Eitem Rhaglen

Polisi Cludiant Ysgol Diwygiedig

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys Polisi Cludiant diwygiedig ei gyflwyno ar gyfer ei ystyried a’i graffu arno gan y Pwyllgor.

 

Adroddodd yr Arweinydd fod y Polisi Cludiant Ysgol diwygiedig wedi bod yn destun Sesiwn Briffio Aelodau ac ei fod hefyd wedi’i graffu gan y Panel Sgriwtini Cyllid a roddodd ystyriaeth ofalus i’w effaith ariannol. Mae’r polisi diwygiedig yn nodi’n glir drefniadau a meini prawf yr Awdurdod ar gyfer darparu cludiant ar gyfer disgyblion ysgol a choleg Cyngor Sir Ynys Môn. 

Amlygodd y Pennaeth Dysgu fod y Polisi diwygiedig yn glynu’n agos at y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol ac Arweiniad Gweithredol 2014 ac mae’n cynnwys digon o fanylion er mwyn galluogi’r Awdurdod i ymateb i sefyllfaoedd ac amgylchiadau gydag eglurder a chysondeb. Dywedodd y Swyddog bod agweddau o’r trefniadau cludiant ysgol a oedd angen eu hadolygu, eu cadarnhau a’u diwygio; mae hynny wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar y gyllideb cludiant ysgol.  

 

Yn y drafodaeth ddilynol ar yr adroddiad yn y Pwyllgor, codwyd y materion canlynol

 

           Oes modd rhoi sicrwydd y bydd cludiant i’r ysgol yn cael ei ddarparu ar ffyrdd y gellid eu hystyried yn beryglus hyd yn oed os yw’r llwybrau hynny yn fyrrach na’r pellter statudol ar gyfer bod yn gymwys?

           A yw ymdriniaeth y polisi o ysgolion ffydd yn gyson â’r ymdriniaeth gyffredinol o’r polisi o ystyried y nodir yn adran 3.2 o’r polisi y bydd yr Awdurdod yn ystyried ar sail disgresiwn, geisiadau am gludiant i’r Ysgol Ffydd addas os mai dyna ddewis y rhiant/gofalwr ac y bydd hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad yr ysgol honno yw eu hysgol addas agosaf ond ei fod o fewn ardal yr Awdurdod Lleol.  

           Pa effeithiau ariannol sydd i’r polisi?

           Nodir na fydd unrhyw gludiant yn cael ei ddarparu i blant 3 neu 4 oed sy’n mynychu’r ysgol feithrin neu’r dosbarth meithrin. Fodd bynnag, darperir cludiant i blant cymwys ar gyfer dechrau’r flwyddyn ysgol lle bydd y plentyn yn troi’n 5 oed ac yn dechrau addysg amser llawn sy’n golygu ei bod yn bosibl y gallai plentyn 4 oed sy’n cael ei ben-blwydd yn 5 oed yn hwyrach yn y flwyddyn ysgol fod yn gymwys ar gyfer trafnidiaeth ysgol. A yw’r risgiau o gludo plant mor ifanc â 4 oed ar fws heb unrhyw oruchwyliaeth wedi eu hystyried?  

           Nodir na fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i glybiau tu allan i’r ysgol nac adref (h.y. clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol neu weithgareddau allgyrsiol sy’n disgyn y tu allan i’r cwricwlwm ysgol). Fodd bynnag sut gellir cysoni’r agwedd hon ag anghenion plant rhieni nad oes ganddynt gludiant eu hunain ac sy’n byw mewn ardaloedd lle gall mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn gyfyngedig ac sydd ag angen am glybiau brecwast; sut byddai’r Awdurdod Addysg yn mynd i’r afael â’r gofyn hwn yng nghyd-destun y Polisi?  

           Pa mor llwyddiannus yw’r Awdurdod o ran casglu a gweinyddu taliadau am gludiant ysgol?

 

Darparwyd cadarnhad/esboniad gan Swyddogion ac Aelodau Portffolio fel a ganlyn  

           Bod adran 2.10 y Polisi yn amlinellu’r trefniadau mewn perthynas â llwybrau peryglus ac yn cadarnhau, ar gyfer dysgwyr sy’n byw yn agosach na’r pellter statudol a nodir yn adran 2.2 o’r polisi, y bydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i’r ysgol os yw’r llwybr wedi’i asesu fel un peryglus gan y Swyddog priodol yng Nghyngor Sir Ynys Môn yn dilyn yr arweiniad a ddarparwyd yn Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol ac Arweiniad Gweithredol 2014.

           O ran darparu cludiant i ysgolion Ffydd, bydd yr Awdurdod yn ystyried darparu cludiant i’r ysgol ffydd addas agosaf os mai dyna ddewis y rhieni a bydd hefyd yn ystyried ceisiadau os nad yr ysgol honno yw’r ysgol yr ysgol addas agosaf ar yr amod fod yr ysgol o fewn ardal yr Awdurdod Lleol; ni fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i ysgol Ffydd y tu allan i ardal yr Awdurdod Lleol os oes ysgol o’r un ffydd yn bodoli o fewn ardal yr Awdurdod Lleol.

           Er na fydd y Polisi yn cael ei weithredu’n llawn tan Medi, 2019 bydd yn effeithio ar y sefyllfa ariannol sydd eisoes wedi amlygu ei hun yn y misoedd diwethaf gyda llai o siwrneiau tacsi. Mae’r polisi yn rheoli disgwyliadau ar gyfer trafnidiaeth ysgol ac yn  nodi arweiniad clir ar gyfer pryd y bydd cludiant i’r ysgol yn cael ei ddarparu. Rhagwelir y bydd gweithrediad llawn y polisi, dros amser, yn cael effaith bositif ar y pwysau sydd ar y gyllideb ar hyn o bryd.

           O ran cludo plant oedran meithrin ar fws, mae’r Awdurdod yn glynu’n gaeth wrth ganllawiau Llywodraeth Cymru o ran yr holl agweddau o gludiant ysgol y mae’n eu darparu.

           O ran mynychu clybiau brecwast, fe allai fod yn bosibl edrych ar amseriad cludiant ysgol fel bod y disgyblion hynny sydd angen yn gallu cael mynediad i gludiant er mwyn gallu mynd i glybiau brecwast.

           Er y gall casglu taliadau ar gyfer cludiant fod yn her pan maent yn ddyledus, mae’r bartneriaeth waith sydd wedi datblygu dros y flwyddyn ddiwethaf rhwng y Gwasanaeth Dysgu, y Gwasanaeth Priffyrdd a’r Gwasanaeth Adnoddau wrth iddynt gydweithio i ddatrys materion trafnidiaeth ysgol yn sail ar gyfer delio’n fwy effeithiol â thaliadau a materion cludiant ysgol eraill.   

 

Yn dilyn ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ynghyd â’r cadarnhad a ddarparwyd gan y Swyddogion/Aelodau Portffolio ar y pwyntiau a godwyd, penderfynwyd y byddai’r Pwyllgor Sgriwtini 

 

           Yn argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn mabwysiadu’r Polisi Cludiant Ysgol diwygiedig.

           Yn argymell, lle bo hynny’n ymarferol, y dylid rhoi ystyriaeth i amseriad cludiant ysgol er mwyn sicrhau bod disgyblion sydd angen gwneud hynny yn gallu cael cludiant i allu mynychu clybiau brecwast.

           Nodi sylwadau’r Panel Sgriwtini Cyllid. 

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW WEITHREDOEDD YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: