Eitem Rhaglen

Monitro Cynnydd: Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant/ Panel Gwella Gwasanaethau Plant

·        Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

·        Cyflwyno adroddiad y Panel Gwasanaethau Plant.

Cofnodion:

           Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi’r cynnydd hyd yma wrth weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. 

 

Adroddodd yr Arweinydd a’r Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn garreg filltir ym mhroses gwella’r Gwasanaethau Plant oherwydd cytunwyd i gau’r Cynllun Gwella Gwasanaeth (CGG) presennol i lawr ac i gynhyrchu Cynllun Datblygu Gwasanaeth ar gyfer 2019-22. Bydd yn cynnwys unrhyw weithredoedd sy’n weddill o’r CGG presennol ac sydd angen eu datblygu ymhellach ac yn ymgorffori’r 14 maes datblygiad a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei adroddiad ail-archwilio yn Rhagfyr, 2018. Bydd y gwasanaeth cyfan yn gweithio dan y Cynllun Datblygu Gwasanaeth newydd a fydd yn cael ei gytuno arno gan Uwch Dîm Rheoli’r Gwasanaeth, y Panel Gwella Gwasanaethau Plant, y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Gwaith. Bydd y Gwasanaeth hefyd yn ymgymryd â’r gweithgareddau gwella penodol a restrir yn yr adroddiad er mwyn atgyfnerthu’r cynnydd a wnaed eisoes.      

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd at y cynnydd o ran recriwtio a chadw staff ynghyd â datblygu’r model Cartrefi Grŵp Bach sy’n fenter a fydd yn galluogi rhai o’r plant a allai fod mewn lleoliadau gofal ymhell i ffwrdd o Ynys Môn i dderbyn gofal mewn amgylcheddcartrefolsy’n efelychu’r ffordd y mae eu cyfoedion yn byw h.y. byw yn y gymuned, mynd i’r ysgol leol, gwneud ffrindiau yn yr ardal. Hefyd, fel rhan o’r ymdrech i wella opsiynau lleoli er mwyn bodloni’r galw, mae’r Gwasanaeth yn edrych i recriwtio a chadw mwy o Ofalwyr Maeth ac mae’r adroddiad yn crynhoi’r buddion y bydd y pecyn Gofal Maeth newydd yn eu darparu i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod pan gaiff ei weithredu yn Ebrill, 2019.

  

Yn y drafodaeth ddilynol ar yr adroddiad yn y Pwyllgor, codwyd y materion canlynol

 

           Bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud gan y Gwasanaethau Plant dros oes y Cynllun Gwella Gwasanaeth. Fodd bynnag, cafodd 14 maes ar gyfer datblygiad pellach eu hadnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Oes yna unrhyw feysydd o fewn y 14 a gafodd eu hadnabod sydd angen sylw fel blaenoriaeth ac a oes gan y gwasanaeth y adnoddau er mwyn gallu mynd i’r afael a materion a datblygu’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth?  

           Trefniadau mewn perthynas â’r Cartrefi Grŵp Bach gan gynnwys staffio, cofrestru a chynlluniau ar gyfer agor mwy o gartrefi grŵp bach y tu hwnt i’r 2 y disgwylir eu hagor yn ystod blynyddoedd ariannol 2019/20 a 2020/21.

           A oes ystyriaeth wedi’i rhoi i ddyrannu tai cyngor i unigolion / teuluoedd sy’n dymuno maethu a fyddai’n cyflawni’r un amcan a chael staff yn gofalu am blant mewn eiddo sy’n berchen i’r Cyngor.   

Darparwyd cadarnhad/esboniad i Swyddogion ac Aelodau Portffolio fel a ganlyn

           Yn ystod y cyfnod o weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant, mae’r Gwasanaethau Plant wedi datblygu gwell hunan-ymwybyddiaeth ac yn gwybod lle mae’r Gwasanaeth, lle mae’n dymuno mynd a’r modd y bydd yn gwneud hynny. Mae ôl-ofal plant a phobl ifanc a rhai sy’n gadael gofal ymysg y meysydd blaenoriaeth ar gyfer y cam nesaf y mae cynlluniau’n cael eu datblygu ar eu cyfer. Mae’r broses o wella a hunanwerthuso yn y Gwasanaethau Plant yn un barhaus ac mae’n rhaid i’r broses hon ddigwydd o fewn cyd-destun yr adnoddau sydd ar gael. Y dasg yw cynnal cyflymder y gwelliannau gan felly ddatblygu gwasanaeth sy’n gallu gwrthsefyll yr heriau y mae’r Gwasanaethau Plant yn eu hwynebu.

           Bydd Cartrefi Grŵp Bach yn galluogi rhai plant sydd ar hyn o bryd mewn lleoliadau gofal ymhell o Ynys Môn i ddychwelyd i’r ardal leol er mwyn byw o dan amodau sy’n dyblygu i’r raddfa y mae hynny’n bosibl, amgylchedd cartrefol arferol. Nid eu bwriad yw darparu ar gyfer plant sy’n derbyn gofal y mae ganddynt anghenion acíwt neu gymhleth a fydd yn parhau i dderbyn darpariaeth arbenigol sy’n briodol ar gyfer eu hanghenion penodol. O ran staff, y prif nod yw cadw’r rota staffio yn gyson, lleihau’r newidiadau staffio er mwyn i’r plant a fydd yn byw yn y Cartrefi Grŵp Bach weld yr un wynebau ac i gael cyswllt parhaus â’r un gofalwyr a fydd yn dod â pharhad a normalrwydd i’r gofal y byddant yn ei dderbyn. Mae eiddo Awdurdodau Lleol wedi eu hadnabod ac mae gwaith wedi dechrau ar wneud y cartrefi hynny’n addas gan ystyried gofynion cofrestru AGC. Bydd adnabod eiddo pellach mewn lleoliadau addas yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â’r Gwasanaethau Tai ac Addysg.      

           Yn unol â’r polisi tai, gall y Gwasanaeth Tai ystyried mynediad i dai cyngor i, er enghraifft, deuluoedd maeth / gofalwyr maeth sydd angen ystafell wely ychwanegol er mwyn lletya plentyn maeth a allai fel arall fod wedi eu rhoi mewn gofal ac y byddai asesiad wedi ei wneud yn seiliedig ar yr angen hwnnw.

 

Yn dilyn ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ynghyd â’r cadarnhad a ddarparwyd gan y Swyddogion / Aelodau Portffolio ar y pwyntiau a godwyd, penderfynwyd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cadarnhau ei fod yn fodlon â’r canlynol  

 

           Y camau a gymerwyd er mwyn datblygu gweithrediad y Cynllun Gwella Gwasanaeth a chyflymder y cynnydd;

           I’r Gwasanaeth symud ymlaen â Chynllun Datblygu Gwasanaeth newydd a fydd yn disodli’r Cynllun Gwella Gwasanaeth presennol;

           Cyflymder y cynnydd a’r gwelliannau a wnaed hyd yma o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.   

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW WEITHREDOEDD YCHWANEGOL

 

           Cyflwynwyd adroddiad gan y Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn disgrifio gwaith ac allbwn y Panel yn ystod y cyfnod rhwng Rhagfyr 2018 a Chwefror, 2019 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. 

 

Adroddodd y Cynghorydd Richard Griffiths, cynrychiolydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y Panel, ar y prif bwyntiau gan nodi nad oes unrhyw faterion penodol wedi eu huwchgyfeirio ar gyfer sylw’r Pwyllgor yn ystod y chwarter hwn; gofynnir i’r Pwyllgor ystyried a yw’n fodlon â chadernid y Panel o ran monitro hyd yma.  

 

Nododd y Pwyllgor fod y Panel yn ei gyfarfod Chwefror, 2019 wedi rhoi ystyriaeth i addysg ddewisol yn y cartref a’i fod wedi gofyn am ddiweddariad ar ddatblygiadau ymhen 6 mis. Hysbyswyd y Pwyllgor, yn absenoldeb canllawiau cenedlaethol ar hyn o bryd, fod y Panel wedi cytuno i weithio â phobl leol er mwyn cefnogi rhieni sy’n addysgu eu plant yn y cartref a hynny drwy becyn gwybodaeth.

 

Nododd y Pwyllgor ymhellach, ar Ddiwrnod Gwaith Cymdeithasol, ei bod yn briodol i Aelodau ddatgan eu diolch a’u gwerthfawrogiad am y gwaith a wneir gan Weithwyr Cymdeithasol y Cyngor a hynny mewn amgylchedd sy’n gallu bod yn hynod heriol ar adegau.

 

Yn dilyn ystyried yr adroddiad, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol nodi’r canlynol

 

           Y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gwaith y Panel Gwella Gwasanaethau Plant o ran cyflawni ei raglen waith.

           Bod y Cynllun Gwella Gwasanaeth presennol bellach wedi ei gau gyda’r 2 faes blaenoriaeth sydd eto i gael eu gweithredu’n llawn i gael eu trosglwyddo i’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth newydd.

           Y meysydd gwaith a grybwyllwyd yn ystod Ymweliadau Laming fel ffordd o gryfhau atebolrwydd a gwybodaeth a dealltwriaeth Aelodau’r Panel.    

           Rhaglen ddatblygu barhaus Aelodau’r Panel gyda llawer ohoni’n cael ei darparu’n fewnol. 

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW WEITHREDOEDD YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: