Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1  46C622/ENF – Y Borth, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

Cofnodion:

7.1  46C622/ENF – Cais llawn ar gyfer creu estyniad i’r cwrtil ynghyd â chadw’r adeilad fel garej ddomestig a swyddfa yn Y Borth, Ffordd Porthdafarch, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais yr Aelod Lleol. Penderfynodd y Pwyllgor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2019 i gynnal ymweliad safle ac ymwelwyd â’r safle ar 20 Mawrth, 2019. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Aelod Lleol ei fod yn cynrychioli Cyngor Cymuned Bae Trearddur yn y cyfarfod hwn. Diolchodd i’r Pwyllgor am gynnal ymweliad safle a nododd y bydd Aelodau bellach yn ymwybodol o faint y datblygiad a’i sensitifrwydd o fewn yr ardal AHNE. Mynegodd y Cynghorydd Thomas fod adeilad ar y safle wedi ei ddymchwel ac i waith adeiladu gael ei wneud heb ganiatâd; felly mae’r cais yn un ôl-weithredol. Holodd pa neges mae hyn yn ei roi i’r cyhoedd bod pobl yn gallu adeiladu heb ganiatâd cynllunio a gofyn am ganiatâd ôl-weithredol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y cais yn un i ymestyn cwrtil preswyl Y Borth, Ffordd Porthdafarch ynghyd â chadw’r gwaith a wnaed ar yr hen adeilad allanol er mwyn codi garej a swyddfa. Mae’r safle wedi ei leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol mewn lleoliad yn y cefn gwlad

agored. Nododd fod yr adeilad yn strwythur un llawr a’i fod ar ôl troed yr adeilad blaenorol ac ystyrir bod dyluniad a graddfa’r adeilad yn dderbyniol yn y lleoliad hwn. Nodwyd fod cynllun tirlunio wedi’i gyflwyno gyda’r cais a bydd hyn yn galluogi sgrinio datblygedig o’r eiddo presennol. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio hefyd bod amod ychwanegol wedi’i osod ar unrhyw ganiatâd ar gyfer y cais yn nodi mai defnydd preifat yn unig a ganiateir ar gyfer y garej/tŷ. 

 

Cyfeiriodd y Swyddog at y sylwadau a wnaed gan yr Aelod Lleol o ran y cais cynllunio ôl-weithredol ond rhaid i’r Awdurdod Cynllunio ddelio â cheisiadau o’r fath yn unol â gweithdrefnau cynllunio ac ni ellir cosbi ymgeiswyr.

 

Bu’r Cynghorydd Vaughan Hughes gefnogi’r sylwadau a wnaed gan yr Aelod Lleol o ran ceisiadau ôl-weithredol a gofynnodd i’r Swyddogion Cynllunio ysgrifennu unwaith eto at Lywodraeth Cymru yn mynegi’n gryf iddynt fod angen newid mewn deddfwriaeth mewn perthynas â cheisiadau ôl-weithredol. Gofynnodd y Cynghorydd Robin Williams hefyd i’r Deilydd Portffolio Cynllunio ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r angen i newid y polisïau o ran ceisiadau ôl-weithredol.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dafydd Roberts at y ffaith fod y cais o fewn ardal AHNE a nododd gan fod yr adeilad blaenorol ar y safle wedi ei ddymchwel ei bod yn amlwg yn ystod yr ymweliad safle bod yr adeilad newydd ôl-weithredol yn fwy nag ôl-troed yr adeilad blaenorol a bod crib yr adeilad hefyd yn uwch. Mynegodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn ystyried y byddai datblygiad o’r fath yn cael effaith andwyol ar y tirlun. Holodd ymhellach a oes unrhyw ganllawiau er mwyn cyfyngu datblygiadau sy’n fwy na’r ôl-troed blaenorol o fewn ardal AHNE. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod angen ystyried pob cais cynllunio ar ei rinweddau ei hun a’i bod yn amhosibl gosod amodau ar raddfa datblygiadau o fewn AHNE gan ei bod yn dibynnu ar leoliad pob safle.   

 

Holodd y Cynghorydd John Griffith pa fesurau y mae’r Awdurdod Cynllunio yn eu cymryd i fonitro’r defnydd o’r datblygiad yn Y Borth, Ffordd Porthdafarch, Caergybi o ran y defnydd posibl o’r eiddo/adeiladau. Ymatebodd y Swyddog Datblygu Cynllunio fod y cais hwn gerbron y Pwyllgor am resymau gorfodi cais cynllunio ar adeilad ôl-weithredol. Dywedodd ei bod yn anffodus nad oedd gan yr Adran Gynllunio ddigon o Swyddogion Cynllunio nac adnoddau i allu ymweld â’r eiddo yn Y Borth, Ffordd Porthdafarch yn rheolaidd. Mae amod wedi’i osod ar unrhyw ganiatâd a roddir i’r cais o ran defnydd y swyddfa/garej cartref.   

 

Mynegodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Nicola Roberts ei bod yn amlwg yn ystod yr ymweliad safle mai dim ond hanner yr adeilad fyddai’n cael ei ddefnyddio fel swyddfa/garej ond bod yna ran arall y gellid hefyd ei ddatblygu. Mynegodd bod angen i’r Swyddog Cynllunio fonitro datblygiadau ar y safle.

 

Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes y dylid caniatáu’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Robin Williams. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a gyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: