Eitem Rhaglen

Cais am Ganiatâd Arbennig

Ystyried cais am ganiatâd arbennig.

Cofnodion:

Gwnaed cais ar y cyd am ganiatâd arbennig gan yr wyth aelod canlynol o Gyngor Cymuned Llaneilian: Y Cynghorwyr Ian Nicholas Evans, David Gerrard, Dafydd Griffiths, Helen Hughes, Thomas Elfyn Hughes, Glenys Jones, Thomas David Jones a Carol Whitaker. Mae’r cais yn ymwneud â diddordebau sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r ddarpariaeth o addysg yn ardal Amlwch. Nodwyd fod wyth o’r un ar ddeg o aelodau o Gyngor Cymuned Llaneilian yn ystyried eu hunain fel bod â diddordeb sy’n rhagfarnu.     

 

Mae’r Panel, drwy’r Cadeirydd, eisoes wedi cytuno i ystyried cais ar y cyd ar ffurf ymarfer papur yn unig. Nid oedd y Clerc na’r ymgeiswyr yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro, gan fod cyd-destun pob cais yn ymwneud â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn ardal Amlwch a bod y sail statudol berthnasol yr un peth ym mhob achos, bod yr holl geisiadau am ganiatâd arbennig yn cael eu delio â nhw gyda’i gilydd.

 

Bydd ymgynghoriad ffurfiol statudol yn dechrau ym mis Ebrill a fydd yn adolygu dyfodol ysgolion yn y sector cynradd ac uwchradd, yn cynnwys Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Bydd Cyngor Cymuned Llaneilian yn un o dri ymgynghorai yn y broses ymgynghori statudol. Nodwyd fod potensial y gallai un neu fwy o’r ysgolion o dan ystyriaeth wynebu’r posibilrwydd o gau ac o ganlyniad fe allai hynny gael effaith ar blant yr ardal a’r staff sy’n gweithio yn yr ysgolion. Yn dilyn y broses ymgynghori, cyflwynir adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei ystyried. 

 

Amlygodd y Swyddog Monitro fod yr holl geisiadau yn wahanol o ran ffeithiau unigol sydd, gydag un eithriad, yn disgyn i un o ddau gategori: 

 

1.  yr effaith bosibl o gau / ad-drefnu ysgolion ar blant sy’n perthyn i / â chysylltiad â’r ymgeiswyr; neu

2.  yr effaith bosibl ar rai o aelodau o deulu’r ymgeiswyr a gyflogir gan yr ysgolion. 

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod gan bob aelod o’r Cyngor Cymuned ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu ac felly bod yn rhaid iddynt ddatgan diddordeb a gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. 

 

Cynghorodd y Swyddog Monitro y Panel i roi ystyriaeth benodol i’r seithfed ymgeisydd at y sail nad oedd yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn dod o dan gategori 1 na 2 uchod ac, os oes diddordeb personol/sy’n rhagfarnu, bydd yn ddiddordebllesiant” o dan y Cod o ganlyniad i gyfnod cyflogaeth hir yr ymgeisydd fel athro yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. 

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at Baragraff 2(a), (f) a (i) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Caniatâd Arbennig) (Cymru) 2001, a soniodd am yr  amgylchiadau ble gellir rhoi caniatâd arbennig. Nododd, petai’r Panel yn gwrthod rhoi caniatâd arbennig, na fyddai’r Cyngor Cymuned yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau a chynrychioli’r gymuned yn y broses ymgynghori oherwydd na fyddai cworwm yn y cyfarfodydd. 

 

Mynegodd y Panel bryder bod bylchau yn rhai o’r ffurflenni cais a dderbyniwyd a phwysleisiwyd y pwysigrwydd o sicrhau bod aelodau/ymgeiswyr yn gyfrifol am gwblhau ceisiadau eu hunain ac na ddylent fod yn dibynnu ar y Clerc i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol i’r Panel. Roedd y Panel yn dymuno tynnu sylw at y pryder hwn ond roedd yn fodlon bod ganddo wybodaeth ddigonol, diolch i gymorth y Clerc, i wneud ei benderfyniad. Roedd y Panel hefyd yn ymwybodol o'r angen i ddelio â’r mater hwn o fewn amserlen gyfyngedig ac i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud er lles y gymuned.  

 

Cynhaliodd y Panel drafodaeth breifat. Yn dilyn trafodaeth, cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Panel Caniatâd Arbennig wedi PENDERFYNU rhoi caniatâd arbennig ar y cyd i’r Cynghorwyr Ian Nicholas Evans, David Gerrard,

Dafydd Griffiths, Helen Hughes, Thomas Elfyn Hughes, Glenys Jones, Thomas David Jones, a Carol Whitaker:-   

 

  ysgrifennu at swyddogion [a/neu’r Pwyllgor/Cyngor Cymuned] mewn perthynas â’r mater;

  siarad â swyddogion y Cyngor Cymuned am y mater;

  siarad mewn cyfarfodydd Pwyllgor/cyfarfodydd Cyngor Cymuned am y mater ac ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r mater;

  aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth/pleidlais ar y mater;

  pleidleisio;

  mynychu a siarad mewn cyfarfodydd cyhoeddus ac i siarad a chyfarfod â thrydydd partïon mewn cysylltiad â’r ymgynghoriad hwn a’r prosiect yn gyffredinol;

  bydd y caniatâd arbennig yn para tan ddiwedd y broses Moderneiddio Ysgolion yn ardal Amlwch neu am dymor y Cyngor Cymuned hwn, pa un bynnag yw’r hwyraf.

 

Rhoddir y caniatâd arbennig o dan Adran 81(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 lle mai gan o leiaf hanner y Cynghorwyr (Cyngor Cymuned / Pwyllgorau) ble mae’r busnes yn cael ei ystyried, ddiddordeb sy’n ymwneud â’r busnes hwnnw. 

 

Gweithred:

 

  Y Swyddog Monitro i ysgrifennu at yr wyth aelod o Gyngor Cymuned Llaneilian yn cadarnhau eu bod wedi derbyn caniatâd arbennig a fydd yn galluogi pob aelod o ysgrifennu, siarad a phleidleisio ar yr holl faterion yn ymwneud â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion; hefyd, bod ganddynt yr hawl i aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth/pleidlais ar y mater. 

  Y Swyddog Monitro i hysbysu Clerc Cyngor Cymuned Llaneilian am benderfyniad y Panel o ran y caniatâd arbennig a amlinellwyd uchod; hefyd, y Swyddog Monitro, ar ran y Panel i ysgrifennu at y Clerc i ddiolch iddi am ei gwaith mewn perthynas â’r uchod.

  Yr wyth aelod o Gyngor Cymuned Llaneilian i ddatgan eu diddordeb personol a rhagfarnus pan yn mynychu cyfarfodydd Pwyllgor/Cyngor Cymuned.

  Y Swyddog Monitro i ysgrifennu at yr holl Gynghorau Cymuned er mwyn tynnu sylw at yr angen i lenwi ffurflenni caniatâd arbennig yn llawn (dylid cynnwys hyn ar adeg ail-gyflwyno’r cyngor mewn perthynas â cheisio caniatâd arbennig).

 

Dogfennau ategol: