Eitem Rhaglen

Adroddiad Cynnydd ar gyflawni'r Cynllun Lleisiant gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Ynys Môn.

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan Reolwr Rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ar gyflawni’r Cynllun Llesiant ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn. 

 

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yw gwella llesiant economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Cyhoeddwyd Asesiad o Lesiant y BGC ar gyfer ardaloedd llesiant Ynys Môn ym mis Mai 2017 ac yn dilyn cyfres o sesiynau ymgysylltu ac ymgynghori fe gyhoeddwyd y Cynllun Llesiant ym 2018. Ceir cadarnhad yn y Cynllun Llesiant o’r ddau amcan a chwe maes blaenoriaeth ble cytunwyd gall y Bwrdd gydweithio i sicrhau’r canlyniadau gorau i drigolion Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’i sefydlu ar sylfaen gadarn gyda disgwyl y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gan y Bwrdd er mwyn cyflawni ei ymrwymiad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).  

 

Adroddodd Rheolwr Rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cytuno ar y meysydd blaenoriaeth er mwyn cyflawni’r amcanion a nodir o fewn yr adroddiad. Mae pedwar is-grŵp wedi eu sefydlu o dan Amcan 1 - Cymunedau sy’n ffynnu ac yn llewyrchus yn y tymor hir fel a ganlyn:-

 

  • Is-grŵp Yr Iaith Gymraeg - Cyflwynodd yr is-grŵp gais i Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiect ‘ARFer’ sy’n galluogi cyrff cyhoeddus i rannu arfer dda mewn perthynas â thueddiadau ieithyddol a’r ddealltwriaeth o seicoleg ymddygiad.
  • Is-grŵp Cartrefi ar gyfer pobl leol – Bydd yr is-grŵp yn datblygu achos

busnes manwl ar gyfer (1) Gwerthuso modelau tai arloesol. (2) Cyflwyno achos ariannol a threfniadau ariannu ar gyfer y cynlluniau (3) Datblygu tai

arloesol yn ein cymunedau

  • Is-grŵp Effaith Tlodi ar lesiant ein cymunedau - Bydd yr is-grŵp yn

pwysleisio’r berthynas rhwng cydraddoldeb a thlodi ac yn datblygu teclyn i

ymestyn asesiadau effaith cydraddoldeb i gynnwys effeithiau tlodi yn ogystal.

  • Is-grŵp Effaith newid hinsawdd ar lesiant ein cymunedau - Bydd y gwaith yn

galluogi’r BGC i ystyried effeithiau newid hinsawdd ar y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir i gymunedau yn yr ardal.

 

Adroddodd Rheolwr Rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ymhellach bod y ddau faes blaenoriaeth ‘iechyd a gofal oedolion’ a lles a chyraeddiadau plant a phobl ifanc yn cyfrannu tuag at Amcan 2. Cytunwyd sefydlu un is-grŵp er mwyn mynd i’r afael â’r ddwy flaenoriaeth – Grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig y Gorllewin.

 

Bydd yr Is-grwpiau yn cyflwyno adroddiadau diweddaru i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ei gyfarfod a gynhelir ar 13 Mawrth, 2019 er mwyn ceisio cefnogaeth y Bwrdd i ddatblygu’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma gan yr is-grwpiau. Mae’r Is-grŵp yn adrodd i’r Bwrdd yn chwarterol. Nodwyd hefyd fod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar hyn o bryd yn destun craffu gan y Pwyllgorau Sgriwtini dynodedig yn awdurdodau lleol Gwynedd a Môn. Rhagwelir y bydd adroddiad blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei gyflwyno i’w Pwyllgorau Sgriwtini ym mis Mehefin.  

 

Dywedodd Mrs Ffion Johnson, Cyfarwyddwr Ardal Gorllewin Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mai hi ar hyn o bryd yw Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ond y bydd hi’n sefyll i lawr o’i rôl er mwyn canolbwyntio ar fod yn Gadeirydd y Grŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y pwyntiau canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd at y ffaith y gall pobl deimlo’n unig mewn Cartrefi Gofal pan nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad. Holwyd sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn mynd i’r afael â mater o’r fath fel rhan o’u blaenoriaeth i hyrwyddo’r defnydd o'r Gymraeg. Ymatebodd Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, fel rhan o’i rôl gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod cwynion wedi eu derbyn gan deuluoedd a thrigolion Cartrefi Gofal mewn perthynas â’r Gymraeg ddim yn cael ei siarad ond dywedodd bod y Bwrdd Iechyd yn canolbwyntio ar hyrwyddo’r Gymraeg gyda’i staff rheng flaen ar hyn o bryd a rhagwelir y bydd hynny’n rhaeadru i lawr i staff eraill o fewn y gwasanaeth.   

·      Gofynnwyd am gadarnhad am gefndir y cynllun ARFer. Ymatebodd y Rheolwr Rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn fod y cynllun ARFer yn brosiect a arweinir gan Brifysgol Bangor er mwyn datblygu’r defnydd o’r Gymraeg ymysg siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn defnyddio’r iaith neu nad ydynt yn gyfforddus yn siarad Cymraeg. Mae’r Brifysgol yn bwriadu ehangu’r rhaglen a phrofi ei effeithiolrwydd mewn amrywiaeth o wahanol gyd-destunau. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor Sir wedi bod yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau ac wedi bod yn datblygu sgiliau Cymraeg staff. 

·      Cyfeiriwyd at y ffaith ei bod yn fwriad gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i sefydlu panel sgriwtini ar y cyd rhwng y ddwy sir. Ymatebodd Rheolwr Rhaglen Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn y bydd trafodaeth yn cael ei chynnal o fewn y Bwrdd mewn perthynas â sefydlu panel sgriwtini ar y cyd dros y misoedd nesaf.  

 

PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd a wnaed gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. 

 

GWEITHRED: Bod Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ym mis Mehefin. 

 

 

Dogfennau ategol: