gyfradd treth gyngor isaf ond un yng ngogledd Cymru.
(d) Diwygio’r Gyllideb
Derbyniwyd y gwelliant canlynol i’r Gyllideb gan Grŵp Annibynwyr Môn, ar ôl derbyn rhybudd o hynny o dan Baragraff 4.3.2.2.11 y Cyfansoddiad fel a ganlyn:-
‘Hoffai Grŵp Annibynwyr Môn gynnig cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-2020.
Gwneir hyn drwy:-
· beidio â llenwi swydd wag y Prif Weithredwr Cynorthwyol – arbediad o £100,000;
· gostwng nifer yr Aelodau sydd ar y Pwyllgor Gwaith o 9 i 7 – arbediad o £26,464;
· gohirio adeiladu’r safle i Sipsiwn a Theithwyr yn Star – arbediad o £33,600 yn y Taliadau Cyllido Cyfalaf;
· gostwng y gyllideb ar gyfer y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor o ganlyniad i osod Treth Gyngor is na’r un a gynigiwyd gan y Pwyllgor Gwaith – arbediad o £225,000;
· cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor. Byddai hyn yn golygu bod y dreth ar gyfer Band D yn £1,197.18 – cynnydd blynyddol o £56.97;
· cynyddu’r premiwm ar Dai Gwag i 35% yn hytrach na’r 100% a gynigiwyd gan y Pwyllgor Gwaith;
· byddai’r gostyngiad yn y Dreth Gyngor a’r Premiwm ar Gartrefi Gwag yn golygu lleihad o £1,950,449 yn yr arian a geir drwy’r Dreth Gyngor a byddai modd cyllido hynny drwy ostwng gwariant o £385,449 (gweler uchod) trwy ddefnyddio £1m o’r arian wrth gefn sydd wedi’i glustnodi a thrwy ddefnyddio £565,000 o’r balansau cyffredinol;
· os bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ryddhau ar gyfer pensiwn, bydd yn cael ei drosglwyddo’n ôl i’r balansau cyffredinol.’
Dywedodd y Cynghorydd Robert Ll Jones, Aelod Portffolio Cysgodol ar gyfer Cyllid, fod y Blaid sydd mewn Grym yn dymuno codi’r Dreth Gyngor yn uwch nag y mae’r Cyngor hwn wedi’i wynebu erioed. Byddai’r gwelliant i’r gyllideb a gynigir gan yr Wrthblaid yn cynnig cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor yn hytrach na’r 9.5% a gynigiwyd gan y Blaid mewn Grym. Dywedodd fod y cyfraddau llog yn isel a dylid cadw unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor o dan y gyfradd chwyddiant. Pwysodd ar y Cyngor i wrthod y gyllideb oedd gerbron y Cyngor llawn.
Eiliodd y Cynghorydd Bryan Owen y gwelliant.
Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ymateb i’r gwelliant gerbron y Cyngor llawn a gofynnodd a oedd yn cydymffurfio â’r Ddeddf ofynnol wrth osod cyllideb y Dreth Gyngor.
Cyfeiriodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. O dan y Ddeddf, mae’n ofynnol bod y Cyngor yn sicrhau ei fod yn cynhyrchu cyllideb sy’n ymateb i’r galw a chostau yn y gwasanaethau am y flwyddyn i ddod. Nododd fod y gwelliant a gyflwynwyd gan yr Wrth-blaid yn cydymffurfio â’r Ddeddf. Dywedodd ymhellach, fel Swyddog Adran 151 fod ganddo ddyletswydd o dan Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003 i wneud asesiad o’r gyllideb ac i adrodd ar gadernid amcangyfrifon y gyllideb a pha mor ddigonol yw’r arian wrth gefn a gynigir. Mae’r asesiad o’r argymhelliad gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 18 Chwefror, 2019 wedi’i gynnwys yn Rhan 6 yr adroddiad sydd gerbron y Cyngor llawn. Mae’r cynnig gan yr Wrthblaid yn lleihau’r gwariant £385k sy’n cyfateb i
0.28% o’r gwariant net. Nid yw’r newid hwn mewn gwariant yn sylweddol ac nid yw’n newid barn y Swyddog Adran 151 ynghylch cadernid y gyllideb a gynigiwyd gan yr Wrthblaid. Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Swyddog Adran 151 wneud asesiad o’r cronfeydd cyffredinol, ac mae hwn wedi’i gynnwys yn Rhan 8 yr adroddiad. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth, yn ei farn broffesiynol ef, fod cronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor yn rhy isel ac y dylai’r isafswm balansau fod yn £6.7m. Ar 31 Mawrth, 2019 roedd y balansau cyffredinol yn sefyll ar tua £4.6m sydd dros £2m yn is na’r isafswm sydd wedi’i gyfrifo. Dywedodd y Swyddog ei fod yn derbyn, yn y sefyllfa ariannol bresennol, nad yw’n bosib cyllidebu ar gyfer unrhyw warged yn y gyllideb er mwyn dod â’r cronfeydd cyffredinol yn ôl i’r lefel ofynnol ac y bydd yn cymryd tua 3 i 5 mlynedd i ddod â’r cronfeydd wrth gefn yn ôl i’r lefel ddisgwyliedig. Mae’r gwelliant i’r gyllideb a gyflwynwyd yn peri lefel o risg i’r cronfeydd cyffredinol a nododd ei fod wedi cael trafodaethau gyda’r Wrthblaid, ac wedi hynny cylchredwyd e-bost ymysg yr Wrthblaid yn amlinellu’r risgiau wrth defnyddio’r cronfeydd cyffredinol; darllenwyd yr e-bost allan i’r Cyngor llawn.
Ymatebodd Arweinydd y Cyngor i’r gwelliant i’r gyllideb gan yr Wrthblaid mewn perthynas â pheidio llenwi swydd wag y Prif Weithredwr Cynorthwyol – gan arbed £100,000. Mae trafodaethau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd trwy’r Pwyllgor Penodi ynglŷn â swydd wag y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes). Lleihau nifer yr Aelodau ar y Pwyllgor Gwaith o 9 i 7 – gan arbed £26,464. Dywedodd iddi wneud penderfyniad i gynyddu aelodaeth y Pwyllgor Gwaith; mae profiad eang ymysg yr aelodau ac maent o gefndiroedd a phrofiadau gwahanol. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn parhau i ymdrechu i sicrhau cyfleoedd cyflogaeth ar yr ynys. Gohirio adeiladu’r Safle i Sipsiwn a Theithwyr yn Star – gan arbed £33,600 mewn Taliadau Cyllido Cyfalaf. Mae canfod safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr yn ddyletswydd statudol yn Neddf Tai Cymru 2014.
Fe gyfeiriodd Aelod at y cynnydd y mae’r Cyngor yn ei wynebu o ran ei gyfraniad at bensiynau athrawon, sy’n dod i gyfanswm o £800k. Dywedodd os yw Llywodraeth y DU am gyfrannu tuag at y cynnydd yng nghyfraniad pensiynau athrawon yn Lloegr yna dylai Llywodraeth Cymru roi cyllid i awdurdodau lleol allu ariannu’r cynnydd. Dywedodd ymhellach y dymunai weld plant yr Ynys yn cael yr addysg orau bosib a dywedodd ei fod yn cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Gwaith i leihau’r toriadau ariannol i’r gwasanaethau addysg o £1.7m i £626k.
Amlinellodd yr Wrthblaid y materion canlynol mewn perthynas â gosod y gyllideb am 2019/20:-
· Bydd 9.5% yn cael effaith ddifrifol ar drigolion yr Ynys, gyda phobl eisoes yn wynebu cynnydd yn eu biliau ynni;
· Bydd y golled cyflogaeth yn ddiweddar ar yr Ynys yn cael effaith ddifrifol ar y rheini sydd wedi eu heffeithio;
· Mae £9m wedi’i neilltuo o fewn y cronfeydd sydd wedi’u clustnodi – h.y. £620k sydd heb ei ddefnyddio mewn prosiectau TG a dros £1.25m o fewn y cronfeydd yswiriant;
· Dylid rhoi blaenoriaeth i ohirio adeiladu’r safle i Sipsiwn a Theithwyr pan ddaw cyllid ar gael;
· Mae’r blaid sydd mewn grym wedi crybwyll efallai y byddai’r Dreth Gyngor yn cynyddu ar yr un lefel y flwyddyn nesaf hefyd;
· Dylid ailystyried y cynnydd o 100% ar dai gwag gan y bydd hyn yn cael effaith ar gymunedau lleol;
· Cyfeiriwyd at y ffaith fod y gyllideb addysg dros £48m a bod y cyfraniad a dderbynnir gan LlC yn £52m. Petai addysg wedi derbyn y cyfraniad gan LlC yn ei gyfanrwydd ni fyddai angen diogelu cyllideb y gwasanaeth;
· Mae gorwariant wedi parhau yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac y llynedd cafodd 1% o’r cyllid Addysg ei drosglwyddo i gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol;
· Dylai’r Cyngor gymryd mantais o gynigion gan gwmnïau llwyddiannus o’r sector preifat ar yr Ynys sydd wedi cynnig eu gwasanaethau i fynychu sesiynau briffio i roi cefnogaeth ac arweiniad;
· Mae angen rheolaeth well a phrydlon o’r modd y caiff asedau’r Cyngor eu gwerthu.
Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y cyfeiriad a wnaed gan yr Wrthblaid at y cronfeydd sydd wedi’u clustnodi a dywedodd bod rhan o’r arian sydd yn y cronfeydd hyn tuag at gefnogi pobl fregus h.y. mae £100k ar gyfer Cefnogi Pobl yn y cronfeydd sydd wedi’u clustnodi (cefnogaeth yng nghyswllt trais domestig sydd ar gynnydd yn y rhanbarth) – mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi mynegi bod angen i awdurdodau lleol gynyddu adnoddau er mwyn trechu trais domestig, sy’n amcan rhanbarthol; a 100k yn y cronfeydd wedi’u clustnodi ar gyfer y gyllideb Gorfforaethol Pobl Fregus.
Dywedodd yr Arweinydd fod nifer o’r gwasanaethau yn y Cyngor yn wynebu galw cynyddol ar adeg pan fo llai o adnoddau, a neb yn fwy na’r Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n gofalu am y bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas.
Yn dilyn trafodaethau pellach, cytunwyd i gynnal pleidlais ar y gwelliant a gynigiwyd i’r gyllideb gan yr Wrthblaid.
Yn unol â pharagraff 4.1.18.4 yn y Cyfansoddiad, gofynnodd yr Wrthblaid am bleidlais gofnodedig ar y gwelliant a gynigiwyd. Nid oedd digon o aelodau wedi gofyn hyn er mwyn cyrraedd y nifer gofynnol i gael pleidlais gofnodedig.
Yn y bleidlais ddilynol, PENDERFYNWYD peidio cefnogi’r gwelliant i’r gyllideb.
Dymunai’r Cynghorydd A M Jones iddo gael ei gofnodi bod yr Wrthblaid wedi cynnig bod y Dreth Gyngor yn cael ei chynyddu 5%.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod angen dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog am setliad tecach i lywodraeth leol. Cynigiodd y gyllideb i’r Cyngor a’r argymhellion oedd wedi eu cynnwys yn (a) a (ch) yr adroddiadau. Eiliodd yr Arweinydd y cynnig.
Yn y bleidlais ddilynol, PENDERFYNWYD :-
· Derbyn y cynigion cyllidebol a’r Strategaeth Rheoli Trysorlys fel y’u cyflwynwyd ar gyfer 2019/20;
· Derbyn y penderfyniad drafft mewn perthynas â’r Dreth Gyngor fel yr ymddengys yn (ch) yn y Rhaglen:-
1. (a) Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, i fabwysiadu’r Cynllun Ariannol Tymor Canol yn Adran 11 Cynllun Ariannol Tymor Canol ac Adran 9 y Gyllideb 2019/20, fel Strategaeth Cyllideb oddi mewn i ystyr a roddir yn y Cyfansoddiad, ac i gadarnhau y daw’n rhan o’r fframwaith cyllidebol gyda’r eithriad o’r ffigyrau a ddisgrifir fel rhai cyfredol.
(b) Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, i fabwysiadu cyllideb refeniw 2019/20 fel y gwelir honno yn Atodiad 4 Cynllun Ariannol Tymor Canol a’r Gyllideb 2019/20.
(c) Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Gwaith, i fabwysiadu cyllideb cyfalaf fel y gwelir hwnnw yn yr adroddiad Cyllideb Cyfalaf 2019/20.
(ch) Dirprwyo i’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) y pŵer i wneud addasiadau rhwng penawdau yn Atodiad 4 Cynllun Ariannol Tymor Canol a’r Gyllideb 2019/20 er mwyn rhoi effaith i benderfyniadau'r Cyngor.
(d) Dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith, ym mlwyddyn ariannol 2019/20, y pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng penawdau fel a ganlyn:-
(i) pwerau dilyffethair i wario pob pennawd cyllidebol unigol yn Atodiad 4 Cynllun Ariannol Tymor Canol a’r Gyllideb 2019/20 yn erbyn pob gwasanaeth unigol, ar y gwasanaeth perthnasol;
(ii) pwerau i gymeradwyo’r defnydd o’r arian wrth gefn clustnodedig a rhai gwasanaeth i gyllido cynigion gwariant unwaith-ac-am-byth sy’n cyfrannu tuag at gyflawni amcanion y Cyngor a gwella gwasanaethau;
(iii) pwerau i drosglwyddo o’r ffynonellau incwm newydd neu uwch.
(dd) Dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith, mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol 2019/20 ac ar gyngor y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau), y pŵer i ryddhau hyd at £500k o falansau cyffredinol i ddelio gyda blaenoriaethau yn codi yn ystod y flwyddyn.
(e) Dirprwyo i’r Pwyllgor Gwaith, mewn perthynas â’r cyfnod hyd at 31 Mawrth 2020, y pwerau a ganlyn:-
(i) pwerau i wneud ymrwymiadau newydd o gyllidebau refeniw y dyfodol hyd at y symiau a nodir ar gyfer blaenoriaethau newydd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol;
(ii) y pwerau a’r ddyletswydd i baratoi cynlluniau i gyflawni arbedion cyllidebol refeniw fel yr awgrymir yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol;
(iii) pwerau i drosglwyddo cyllidebau rhwng prosiectau cyfalaf yn yr adroddiad Cyllideb Cyfalaf 2019/20 ac ymrwymo adnoddau yn y blynyddoedd dilynol gan gydymffurfio gyda’r fframwaith cyllidebol.
(f) Pennu a chymeradwyo’r dangosyddion pwyllog a rhai’r trysorlys sy'n amcangyfrifon a therfynau am 2019/20 ymlaen fel sy'n ymddangos yn yr adroddiad Datganiad ar Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2019/20.
(ff) Cymeradwyo’r Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys am 2019/20.
(g) Cadarnhau y bydd eitemau 1(b) i (ff) yn dod yn rhan o’r fframwaith cyllidebol.
2. PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2019/20 benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 1998, bod y Cyngor Sir yn pennu lefel y disgownt sy'n gymwys i'r Dosbarth penodedig A a Dosbarth penodedig B o anheddau dan Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998, fel a ganlyn:-
Dosbarth Penodedig A Dim Disgownt
Dosbarth Penodedig B Dim Disgownt
3. PENDERFYNWYD mabwysiadu a chadarnhau i bwrpas y flwyddyn ariannol 2019/20, benderfyniad y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2007 bod y Cyngor Sir yn pennu lefel disgownt sy'n gymwys i Ddosbarth penodedig C o anheddau dan Adran 12 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (a ddiwygiwyd), a ddisgrifir gan y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor) a'r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygiad) 2004, fel a ganlyn:-
Dosbarth Penodedig C Dim Disgownt
4. PENDERFYNWYD datgymhwyso unrhyw ddisgownt(au) a ganiatawyd i anheddau gwag tymor hir ac anheddau a feddiannir yn achlysurol (a elwir fel arfer yn ail gartrefi) ac i amrywio penderfyniad y Cyngor llawn a wnaed ar 28 Chwefror 2018 a gwneud cais am y flwyddyn ariannol 2019/20 swm uwch o'r Ddreth Gyngor (a elwir yn bremiwm y Dreth Cyngor) o 100% o gyfradd safonol y Dreth Gyngor ar gyfer anheddau gwag hirdymor ac ar gyfer anheddau a feddiannir o bryd i'w gilydd (a elwir fel arfer yn ail gartrefi) i gymhwyso swm uwch o Dreth Gyngor (a elwir yn bremiwm y Dreth Gyngor) o 35% o dan Adrannau 12A a 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 fel y'i mewnosodwyd gan Adran 139 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
4. Nodi bod y Cyngor yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 1996 wedi penderfynu na fydd yn trin unrhyw gostau yr aiff y Cyngor iddynt mewn rhan o'i ardal nac wrth gyfarfod unrhyw ardoll neu ardoll arbennig fel costau arbennig a bod y penderfyniadau i barhau mewn grym hyd oni fyddant yn cael ei diddymu'n benodol.
5. Y dylid nodi bod y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 26 Tachwedd 2018 wedi cymeradwyo’r symiau a glandrwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn fel sail y Dreth Gyngor ar gyfer 2019/20 a nodi ymhellach bod y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 11 Rhagfyr 2018 wedi cymeradwyo y bydd y Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn lleol yn parhau fel y mae am 2019/20. Nodwyd hefyd fod y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 2018 wedi mabwysiadu a chymeradwyo Polisi Dewisol Dreth Gyngor lleol dan Adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
6. Yn ei gyfarfod ar 26 Tachwedd 2018, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith, yn unol â Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor)(Cymru) 1995 (SI19956/2561) fel y’i diwygiwyd gan SI1999/2935 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor) a’r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau)(Cymru)(Diwygiad) 2004, a’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sail y Dreth Gyngor)(Cymru)(Diwygiad) 2016, gymeradwyo’r symiau a glandrwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn fel ei sail dreth ac ar gyfer rhannau o’r ardal, am y flwyddyn 2019/20, fel a ganlyn:-
a) 31,571.46 yw'r swm a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith fel sail y dreth gyngor Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn.
b) Y rhannau o ardal y Cyngor, sef y symiau a glandrwyd gan y Pwyllgor Gwaith fel y sail ar gyfer dreth gyngor Cyngor Sir Ynys Môn am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o’i ardal lle mae un neu fwy o eitemau arbennig yn berthnasol, yw fel a ganlyn:-
Amlwch |
1,506.32 |
Biwmares |
1,095.94 |
Caergybi |
3,927.52 |
Llangefni |
1,965.35 |
Porthaethwy |
1,443.42 |
Llanddanielfab |
379.48 |
Llanddona |
400.39 |
Cwm Cadnant |
1,171.95 |
Llanfair Pwllgwyngyll |
1,323.32 |
Llanfihangel Ysgeifiog |
693.04 |
Bodorgan |
459.96 |
Llangoed |
663.77 |
Llangristiolus a Cerrig Ceinwen |
632.10 |
Llanidan |
421.79 |
Rhosyr |
1,027.19 |
Penmynydd |
246.31 |
Pentraeth |
571.10 |
Moelfre |
631.10 |
Llanbadrig |
696.84 |
Llanddyfnan |
508.21 |
Llaneilian |
579.31 |
Llannerch-y-medd |
532.02 |
Llaneugrad |
185.47 |
Llanfair Mathafarn Eithaf |
1,871.09 |
Cylch y Garn |
403.68 |
Mechell |
565.96 |
Rhos-y-bol |
484.57 |
Aberffraw |
302.95 |
Bodedern |
430.87 |
Bodffordd |
414.40 |
Trearddur |
1,303.70 |
Tref Alaw |
266.72 |
Llanfachraeth |
231.49 |
Llanfaelog |
1,298.09 |
Llanfaethlu |
293.54 |
Llanfair-yn-Neubwll |
565.06 |
Valley |
993.83 |
Bryngwran |
365.99 |
Rhoscolyn |
360.99 |
Trewalchmai |
356.63 |
8. Bod y symiau a ganlyn bellach yn cael eu pennu gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2019/20, yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992:-
a) £193,484,077 sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2) (a) i (d) y Ddeddf.
b) £56,832,650 sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3) (a) a (c) y Ddeddf.
c) £136,651,427 sef y swm sy'n cyfateb i'r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 8(a) uchod a chyfanswm 8(b) uchod, a bennwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) y Ddeddf, yn gyllideb angenrheidiol ar gyfer y flwyddyn.
ch) £95,791,012 sef cyfanswm y symiau y mae'r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i Gronfa'r Cyngor gyda golwg ar drethi annomestig a ail-ddosberthir, grant cynnal refeniw a grant arbennig, gan dynnu unrhyw swm a bennwyd yn unol ag Adran 33(3) y Ddeddf.
d) £1,294.22 sef y swm yn 8(c) uchod llai'r swm yn 8(ch) uchod, gan rannu'r cyfan â'r swm a nodir yn 7(a) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 33(1) y Ddeddf, sef swm sylfaenol y dreth gyngor am y flwyddyn.
dd) £1,441,310 sef cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) y Ddeddf.
e) £1,248.57 sef y swm yn 8(d) uchod llai'r canlyniad a geir wrth rannu'r swm yn 8(dd) uchod â'r swm yn 7(a) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 34(2) y Ddeddf, sef swn sylfaenol y dreth gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'r ardal lle na fo unrhyw eitem arbennig yn berthnasol.
f) |
Rhan o Ardal y Cyngor |
D |
|
|
Amlwch |
£ |
1,314.09 |
|
Biwmares |
£ |
1,275.48 |
|
Caergybi |
£ |
1,378.80 |
|
Llangefni |
£ |
1,328.49 |
|
Porthaethwy |
£ |
1,315.71 |
|
Llanddanielfab |
£ |
1,272.24 |
|
Llanddona |
£ |
1,264.14 |
|
Cwm Cadnant |
£ |
1,275.39 |
|
Llanfair Pwllgwyngyll |
£ |
1,283.31 |
|
Llanfihangel Ysgeifiog |
£ |
1,274.49 |
|
Bodorgan |
£ |
1,273.50 |
|
Llangoed |
£ |
1,265.31 |
|
Llangristiolus a Cherrig Ceinwen |
£ |
1,261.17 |
|
Llanidan |
£ |
1,272.24 |
|
Rhosyr |
£ |
1,274.22 |
|
Penmynydd |
£ |
1,275.93 |
|
Pentraeth |
£ |
1,274.76 |
|
Moelfre |
£ |
1,266.75 |
|
Llanbadrig |
£ |
1,287.27 |
|
Llanddyfnan |
£ |
1,266.21 |
|
Llaneilian |
£ |
1,270.53 |
|
Llannerch-y-medd |
£ |
1,279.53 |
|
Llaneugrad |
£ |
1,270.08 |
|
Llanfair Mathafarn Eithaf |
£ |
1,276.29 |
|
Cylch y Garn |
£ |
1,264.86 |
|
Mechell |
£ |
1,264.86 |
|
Rhos-y-bol |
£ |
1,264.05 |
|
Aberffraw |
£ |
1,273.32 |
|
Bodedern |
£ |
1,271.70 |
|
Bodffordd |
£ |
1,273.77 |
|
Trearddur |
£ |
1,275.39 |
|
Tref Alaw |
£ |
1,273.86 |
|
Llanfachraeth |
£ |
1,283.40 |
|
Llanfaelog |
£ |
1,278.18 |
|
Llanfaethlu |
£ |
1,268.10 |
|
Llanfair-yn-Neubwll |
£ |
1,274.22 |
|
Y Fali |
£ |
1,281.06 |
|
Bryngwran |
£ |
1,276.38 |
|
Rhoscolyn |
£ |
1,259.64 |
|
Trewalchmai |
£ |
1,272.33 |
sef y symiau a geir trwy ychwanegu at y swm a geir yn 8(e) uchod, symiau'r eitem neu'r eitemau arbennig sy'n berthnasol i anheddau yn y rhannau hynny o ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod wedi'u rhannu ym mhob achos gan y swm yn 8(b) uchod, a bennwyd gan y Pwyllgor Gwaith yn unol ag Adran 34(3) y Ddeddf, sef symiau sylfaenol y dreth gyngor am y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o'i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy'n berthnasol.
sef y symiau a geir trwy luosi'r symiau yn 8(e) a 8(f) uchod a'r rhif sydd, yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5(1) y Ddeddf, yn berthnasol i anheddau a restrir mewn band prisiau arbennig wedi'i rannu â'r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny'n berthnasol i dai a restrir ym mand prisiau D, a bennir gan y Pwyllgor Gwaith, yn unol ag Adran 36(1) y Ddeddf, yn symiau sydd i'w hystyried ar gyfer y flwyddyn gyda golwg ar y categorïau o anheddau a restrir yn y gwahanol fandiau prisiau.
9. Y dylid nodi, ar gyfer y flwyddyn 2019/20, fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi'r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i'r Cyngor, yn unol ag Adran 40 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau a ddangosir isod:-
Awdurdod Praeseptio Bandiau Prisiau
|
|
|
|
A |
B |
C |
D |
E |
F |
G |
H |
I |
||
|
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru |
£ |
185.40 |
216.30 |
247.20 |
278.10 |
339.90 |
401.70 |
463.50 |
556.20 |
648.90 |
|||
10. Wedi pennu'r cyfanswm ym mhob achos o'r symiau yn 8(ff) a 9 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, drwy hyn yn pennu'r symiau a ganlyn ar gyfer y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn 2018/19 ar gyfer pob categori o anheddau a ddangosir isod:-
Amlygodd y Cadeirydd ar y pwynt hwn fod y Pwyllgor wedi bod yn rhedeg am dair awr bellach, ac o dan ddarpariaeth paragraff 4.1.10 Cyfansoddiad y Cyngor, roedd rhaid cael penderfyniad gan fwyafrif yr Aelodau o’r Pwyllgor oedd yn bresennol i barhau gyda’r cyfarfod. Penderfynwyd y dylai’r cyfarfod barhau.
Dogfennau ategol:
- Cyngor Sir - MTFP, eitem 7. PDF 648 KB
- Cyngor Sir - Cyllideb Gyfalaf, eitem 7. PDF 158 KB
- Cyngor Sir - Datganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys, eitem 7. PDF 474 KB
- Gosod y Dreth Gyngor, eitem 7. PDF 164 KB
- Anrhegion a Lletygarwch
- Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith
- Calendr
- Canlyniadau'r Etholiad
- Cofnodion, agendau ac adroddiadau
- Cyfansoddiad
- Cynghorau tref a chymuned
- Cyrff allanol a chyrff eraill
- Chwilio
- Eich AS ac aelod o'r Cynulliad
- E-ddeisebau
- Eich Cynghorwyr
- Eich Cynghorwyr yn ôl aelod portfolio
- Lwfansau Cynghorwyr
- Penderfyniadau
- Pwyllgorau