Eitem Rhaglen

Moderneiddio Ysgolion - Adroddiad Gwrthwynebu: Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad gan y Pennaeth Dysgu yn cynnwys adroddiad ar y gwrthwynebiad (Atodiad 1) a gafwyd yn dilyn cyhoeddi Rhybudd Statudol i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i wneud lle ar gyfer disgyblion o Ysgol Talwrn a chau Ysgol Talwrn.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid bod yr Awdurdod, er mwyn cydymffurfio gyda gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, wedi cyhoeddi Rhybudd Statudol o’i fwriad i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i wneud lle ar gyfer disgyblion o Ysgol Talwrn a chau Ysgol Talwrn. Cyhoeddwyd y Rhybudd Statudol ar 14 Ionawr, 2019  gyda chyfnod o 28 diwrnod i ddilyn ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau i’r cynnig. Yn Atodiad 1 yr adroddiad, ceir crynodeb o’r 23 o wrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghyd ag ymateb yr Awdurdod i bob gwrthwynebiad. Mae’r modd y mae’r Cyngor yn delio gyda gwrthwynebiadau i rybudd statudol yn cydymffurfio â’r weithdrefn a amlinellwyd yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion 2013 sy’n golygu bod angen i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynigion, eu gwrthod neu eu cymeradwyo gyda newidiadau.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Dysgu at y gwrthwynebiadau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad ac y gellir eu crynhoi dan y themâu isod

 

           Ar sail llefydd ysgol gan ddweud na fydd digon o lefydd yn yr ysgol newydd y bwriedir ei chodi.

           Ar y sail bod nifer y disgyblion sy’n mynychu Ysgol Talwrn wedi cynyddu ers yr ymgynghoriad.

           Ar sail traffig ac ystyriaethau teithio.

           Ar sail proses gan gynnwys y modd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad, yr asesiadau effaith a wnaed a’r modd y cyhoeddwyd y rhybudd statudol.

           Ar y sail bod safonau yn Ysgol Talwrn yn dda a bod yr ysgol wedi derbyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn yn dilyn arolygiad a gynhaliwyd yn ddiweddar.

           Ar y sail na chafodd barn y disgyblion ei chymryd i ystyriaeth fel rhan o’r ymgynghoriad.

           Ar y sail y bydd yn anodd i blant drosglwyddo o ysgol wledig fechan i ysgol fawr mewn tref ac y bydd hynny’n heriol i’r plant dan sylw.

 

Dywedodd y Swyddog fod ymateb yr Awdurdod i bob un o’r gwrthwynebiadau a restrwyd yn yr Adroddiad ar y Gwrthwynebiadau yn nodi’r sail dros y modd y bu i’r Awdurdod weithredu mewn perthynas â phob un o’r pwyntiau a godwyd. Yn yr un modd â’r achos blaenorol, bydd asesiad traffig a theithio’n cael ei gynnal yn dilyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau ac unwaith y bydd penderfyniad terfynol wedi’i wneud.

 

Wrth ystyried yr adroddiad a’r gwrthwynebiadau a godwyd, nododd y Pwyllgor Gwaith yr isod

 

           Er bod nifer y disgyblion yn Ysgol Talwrn wedi cynyddu ers yr ymgynghoriad, cyd-ddigwyddodd hynny â chynnydd cyfatebol yn ystod yr un cyfnod o ran nifer y plant a ddaeth i’r ysgol o’r tu allan i’r dalgylch wedi i ysgolion Llangefni gyrraedd neu fynd dros eu capasiti. Mae nifer y disgyblion all-dalgylch sydd wedi eu cofrestru yn Ysgol Talwrn yn cyfrif am gyfran sylweddol o gyfanswm nifer y disgyblion yn yr ysgol.

           Bod safonau yn Ysgol Talwrn yn dda a bod y Pwyllgor Gwaith yn bwriadu i’r safonau hynny gael eu cynnal fel rhan o’r ddarpariaeth addysgol ar gyfer yr ardal hon yn Llangefni.

           Nid yw’r adroddiad ar y gwrthwynebiadau yn codi unrhyw faterion newydd na chawsant eu hystyried yn ystod y broses ymgynghori.

           Mae’n amserol i’r broses foederneiddio, ar gyfer yr ardal hon yn Llangefni, ddod i ben yn awr oherwydd mae wedi bod yn mynd rhagddi ers amser maith ers iddi gychwyn ym mis Rhagfyr 2016.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r penderfyniad gwreiddiol, sef i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i wneud lle i ddisgyblion Ysgol Talwrn, a chau Ysgol TaIwrn.

 

Gwneir hyn drwy

 

           Ddefnyddio’r adeilad presennol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 h.y. Blynyddoedd 3 i 6 a’i addasu;

           Adeiladu Bloc newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, sef Meithrin, Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2;

           Ystyried ail-leoli’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg ar gampws Ysgol y Graig.

 

Byddai’r bloc newydd yn rhan o Ysgol y Graig, nid yn uned ar wahân.Y trefniant newydd i weithredu fel un ysgol ac nid fel dwy uned ar wahân.

Dogfennau ategol: