Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion ar Ynys Mon - Adroddiad yn dilyn cyhoeddi'r rhybudd statudol ar gyfer cau Ysgol Gynradd Biwmares, ehangu ac adnewyddu Ysgol Llandegfan ac adnewyddu Ysgol Llangoed, a chymeradwyaeth o'r cynnig gwreiddiol

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith – adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori adroddiad ar wrthwynebiadau (Atodiad 1) yn dilyn cyhoeddi Rhybudd Statudol o fwriad yr Awdurdod i gau Ysgol Biwmares, ehangu ac adnewyddu Ysgol Llandegfan ac adnewyddu Ysgol Llangoed.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid bod yr Awdurdod, er mwyn cydymffurfio â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, wedi cyhoeddi Rhybudd Statudol o’i fwriad i gau Ysgol Biwmares, i ehangu ac adnewyddu Ysgol Llandegfan ac adnewyddu Ysgol Llangoed. Cyhoeddwyd y Rhybudd Statudol ar 14 Ionawr, 2019  gyda chyfnod o 28 diwrnod i ddilyn ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau i’r cynnig. Yn Atodiad 1 yr adroddiad, ceir crynodeb o’r 50 o wrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb yr Awdurdod i bob gwrthwynebiad. Mae’r modd y mae’r Cyngor yn delio gyda gwrthwynebiadau i rybudd statudol yn cydymffurfio â’r weithdrefn a amlinellwyd yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 sy’n golygu bod angen i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynigion, eu gwrthod neu eu cymeradwyo gyda newidiadau.  Cafodd rhybudd statudol o fwriad yr Awdurdod i weithredu’r cynnig ei gyhoeddi’n wreiddiol ar 22 Tachwedd, 2018 a oedd yn golygu bod y cyfnod gwrthwynebu 28 diwrnod yn cau ar 27 Rhagfyr, 2018 a oedd yn cyd-dddigwydd â gwyliau’r ysgol. Er mwyn caniatáu mwy o amser i gydranddeiliaid ymateb, cyhoeddwyd rhybudd statudol pellach ar 14 Ionawr, 2019 a daeth y cyfnod gwrthwynebu i ben ar 10 Chwefror, 2019.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio y cychwynnwyd ar y broses o foderneiddio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol ym mis Mehefin, 2017 gydag ymgynghoriad anstatudol. Wedi hynny, cynhaliwyd proses ymgynghori statudol. Ar 26 Mawrth, 2018, penderfynodd y pwyllgor gwaith ohirio gwneud penderfyniad er mwyn cynnal ymgynghoriad statudol newydd ar y cynigion ar gyfer addysg gynradd yn yr ardal. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod cyfarfod heddiw, ble mae’n rhaid i’r Pwyllgor Gwaith gadarnhau, gwrthod neu ddiwygio’r cynigon a gymeradwywyd ganddo ar 18 Gorffennaf, 2018 lle byddai Ysgol Llandegfan yn cael ei hehangu a’i hadnewyddu, Ysgol Biwmares yn cau ac Ysgol Llangoed yn cael ei hadnewyddu, yn benllanw proses faith lle rhoddwyd sylw manwl i ddyfodol addysg gynradd yn Ardal Seiriol sydd wedi golygu ymgynghori eang ar hyd y ffordd ynghyd a chyfnod o oedi er mwyn ail-gynnal ymgynghoriad.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at y gwrthwynebiadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad ac y gellir eu crynhoi dan y themâu isod –

 

           Ar sail proses gan gynnwys y modd y cynhaliwyd yr ymgynghoriadau a’r modd y cyhoeddwyd y rhybudd statudol.

           Ar sail effeithiau posibl y cynnig ar dref Biwmares a’i demograffi.

           Yn seiliedig ar anghytundeb gyda’r opsiwn a ffefrir.

           Ar y sail nad oes digon o ystyriaeth wedi’i rhoi i opsiynau eraill.

           Ar y sail y gallai’r cynigion arwain at rieni’n dewis anfon eu plant i ysgolion ar y tir mawr.

           Ar y sail nad oes digon o ystyriaeth wedi’i rhoi i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

           Ar y sail nad oes unrhyw grŵp cydranddeiliaid wedi cael ei sefydlu’n dilyn y penderfyniad na thrafodaethau wedi cael eu cynnal chwaith gyda’r Little Puffins neu Ti a Fi, rhywbeth a oedd yn rhan o benderfyniad y Pwyllgor Gwaith ym mis Gorffennaf, 2018.

           Ar sail traffig ac ystyriaethau’n ymwneud â theithio.

           Ar sail cywirdeb y data ac, yn benodol, y ffigwr a gyflwynwyd ar gyfer gwaith cynnal a chadw a oedd wedi ôl-gronni.

 

Dywedodd y Swyddog fod ymateb yr Awdurdod i bob un o’r gwrthwynebiadau a restrwyd yn yr Adroddiad ar y Gwrthwynebiadau yn nodi’r sail dros y modd y bu i’r Awdurdod weithredu mewn perthynas â phob un o’r pwyntiau a godwyd. Yn achos rhai o’r materion, e.e. trafodaethau gyda chydranddeiliaid, sef Little Puffins a Ti a Fi yn dilyn gwneud y penderfyniad, dywedodd y Swyddog fod yr Awdurdod o’r farn y byddai’n briodol disgwyl hyd oni fyddai’r cyfnod gwrthwynebu wedi dod i ben cyn cychwyn trafodaethau o’r fath.  Yr un modd o ran ystyriaethau teithio a thraffig, gallai datblygu cynlluniau cludiant ymlaen llaw fod wedi cael ei ystyried fel bod y penderfyniad ar y ddarpariaeth addysg yn yr ardal wedi cael ei wneud yn barod. Bydd Asesiad Effaith Traffig yn cael ei gynnal i fynd i’r afael â materion traffig a theithio.  

 

Soniodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid am e-bost a oedd wedi cael ei gylchredeg gan Gyngor Tref Biwmares i’r rhan fwyaf o aelodau’r Pwyllgor Gwaith y prynhawn blaenorol ble yr oedd nifer o bwyntiau’n cael eu codi. Roedd cynnwys yr e-bost, na fedrir ei ystyried fel rhan o’r gwrthwynebiadau ffurfiol oherwydd iddynt gael eu cyflwyno wedi i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben, yn adlewyrchu themâu’r gwrthwynebiadau a ymddengys yn yr Adroddiad Gwrthwynebiadau ffurfiol. Fodd bynnag, cyfeiriodd yr Aelod Portffolio yn benodol at y gwrthwynebiad a godwyd ym mhwynt 12 yr adroddiad ar y Gwrthwynebiadau fel pwynt technegol sy’n cyfeirio at y Pwyllgorau Sgriwtini a gynhaliwyd ar 2 Hydref, 2017, 12 Mawrth, 2018, 13 Gorffennaf, 2018 a 2 Awst, 2018 fel rhai nad oeddynt yn gwbl gyfansoddiadol. Codir y pwynt hwn hefyd yn yr e-bost gan Gyngor Tref Biwmares a ddywed bod y Pwyllgor Sgriwtini wedi gweithredu’n “ultra vires” neu’r tu draw i’w awdurdod cyfreithiol.

 

Eglurodd y Cyfreithiwr (Gofal Cymdeithasol) mai ystyr “ultra vires” yw “gweithredu’r tu draw i’w pwerau”.  Swyddogaeth y Pwyllgor Sgriwtini fel yr amlinellir hynny yng Nghyfansoddiad y Cyngor yw adolygu, craffu a gwneud argymhellion i’r Cyngor a/neu’r Pwyllgor Gwaith – nid yw o fewn ei bwerau neu ei sgôp i wneud penderfyniad; yn achos moderneiddio ysgolion, swyddogaeth i’r Pwyllgor Gwaith yw honno. Yn yr achos hwn felly, oherwydd nad oes gan y Pwyllgor Sgriwtini unrhyw bwerau i wneud penderfyniad, nid yw’r diffiniad o “ultra vires” yn berthnasol iddo. Y Pwyllgor Gwaith yw’r corff sy’n gwneud y penderfyniad ar faterion trefniadaeth ysgolion ac nid yw cyfansoddiad y Pwyllgor Gwaith yn cael ei herio.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr ymhellach, fod yr Awdurdod wrthi’n rhoi sylw i’r pwynt a godwyd mewn perthynas â chyfansoddiad y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

 

Fe wnaeth y Cynghorwyr Alun Roberts, Lewis Davies a Carwyn Jones annerch y Pwyllgor yn rhinwedd eu rôl fel Aelodau Lleol. Fe wnaethant ailadrodd y gwrthwynebiadau a fynegwyd ganddynt yn gynharach yn y broses i’r penderfyniad i gau Ysgol Biwmares, gan gredu y byddai hynny’n cael effaith andwyol ar dref a chymuned Biwmares ac ar dwf a llewyrch yr ardal yn y dyfodol ac mai hwn yw’r ateb anghywir ar gyfer darparu addysg gynradd yn ardal Seiriol. Wrth ofyn i’r Pwyllgor Gwaith ailystyried ac ymchwilio’n fanylach i opsiynau eraill yn hytrach na chau Ysgol Biwmares, gwnaed y pwyntiau a ganlyn gan yr Aelodau Lleol -

 

           Nad yw’r opsiwn a ffefrir yn cynrycholi’r ateb gorau ar gyfer yr holl blant yn ardal Seiriol a bod yma ddiffyg gweledigaeth. Byddai’n well oedi ac ailystyried yn seiliedig ar well dealltwriaeth o’r hyn y mae rhieini ei eisiau a chan gymryd i ystyried yr holl ffactorau. Mae yna ormod o gwestiynau sydd heb gael eu hateb – rhoddir sylw i’r pwynt hwn ym mharagraff 37 yr Adroddiad ar y Gwrthwynebiadau.

           Nid yw’r opsiwn a ffefrir ychwaith yn darparu ateb creadigol ar gyfer ad-drefnu addysg gynradd yn yr ardal oherwydd mae’n anwybyddu’r cyfle i fabwysiadu datrysiad mwy arloesol, er enghraifft, model yn seiliedig ar gyfuno’r ysgol gynradd a chyfleuster gofal ychwanegl ar yr un safle – rhywbeth y mae’r rhieni ar gymuned yn ei gefnogi  rhoddir sylw i’r pwynt hwn ym mharagraff 6 yr Adroddiad ar y Gwrthwynebiadau.

           Nid yw’r pryderon a godwyd gan gydranddeiliaid wedi cael sylw digonol, yn benodol felly’r effeithiau y bydd cau Ysgol Biwmares yn eu cael ar Fiwmares o ran erydu rhagolygon y dref i fod yn gymuned fywiog, hyfyw a gwydn yn y dyfodol -rhoddir sylw i’r pwynt hwn ym mharagraff 11 yr Adroddiad ar y Gwrthwynebiadau sy’n cadarnhau fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi cael ei hystyried fel rhan o’r ymgynghoriad statudol.

           Bod y Pwyllgor Sgriwtini anghyfansoddiadol a gyfarfu ar bedwar achlysur i drafod y mater hwn wedi cael effaith negyddol ar yr holl broses ymgynghori– rhoddir sylw i’r pwynt hwn ym mharagraff 12 yr Adroddiad ar y Gwrthwynebiadau a chafwyd cadarnhad gan y Cyfreithiwr uchod nad oes unrhyw oblygiadau o ran proses oherwydd nad oes gan y Pwyllgor Sgriwtini unrhyw bwerau i wneud penderfyniad. 

           Byddai’r gost o gynnal a chadw Ysgol Biwmares sy’n adeilad rhestredig yn wag yn costio mwy na chadw’r ysgol ar agor fel ysgol weithredol –dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 bod y gyllideb ar gyfer Ysgol Biwmares oddeutu £250k; bydd rhai o’r costau wedi iddi gau, e.e. costau athrawon yn trosglwyddo i ble bynnag y bydd y disgyblion yn symud. Mae’r gyllideb ar gyfer Ysgol Biwmares wedi tynnu costau’r athrawon a’r disgyblion yn £70k ac o honno, bydd oddeutu £61k yn gostau sy’n gysylltiedig â’r adeilad ac yn cynnwys ynni, trethi, glanhau a chynnal a chadw. Byddai cau’r ysgol felly’n gostwng y gyllideb y byddai ei hangen gan oddeutu £70k, sy’n uwch na’r gost o adael yr adeilad yn wag. Byddai cost hynny, ar ôl costau diogelwch, yn isel ac yn llai na’r £70k fyddai’n cael ei arbed wrth gau’r ysgol.

           Nid oedd y cyfan o’r gwrthwynebiadau a gyflwynwyd wedi cael eu rhestru yn yr Adroddiad ar y Gwrthwynebiadau a oedd yn cynnwys deiseb yn erbyn y bwriad i gau’r ysgol ynghyd â llythyrau ychwanegol o wrthwynebiad– dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod dyddiad y ddeiseb yn hanesyddol a bod y materion a godwyd ynddi wedi cael sylw yn ystod y broses gyfan. O ran y gwrthwynebiadau a gyflwynwyd, eglurodd y Swyddog ei bod yn ddisgwyliedig dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 bod yr Awdurdod yn darparu crynodeb o’r gwrthwynebiadau hynny – mae’r 50 gwrthwynebiad a restrir yn yr adroddiad yn cynrycholi’r themâu a godwyd yn y gwrthwynebiadau yn eu cyfanrwydd.

 

Wrth ystyried yr adroddiad a’r gwrthwynebiadau a godwyd, nododd y Pwyllgor Gwaith yr isod –

 

           Bod y broses o wneud penderfyniad ar gyfer moderneiddio’r ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Seiriol wedi bod yn mynd rhagddo ers bron i ddwy flynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol, dau ymgynghoriad statudol, 9 o gyfarfodydd cyhoeddus yn ward Seiriol rhwng Mehefin, 2017 a Mehefin, 2018 ynghyd â chyfarfodydd o’r Pwyllgor Sgriwtini ble cafodd yr holl opsiynau ac ymatebion y cydranddeiliaid iddynt eu gwyntyllu, eu trafod, eu pwyso a’u mesur a’u sgorio yn erbyn dewisiadau amgen gan gynnwys opsiynau a gyflwynwyd gan gydranddeiliaid a chan Gorff Llywodraethu Ysgol Biwmares. Ym mis Mawrth, 2018, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith oedi’r broses er mwyn ail-gynnal ymgynghoriad statudol newydd ar y cynigion ar gyfer addysg gynradd yn yr ardal. Nid yw’r gwrthwynebiadau a gyflwynwyd yn codi unrhyw faterion newydd o sylwedd nad ydynt eisoes wedi cael eu hystyried yn ystod y broses ymgynghori a gynhaliwyd; nid ydynt ychwaith yn cynnig opsiwn newydd.

           O’r herwydd, mae’n amserol yn awr i ddwyn y mater i’w derfyn oherwydd mae’r ansicrwydd sy’n cael ei greu drwy ymestyn y broses o wneud penderfyniad am gyfnod hir yn achosi annifyrrwch i’r holl gydranddeiliaid ac mae’n golygu na fedrir symud pethau yn eu blaenau. Mae’r datrysiad a ffefrir wedi cael ei gynnig ar ôl ymgynghori’n helaeth ar amrediad eang o opsiynau gan gymryd i ystyriaeth anghenion yr ardal a tybir mai hwn yw’r datrysiad gorau yn yr amgylchiadau sydd ohoni ac o ran cwrdd ag amcanion y rhaglen moderneiddio ysgolion.  Bydd yn darparu dwy ysgol gynradd yn ardal Seiriol a fydd yn cael eu hadnewyddu i safon ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. 

           Bod y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, wrth geisio newid y patrwm hir-sefydlog o addysg gynradd ar Ynys Môn yn golygu yn anorfod y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd a dyma un o’r penderfyniadau hynny.

           Bod y Pwyllgor Gwaith ym mis Hydref, 2018 wedi adolygu a diweddaru ei Strategaeth Addysg gan ail-ddatgan ei weledigaeth ar gyfer Ysgolion Môn fel sefydliadau effeithiol ac effeithlon sy’n darparu addysg sydd gyda’r gorau yn genedlaethol. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod y broses foderneiddio yn arwain ysgolion o’r maint iawn yn y lleoliadau iawn sy’n darparu’r amgylchedd dysgu gorau ar gyfer pob plentyn er mwyn sicrhau eu bod yn llwyddo hyd orau eu gallu. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion ar Ynys Môn wedi cael ei thrafod gydag Arolygiaeth Estyn sydd wedi cydnabod y gwaith y mae’r Cyngor wedi ei wneud yn hyn o beth. Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn awyddus i’r strategaeth barhau i gael ei gweithredu er mwyn gwireddu yr hyn sy’n weledigaeth i’r Cyngor cyfan, sef sicrhau bod holl blant yr ynys yn cael cyfle cyfartal i gael yr addysg orau bosibl, waeth ble ar yr Ynys y maent yn mynd i’r ysgol.

 

Penderfynwyd -

 

           Cymeradwyo’r cynnig gwreiddiol, sef i adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llandegfan, cau Ysgol Biwmares ac adnewyddu Ysgol Llangoed.

           Awdurdodi Swyddogion i barhau gyda’r broses o adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llangoed, cau Ysgol Biwmares, ac adnewyddu Ysgol Llangoed.

 

(Ni wnaeth y Cynghorydd Carwyn Jones gymryd rhan yn y bleidlais ar y mater).

Dogfennau ategol: