Ystyried cais am ganaitâd arbennig.
Cofnodion:
Cafwyd cais gan y Cynghorydd Carwyn Jones yn gofyn i’r Pwyllgor Safonau ystyried rhoi caniatâd arbennig iddo mewn perthynas â diddordebau a oedd yn rhagfarnu o ran y ddarpariaeth o addysg ôl-16 yn Ynys Môn.
Mae diddordebau’r ymgeisydd yn ymwneud â’i blant a all gael eu heffeithio gan benderfyniad ar addysg ôl-16 yn Ynys Môn a’i waith fel Darlithydd yng Ngrŵp Llandrillo/Menai, Bangor, sy’n ddarparwr addysg ôl-16.
Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Jones i’r cyfarfod a rhoes gyfle iddo gyflwyno ei gais.
Dywedodd y Cynghorydd Jones fod ganddo 3 o blant a bod un ym Mlwyddyn 8 yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy. Dywedodd ei bod yn debygol y bydd ei ddau blentyn arall yn mynychu’r ysgol uwchradd hon yn y man. Nodwyd y gallai canlyniad unrhyw benderfyniad a wneir ynghylch dyfodol addysgol ôl-16 yn Ynys Môn effeithio plant y Cynghorydd Jones a’i gyflogwyr, ond nid ei waith. Nid yw’n dysgu Lefel ‘A’, yn hytrach, mae’n dysgu busnes ar gwrs galwedigaethol. Nid oes unrhyw sail dros gredu y byddai hynny’n newid.
Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod hefyd yn Llywodraethwyr yn Ysgol David Hughes. Nodwyd ei fod wedi cael ei benodi yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Aelod Etholedig o’r Cyngor Sir yn unol â Pharagraff 10(2)(a)(viii) y Côd Ymddygiad. Nodwyd ymhellach fod eithriad awtomatig yn bodoli ym Mharagraff 12(2)(a)(iii) o’r Côd ac o’r herwydd, nid oes gan y Cynghorydd Jones ddiddordeb sy’n rhagfarnu yn sgil y swyddogaeth hon. Yn ogystal, mae wedi ei leoli ym Mangor, felly byddai unrhyw effaith ar ei gyflogaeth yn Llangefni gyda’r posibilrwydd y byddai myfyrwyr Lefel ‘A’ yn trosglwyddo.
Cynigiodd y Swyddog Monitro y dylid ystyried y cais yn bennaf yng nghyd-destun sail (b) – y bydd o leiaf hanner Aelodau’r Pwyllgor gwaith yn ystyried y busnes neu â diddordeb yn y busnes hwnnw. Dygodd y Swyddog Monitro Sylw at y ffaith bod 6 o 9 Aelod y Pwyllgor Gwaith wedi cael caniatâd arbennig ac nad oes gan 2 ddiddordebau i’w datgan. Dywedodd y bydd Paragraffau (d) neu (e) hefyd yn berthnasol.
Cafodd Aelodau’r Panel drafodaeth mewn sesiwn breifat. Yn dilyn y drafodaeth honno, cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Safonau wedi PENDERFYNU rhoi caniatâd arbennig rhannol i’r Cynghorydd Jones mewn perthynas â’r diddordebau hynny y cyfeirir atynt yn y cais sy’n caniatáu i’r Cynghorydd:-
• ysgrifennu at swyddogion [a/neu’r Pwyllgor/Cyngor Cymuned] mewn perthynas â’r mater;
• siarad â swyddogion y Cyngor am y mater ar yr amod y gwneir nodyn o unrhyw drafodaethau o’r fath;
• siarad mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Gwaith/Pwyllgorau/Cyngor ac ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r mater;
• aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth/pleidlais ar y mater;
•
pleidleisio mewn cyfarfodydd o’r fath;
• arall: cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfodydd allanol a chyfarfodydd o unrhyw gyrff allanol yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Aelod etholedig.
Rhoddir y caniatâd arbennig ar sail y ffaith bod gan o leiaf hanner Aelodau’r Pwyllgor Gwaith (h.y. yr Arweinydd a’r Pwyllgor Gwaith) a fydd yn ystyried y mater, ddiddordeb yn y busnes hwnnw ac na fydd natur y diddordeb, oherwydd ei fod wedi’i gyfyngu rhag pleidleisio, yn effeithio hyder y cyhoedd ym mhenderfyniad/au’r Pwyllgor Gwaith.
Gweithredu:
• Bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at y Cynghorydd Jones yn cadarnhau fod Panel y Pwyllgor Safonau wedi rhyddhau caniatâd arbennig rhannol yn caniatáu iddo ysgrifennu, siarad ond nid pleidleisio ar yr holl faterion sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth addysg ôl-16 yn Ynys Môn.
• Rhaid i’r Cynghorydd Jones ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu pan yn mynychu’r Pwyllgor Gwaith a chyfarfodydd perthnasol a dweud ei fod wedi cael caniatâd arbennig rhannol gan y Pwyllgor Safonau i gymryd rhan yn, ond nid i bleidleisio ar faterion yn ymwneud â materion addysg ôl-16.
Dogfennau ategol: