Eitem Rhaglen

Datblygiadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Gymuned ar gyfer Oedolion

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Prif Swyddog o Medrwn Môn i’r cyfarfod. Croesawodd hefyd Dr Dyfrig ap Dafydd, Meddyg Teulu o Langefni sydd hefyd yn arwain ar y prosiect clwstwr meddygon teulu ar Ynys Môn.  

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro mewn perthynas â lle mae’r Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Sir yn gweithio mewn partneriaeth i newid sut y darperir cymorth o fewn cymunedau. Bydd y meysydd gwaith hyn yn hanfodol er mwyn newid y ffordd o wneud pethau dros y blynyddoedd i ddod. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro, cynrychiolwr o Fwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Dyfrig ap Dafydd a’r Prif Swyddog o Menter Môn fel a ganlyn:-

 

·           Model Clystyrau Meddygon Teulu – Er mwyn gwella gallu Ymarferwyr Gofal Sylfaenol i gefnogi eu cymunedau mae’r Model Clystyrau Meddygon Teulu’n cael ei gryfhau ar draws Gogledd Cymru. Clwstwr yw grŵp o ymarferwyr gofal sylfaenol sy’n gweithio gyda’i gilydd mewn ardaloedd daearyddol penodol er mwyn sicrhau fod gwasanaethau a chefnogaeth addas ar gael ac yn cael eu darparu’n lleol o fewn yr ardal honno. Mae 11 o feddygfeydd Meddygon Teulu a fydd yn gweithredu o fewn ardal Clwstwr Ynys Môn.

 

Mae un clwstwr yn Ynys Môn sydd wedi gweld gwelliannau lleol diweddar yn cynnwys cynyddu capasiti drwy ddarparu Ffisiotherapyddion a Fferyllwyr

ychwanegol o fewn y gwasanaeth. Mae Ffisiotherapyddion Ymarfer Uwch yn caniatáu i bobl sydd â phroblemau cyhyrysgerbydol gael eu gweld yn lleol gan Uwch Ymarferydd Ffisiotherapi Cyhyrysgerbydol yn hytrach na gweld eu meddyg teulu. Mae’r gwasanaeth a arweinir gan Ffisiotherapyddion yn golygu bod modd i gleifion gael eu gweld yn lleol yn brydlon ac i’r cyflwr gael ei reoli’n gynnar ac o ganlyniad, atal y cyflwr rhag gwaethygu a’r risg o ddatblygu cyflyrau cronig. Mae Clwstwr Ynys Môn wedi bod yn gweithio’n agos â Chanolfan Iechyd Meddwl a Llesiant Abbey Road er mwyn sefydlu darpariaeth ar gyfer cleifion Iechyd Meddwl Haen 0 o fewn y feddygfa.

 

Bydd Clwstwr Ynys Môn yn canolbwyntio ar ddatblygu ymhellach y meysydd canlynol o Ebrill 2019 ymlaen:-

 

  • Model Rhagnodi Cymdeithasol, gan weithio gyda Medrwn Môn i ddatblygu’r

     gwasanaeth ymhellach o gwmpas yr hybiau cymunedol er mwyn tynnu      cleifion oddi wrth y feddygfa.

  • Gwaith pellach gyda’r Heddlu a’r Comisiynydd Trosedd i ddatblygu’r gwasanaeth
  • Lansiad llawn model Rhagnodi Cymdeithasol Ynys Môn ym mis Ebrill.

 

·           Tîm Adnoddau Cymunedol – Bydd 3 Tîm Adnoddau Cymunedol yng Nghlwstwr Ynys Môn. O fewn pob ardal, bydd o leiaf un lle hawdd cael ato

       (naill ai lle parhaol neu le y gellir ei rentu / ddefnyddio yn ôl yr angen) fydd yn

       caniatáu i’r Tîm Amlddisgyblaethol gynnal trafodaethau am gleifion. Yn

       ymarferol, bydd datblygu Timau Adnoddau Cymunedol yn Ynys Môn yn golygu

       y bydd ein Gweithwyr Cymdeithasol Oedolion a Therapyddion Galwedigaethol

       yn gweithio’n bennaf o’r canolfannau lleol hyn. Nod y Tîm Adnoddau

      Cymunedol yw y bydd gan bob oedolyn sy’n byw ar Ynys Môn fynediad syml ac

      uniongyrchol i Dîm Adnoddau Cymunedol erbyn diwedd 2019/20. Bydd y Timau

      yn darparu gwasanaeth llyfn drwy ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol mewn

      modd cydlynus. Byddant yn datblygu cryfderau unigol a rhwydweithio

      cymunedol ac yn defnyddio cefnogaeth arbenigol lle bod angen er mwyn

      hyrwyddo llesiant a chaniatáu unigolion i fyw eu bywydau fel y maent yn ei

      ddymuno. Bydd rhywfaint o gymorth ar gael ar lefel leol/clwstwr, a bydd yn cael

      ei rannu ar draws yr holl ardaloedd. Mae enghreifftiau’n cynnwys Cefnogaeth

      Incwm a Chodi Tâl, Gwasanaethau Meddygol Arbenigol – Diabetes, Methiant y

      Galon ayb, Podiatreg, Dietegwyr, Therapyddion Iaith a Lleferydd a Therapi Celf,

      Gweithwyr Cymorth Iechyd Meddwl, Nyrsio Arbenigol a Thai. Bydd y Timau

Adnoddau Cymunedol yn cael eu cyflunio er mwyn bodloni’r galw o fewn a’r tu allan i oriau swyddfa (gwasanaeth Nightowls); yn ganolog i

     ddatblygu cymunedau gwydn; cefnogi’r gwaith o fonitro cleifion risg uchel er 

      mwyn cefnogi pobl i beidio â mynd i’r ysbyty ac i gefnogi pobl i gael ei

      rhyddhau’n gynnar o’r ysbyty a chefnogi pobl i fynd yn ôl i’w cymunedau.   

 

  • Mae Meddyg Teulu Gofal yr Henoed yn cefnogi cleifion mewn cartrefi gofal ac yn cynorthwyo i ddarparu Cynlluniau Uwchgyfeirio Triniaeth i leihau mynediadau amhriodol i Ofal Eilradd. Yr hyn sy’n cael ei ganolbwyntio arno rŵan yw galluogi pobl i aros yn eu cartrefi mor hir â phosibl a sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn lleol i gefnogi pobl.   

 

  • Rhagnodi Cymdeithasol – Mae pob un o’r 7 Cydlynydd Asedau Lleol wedi

eu penodi ac yn gysylltiedig â phractis unigol er mwyn cefnogi Gofal Sylfaenol. Cyflwynwyd y gwasanaeth rhagnodi cymdeithasol i’r ardal Clwstwr er mwyn gwneud defnydd mwy priodol o wasanaethau iechyd a chymdeithasol, gwella canlyniadau iechyd a llesiant a galluogi cleifion i fod yn fwy rhagweithiol wrth reoli eu cyflyrau a’u lles eu hunain. Nod y gwasanaeth yw gwneud y mwyaf o asedau cymunedol, datblygu’r defnydd o wirfoddolwyr a gwasanaethau gwirfoddol sy’n bodoli eisoes er mwyn i bobl gael mynediad at y gefnogaeth gywir ac i fod yn agored i gymaint â phosib o bobl o fewn y gymuned.

 

  • Atal Codymau - Mae syrthio a thorri esgyrn ymysg yr henoed yn cael effaith niweidiol iawn ar ansawdd bywyd y claf ac yn creu galw mawr am wasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol ac eilradd.

 

  • Datblygiadau Iechyd Meddwl yn ein Cymunedau – Datblygwyd Timau Gweithredu Lleol ar gyfer pob ardal leol yng Ngogledd Cymru er

mwyn sicrhau bod y newidiadau i wasanaethau iechyd meddwl a nodir yn y strategaeth “Llaw yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru” yn cael eu gweithredu. Nod y Timau Gweithredu Lleol yw defnyddio’r 5 Ffordd at Les fel sylfaen ar gyfer lles emosiynol a seicolegol h.y. gweithio gydag asiantaethau gwirfoddol a thrydydd sector i adolygu eu rôl gyda

phobl sydd mewn perygl o gael argyfwng iechyd meddwl dwys; datblygu ymatebion lleol heblaw mynediad i ysbyty h.y. caffis argyfwng, noddfeydd,

cryfhau gwasanaethau triniaeth yn y cartref, gwasanaethau camu i lawr; sicrhau bod y gwasanaeth iechyd meddwl a ddarperir drwyddo draw yn ystyried anghenion o ran yr iaith Gymraeg ac yn eu diwallu; gweithio gydag asiantaethau statudol, gwirfoddol a thrydydd sector i adolygu

anghenion heb eu diwallu ymysg pobl â salwch meddwl a sicrhau fod bylchau yn y ddarpariaeth gwasanaeth yn derbyn sylw. Mae pecyn hyfforddiant wedi datblygu er mwyn codi ymwybyddiaeth h.y. gyda staff tafarndai, gyrwyr tacsi, staff trin gwallt, tatŵyddion a siopau trin ewinedd. 

 

Mae llwybr Tai Iechyd Meddwl wedi’i ddatblygu er mwyn sicrhau bod pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cael cyfleoedd cyfartal o ran sicrhau llety priodol. Bydd grŵp aml-asiantaethol yn cyfarfod yn rheolaidd er mwyn adnabod a blaenoriaethu anghenion tai. Mae prosiect peilot camu i lawr wedi’i ddatblygu gan Adran Dai y Cyngor. 

 

·       Gwaith Linc Cymunedol Môn gyda Medrwn Môn

 

Mae Medrwn Môn, y Cyngor Gwirfoddol Sirol Lleol, wedi bod yn bartner allweddol wrth gynorthwyo Iechyd a Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i gefnogi cymunedau mewn ffordd wahanol drwy ddatblygu Linc Cymunedol Môn. Mae Swyddogion Cyswllt dynodedig yn delio â phob ymholiad ac atgyfeiriad – maent yn delio gyda cheisiadau am wybodaeth neu gyngor neu byddant yn trosglwyddo

atgyfeiriadau i un o’r tîm o 7 Cydlynydd Asedau Lleol. Mae’r gefnogaeth ar gael i’r aelodau hynny yn ein cymuned allai fod yn teimlo’n ynysig neu’n unig, neu sydd yn dymuno cymryd rhan mewn mwy o weithgareddau yn eu hardal leol. Gall nifer o bartneriaid, yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Meddygon Teulu, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Ffisiotherapyddion, Sefydliadau Trydydd Sector neu’r person ei hun wneud atgyfeiriadau i’r gwasanaeth. Gall y cyfleuster alluogi pobl i fyw adref yn hirach. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y prif faterion canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd at argaeledd apwyntiadau mewn meddygfeydd Meddygon Teulu wrth i rai pobl gael problemau trefnu apwyntiad i weld eu Meddygon Teulu. Ymatebodd Dr Dyfrig ap Dafydd, er bod hi’n ymddangos fod gan Feddygfeydd wahanol weithdrefnau o ran systemau apwyntiadau fe nododd fod angen i Feddygfeydd ddysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu enghreifftiau o wahanol agweddau a systemau apwyntiadau. Nododd ei fod yn ffafrio system brysbennu sy’n ystyried pwy y mae cleifion angen  eu gweld yn hytrach nag apwyntiad Meddyg Teulu. Dywedodd Dr Dyfrig ap Dafydd ei fod yn gwerthfawrogi bod angen datblygu’r system apwyntiadau ar-lein ynghyd â’r gallu i ddefnyddio Skype, anfon negeseuon e-bost a ffonio’r feddygfa. Mynegwyd y bydd angen ystyried y mater yn y cyfarfodydd Clystyrau.  

·      Cyfeiriwyd at y gwasanaethau Iechyd Meddwl gan fod rhai pobl yn cael anawsterau trefnu apwyntiad Meddyg Teulu. Ymatebodd cynrychiolwyr o’r Tîm Iechyd Meddwl y dylai pobl sydd eisoes o fewn y system Iechyd Meddwl, un ai drwy ofal cychwynnol neu eilaidd, fod â holl fanylion cyswllt y Tîm Iechyd Meddwl. Fodd bynnag, ar gyfer pobl sy’n profi argyfwng o’r newydd neu sydd angen gwasanaeth y Tîm Iechyd Meddwl, mae dogfennaeth ar gael ond efallai y gellid tynnu gwell sylw ati. Daeth y rhan fwyaf o atgyfeiriadau newydd feddygfeydd Meddygon Teulu ond mae gweithwyr Iechyd Meddwl gofal preifat yn gweithio mewn meddygfeydd Meddygon Teulu y mae modd eu gwella; awgrymiad o sesiynau ‘galw heibio’ o fewn y meddygfeydd. Gall canolfannau ICAN hefyd roi cymorth ac arweiniad ar faterion Iechyd Meddwl, mae hynny’n cael ei ystyried. Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn bod gwasanaethau lefel isel yn cael eu rhoi drwy Linc Cymunedol Môn i bobl sy’n dymuno cael gwybodaeth am weithgareddau a gwasanaethau sydd ar gael o fewn eu cymunedau. Gall atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu, yr Heddlu, Gwasanaethau Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, y Trydydd Sector a phobl eu hunain neu berthnasau gael sylw drwy Linc Cymunedol Môn.  

·      Cyfeiriwyd at y ffaith bod cydweithio rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a Betsi Cadwaladr yn canolbwyntio ar waith tîm. Holwyd os oedd un o’r gwasanaethau o fewn y tîm yn methu â gweithredu’r cymorth a roddir i gleifion, a fyddai hynny’n niweidiol i’r tîm sy’n gweithio ar y prosiect, er enghraifft o petai’r adran Ffisiotherapi o dan bwysau ac yn methu â chyflawni ei nod o gydweithio. Ymatebodd Mrs Ffion Johnson bod Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol yn cael eu hystyried fel rhan o’r cyfleuster o fewn ysbytai a bod angen newid diwylliant er mwyn galluogi’r gweithwyr proffesiynol hyn i gael eu lleoli o fewn cymunedau ac i ehangu eu sgiliau wrth iddynt weithio yn annibynnol. Nododd y cynhelir mwy o sesiynau ffisiotherapi mewn Meddygfeydd Meddygon teulu bellach ac mae angen newid meddylfryd a diwylliant oherwydd nid Meddyg teulu sydd ei angen ar bobl bob amser. Dywedwyd hefyd fod angen ystyried cynllunio gweithlu er mwyn hyfforddi mwy o bobl mewn meysydd meddygol proffesiynol penodol;      

·      Holwyd pwy oedd yn arwain ar y gwaith partneriaeth er mwyn newid sut y darperir cefnogaeth o fewn cymunedau. Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol dros dro bod strwythur llywodraethiant yn ei le drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Integredig a’r Bwrdd rhanbarthol gyda chynrychiolaeth gan yr holl aelodau o’r partneriaethau ar y Byrddau hyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolwyr o’r Gwasanaeth Iechyd a Medrwn Môn am fynychu’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD nodi’r gwaith sydd wedi’i wneud mewn partneriaeth â’r Bwrdd Iechyd a’r awdurdod lleol i newid y ffordd y darperir cefnogaeth o fewn cymunedau. 

 

GWEITHRED: I dderbyn adroddiad cynnydd ar y gwaith partneriaeth y Bwrdd Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ymhen deuddeg mis. 

 

Dogfennau ategol: