Eitem Rhaglen

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion:Achos Busness Llawn Ardal Llangefni (Bodffordd/Corn Hir)

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

 

Cofnodion:

Cadeiriwyd yr eitem hon gan y Cynghorydd Richard Owain Jones, yr Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

 

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys yr Achos Busnes Llawn am ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.

 

Adroddodd yr Arweinydd a'r Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, os bydd yr Achos Busnes Llawn yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, y bydd modd diogelu 50% o’r cyllid ar gyfer y prosiect, prosiect sydd ar ddiwedd y cyfnod Band A.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod cais am Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg am Uned Feithrinfa wedi’i gymeradwyo ym mis Tachwedd, 2018 a bod y Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo mewn egwyddor, yr Achos Busnes Amlinellol Strategol ar gyfer yr ysgol newydd yn Ionawr, 2019. Mae’r Achos Busnes Llawn yn nodi’r cyfiawnhad strategol, economaidd, masnachol, ariannol a rheolaethol dros y cais. Cyfeiriodd y Swyddog at y fanyleb ar gyfer yr adeilad a fydd ar gyfer ysgol gymunedol ar gyfer 360 o ddisgyblion ac a fydd yn cymryd i ystyriaeth y datblygiadau tai arfaethedig yn y rhan hon o Langefni ac yn darparu capasiti ychwanegol o hyd at 10%; bydd gan yr ysgol brif neuadd fwy ar gyfer gweithgareddau cymunedol, ystafell gyfarfod gymunedol ac uned feithrinfa ar gyfer plant rhwng 2 a 4 oed. Bydd yr ardaloedd allanol yn cynnwys cae chwarae, ardal gemau MUGA, ardal chwarae llain galed, ardal chwarae meddal a gardd. Mae’r Achos Busnes Llawn hefyd yn nodi’r amserlen amlinellol ar gyfer y gwaith y gwaith o adeiladu ac agor yr ysgol.   

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar 30 Ebrill 2018 i gymeradwyo ysgol newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir hefyd yn cyfeirio at Ysgol Henblas lle bydd darpariaeth addysg yn cael ei chynnal yn Llangristiolus un ai drwy gynnal Ysgol Henblas fel y mae neu drwy gyfuno Ysgol Henblas â’r ysgol newydd a chreu un ysgol ar ddau safle. Roedd y penderfyniad hwn yn gysylltiedig â’r Cyngor yn derbyn sicrwydd fod safonau Ysgol Henblas yn gwella a bod niferoedd disgyblion yn parhau’n gyson. Mae ail archwiliad o Ysgol Henblas gan Estyn ym mis Hydref 2018 yn cadarnhau bod yr ysgol wedi gwneud cynnydd digonol mewn perthynas â’r argymhellion a wnaed yn dilyn yr archwiliad ym Mai, 2017 ac y gellir ei tynnu oddi ar y rhestr ysgolion sydd angen gwelliannau sylweddol. Mae rhagamcanion hefyd yn dangos y bydd niferoedd disgyblion yn Ysgol Henblas yn parhau yn gyson ar gyfer y 3 blynedd nesaf. O ganlyniad felly, mae’r Awdurdod yn teimlo ei fod wedi cael y sicrwydd angenrheidiol o ran gwella safonau yn Ysgol Henblas a’r sefydlogrwydd o ran niferoedd disgyblion. Argymhellir felly bod Ysgol Henblas yn cael ei thynnu o’r cynnig. 

 

Yn y drafodaeth ddilynol ar yr adroddiad yn y Pwyllgor, codwyd y materion canlynol

 

           Sut mae’r Achos Busnes Llawn yn bodloni’r materion a godwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor yn ystod y cam Achos Busnes Amlinellol mewn perthynas â materion priffyrdd a digonolrwydd y trefniadau parcio; materion traffig a diogelwch y ffyrdd yn ardal yr ysgol newydd a dyfodol Canolfan Bodffordd fel adnodd cymunedol?  

           Pa mor fforddiadwy yw Achos Busnes Llawn y Cyngor o ystyried y rhaglen arbedion heriol y bydd yn rhaid iddo ei weithredu dros y 3 blynedd nesaf o leiaf. 

 

Darparwyd cadarnhad / esboniad gan Swyddogion ac Aelodau Portffolio fel a ganlyn  

 

           O ran safonau parcio ysgolion newydd, mae angen lle parcio ar gyfer pob aelod o staff, ar gyfer ymwelwyr cyfwerth â hanner nifer y lleoedd i staff a rhieni, lle ar gyfer pob 10 disgyblyn y cynllun hwn mae 50 o leoedd parcio i staff, 25 i ymwelwyr a 36 i rieni (cyfanswm o 61 o ymwelwyr). Fodd bynnag, mae’r cynllun cyffredinol yn darparu cyfanswm o 70 o leoedd parcio ar gyfer ymwelwyr, yn cynnwys 6 lle parcio anabl, ar ben y 50 i staff gan roi cyfanswm o 120 o leoedd parcio.  

           O ran materion priffyrdd, mae Swyddogion Priffyrdd wedi ymdrin â’r cais yn yr un ffordd ag unrhyw gais allanol arall. Mae Swyddogion Priffyrdd wedi asesu llif y traffig ar gyfer y cynllun sy’n wahanol i’r llif traffig cysylltiedig â’r rhan fwyaf o ddatblygiadau gan fod y niferoedd uchaf yn cyrraedd ac yn gadael y safle yn y bore ac yn y prynhawn, adeg danfon a nôl y plant o’r ysgol; mae Swyddogion wedi rhoi sylw penodol i effeithiau posib y cynllun ar ddiogelwch y ffyrdd a defnyddwyr cyffredinol y ffordd yn yr ardal. Ystyriwyd nifer o opsiynau rheoli traffig a’r opsiwn a ffafrir oedd cylchfan ger mynedfa’r ysgol newydd a fydd yn gweithredu fel mesur tawelu traffig. Mae’r gylchfan wedi ei dylunio gan gwmni allanol ac wedi’i hasesu gan Reolwr Diogelwch Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru sy’n fodlon, o ran gwelededd o gyfeiriad Bodffordd, fod y gylchfan wedi’i lleoli ar bellter priodol o’r dref a’r fynedfa i stad Corn Hir. Yn ogystal, bydd croesfan Twcan wedi’i leoli rhwng y gylchfan ar ochr y dref a’r troad i mewn i Fryn Meurig a Chorn Hir. Bydd llwybrau troed ar y ffordd i’r groesfan newydd i gerddwyr hefyd yn cael eu lledaenu. Er mwyn sicrhau bod traffig yn arafu o gyfeiriad Bodffordd bydd nifer o arwyddion ffordd newydd yn cael eu codi er mwyn hysbysu gyrwyr o’r drefn ffyrdd newydd sydd o’u blaenaunid yw twmpathau cyflymder yn opsiwn yn yr ardal hon ac nid yw’n debygol y byddai’r Heddlu yn cefnogi hyn.    

           Bod trafodaethau wedi eu cynnal mewn perthynas â diogelu’r defnydd cymunedol o Ganolfan Bodffordd ac mae cyfarfodydd wedi eu cynnal; mae hon yn broses barhaus a disgwylir rŵan i’r trafodaethau hynny gael eu symud i’r cam nesaf. 

           O ran ariannu’r prosiect mewn amser o gyni ariannol, mae manylion y costau wedi eu cynnwys yn yr Achos Busnes Llawn gyda 50% yn cael ei ariannu drwy Raglen Moderneiddio ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a 50% drwy adnoddau cyfalaf y Cyngor. Disgwylir i gyfraniad y Cyngor gael ei ariannu drwy dderbyniadau cyfalaf yn dilyn gwerthiant safleoedd di-angen a drwy fenthyca digymorth. Mae’r cynllun yn wahanol i’r cynlluniau moderneiddio ysgolion a weithredwyd yn flaenorol gan ei fod yn creu yn hytrach na’n lleihau lleoedd ysgol yn yr ardal, gyda diffyg capasiti yn y rhan hon o Langefni yn broblem. Er mai canlyniad y prosiect penodol hwn felly yw cost net ychwanegol yn hytrach nag arbediad, mae’r costau’n cael eu rhannu ar draws y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn gyffredinol. Mae’r costau benthyca blynyddol i ad-dalu’r swm sy’n cael ei fenthyca’n ddigymorth yn cael eu cyfri a’u hadlewyrchu yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol. Yn dilyn y problemau capasiti dybryd yn Ysgol Corn Hir, doedd gwneud dim ddim yn opsiwn ac o ystyried argaeledd cyllid Llywodraeth Cymru a chyfraddau llog isel, pethau efallai na fydd ar gael yn y dyfodol, y cynnig hwn yw’r opsiwn gorau yn ariannol. 

   

Wedi ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ynghyd â’r esboniadau a ddarparwyd gan y Swyddogion / Aelodau Portffolio ar y pwyntiau a godwyd yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, penderfynwyd argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cymeradwyo’r canlynol

 

1.         Yr Achos Busnes Llawn ar gyfer ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.

2.         Bod yr Achos Busnes Llawn ar gyfer ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru.

3.         Bod Ysgol Henblas yn cael ei thynnu o’r cynnig. 

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW WEITHREDOEDD YCHWANEGOL