Adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn darparu diweddariad ar nifer o faterion yn ymwneud ag Aelodau.
Cofnodion:
Cyflwynwyd – diweddariad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y materion canlynol sy’n ymwneud â’r Aelodau:-
• Gan gyfeirio at Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau ar gyfer 2017/18, nodwyd bod 29 o Aelodau wedi cwblhau a chyhoeddi eu hadroddiadau ar-lein bellach.
• Cafodd y mater o Aelod oedd heb gwblhau ei Gofrestr o Ddiddordebau ei drafod yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau. Roedd y Cadeirydd wedi ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â’r mater, ac rydym bellach wedi derbyn cadarnhad fod yr Aelod dan sylw wedi ymateb i gais y Cadeirydd.
• Disgwylir Mesur Llywodraeth Leol newydd ar ddiwedd 2019. Nodwyd nad yw’n glir ar hyn o bryd beth fydd y newidiadau o ran disgwyliadau a gofynion ar aelodau etholedig mewn perthynas â pherfformiad/cyhoeddi gwybodaeth; na sut bydd y rhain yn cael eu rheoli.
• Trefnwyd y bydd yr Adroddiadau Blynyddol yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 30 Mehefin 2019.
• Nodwyd nad oedd y bwriad i ailgyflwyno cais y Cyngor am y Siarter Cefnogi a Datblygu Aelodau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi digwydd yn ystod Chwarter 3, 2018/19; yn groes i’r ymrwymiad blaenorol, oherwydd penderfynwyd fod angen i’r Strategaeth Datblygu Aelodau am y 3 blynedd nesaf fod mewn lle cyn cyflwyno’r cais. Bydd y Strategaeth Datblygu Aelodau am y 3 blynedd nesaf yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mawrth 2019 i’w chymeradwyo, ac wedyn caiff ei chyflwyno i CLlLC, gyda’r cais am statws siarter, erbyn diwedd mis Mawrth 2019.
• Gan gyfeirio at y gwiriadau GDG, mae’r holl Aelodau wedi cwblhau’r broses gofrestru. Bydd y gwiriadau yn cael eu hadolygu a’u diweddaru yn unol â gofynion y polisi.
• Mae Bywgraffiadau’r Aelodau nawr ar gael ar wefan y Cyngor ac maent yn cynnwys presenoldeb mewn cyfarfodydd Pwyllgor a chofnodion hyfforddiant. Fodd bynnag, tra bod y wybodaeth am bresenoldeb yn cael ei diweddaru’r awtomatig, bydd angen i’r Aelodau ddiweddaru eu gwybodaeth eu hunain yn rheolaidd ar hyfforddiant.
• Mewn perthynas ag aelodaeth yr Aelodau ar gyrff allanol, mae dolenni bellach ar gael ar wefan y Cyngor. Nodwyd y bydd angen adolygu’r atodlen o gyrff allanol mewn ymgynghoriad â’r Arweinyddion Grwpiau a’i hadrodd i’r Cyngor ym mis Mai 2019. Bydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio yn monitro gwaith y prif bartneriaethau ar Raglen Waith y Pwyllgor.
• Nodwyd nad oes cyfleuster ar y system Modern.Gov i aelodau cyfetholedig allu cyhoeddi eu datganiadau o ddiddordeb ar-lein.
PENDERFYNWYD:-
• Unwaith y daw disgwyliadau’r Mesur Llywodraeth Leol newydd yn glir, y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i gynnwys y disgwyliadau hynny yn ei adroddiad nesaf i’r Pwyllgor Safonau, a sut y byddant yn cael eu mesur, eu monitro, eu hadrodd a’u cefnogi.
• Bod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cylchredeg copi o’r cais am Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau gan CLlLC i aelodau’r Pwyllgor Safonau er gwybodaeth yn unig.
• Nodi pob cynnydd arall fel y manylir yn yr adroddiad.
Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod
Dogfennau ategol: