Eitem Rhaglen

Ceisiadau Grantiau Mawr 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Trysorydd fod 29 o geisiadau grant wedi eu derbyn a oedd yn dod i gyfanswm o £1.170m. Cynhaliwyd y Pwyllgor Adfywio ar 13 Chwefror, 2019 a cytunwyd ar restr fer o geisiadau a chafodd y rhai hynny lle roedd angen gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeiswyr eu nodi. Cynhaliwyd cyfarfod pellach o’r Pwyllgor Adfywio ar 14 Mawrth, 2019 lle ystyriwyd y ceisiadau ynghyd â’r wybodaeth ychwanegol a chytunwyd ar lefel y cyllid y dylid ei argymell ar gyfer ei gymeradwyo. Penderfynwyd y dylid argymell 11 cais ar gyfer eu cymeradwyo gan yr Ymddiriedolaeth lawn a ddaeth i gyfanswm o £319k. Amlinellodd y Trysorydd y rhesymau pam nad oedd 12 o’r ceisiadau a dderbyniwyd yn cael eu cefnogi fel yr amlinellwyd yn Atodiad 3 o’r adroddiad. Nodwyd ymhellach, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 4 o’r adroddiad, bod 4 cais arall wedi eu derbyn ond eglurwyd eu bod wedi derbyn cyllid yn ystod y 5 mlynedd diwethaf ac felly nad oeddent yn cael eu cefnogi.  

 

Penderfynwyd hefyd yn y Pwyllgor Adfywio y dylid gofyn am i’r cais gan Môn FM am gyllid dros 3 blynedd gael ei dynnu allan o’r broses ceisiadau Grantiau mawr a’i drin fel achos arbennig gyda chefnogaeth o’r gyllideb gyfalaf graidd. Mae’r cais wedi’i ystyried o dan eitem 9.

 

Adroddodd y Trysorydd ymhellach y derbyniwyd cais hwyr gan Copperfest, Amlwch. Cytunodd y Pwyllgor Adfywio dderbyn y cais hwyr hwn ac i anfon y cais ymlaen i’r Ymddiriedolaeth llawn am benderfyniad.

 

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Adfywio a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2019 fel â ganlyn:-

 

·                              Prosiectau a gymeradwywyd

 

Ymgeisydd                                    Prosiect                       Swm a gymeradwywyd 

 

Caru Amlwch                       Cyllid i gyflogi Cydlynydd Prosiect             £37,542

 

 

Clwb Rygbi Caergybi          Adeiladu ystafelloedd newid a                      £50,000

                                                  chawodydd pwrpasol

 

Clwb Pêl-droed Aberffraw    Darpariaeth Eisteddle ac                             £54,018

                                                  ystafelloedd newid

 

Age Cymru Gwynedd          Cyllid i gefnogi costau Swyddog                 £13,000

a Môn                                    Cefnogi Iechyd a Llesiant Cymdeithasol

                                                i gefnogi pobl 50+ ar Ynys Môn

 

Hosbis Dewi Sant              Cyllid i gefnogi uned ofal hosbis pedwar    £34,000                                                         gwely wedi’i leoli o fewn Ysbyty Penrhos

                                             Stanley

 

Menter Gymdeithasol     Cyllid ar gyfer gwaith adeiladu a chostau        £12,026

CIC Parc Mount                   sefydlu Gwasanaeth Canolfan Ddydd

                                                Dementia

 

Meithrinfa Morlo                Cyllid i ddarparu llawr newydd,                        £27,397

                                            gosod boeler newydd a gwneud gwaith

                                            trydanol ynghyd ag adnodd dysgu newydd

 

Stroke Association           Cyllid i gefnogi cyflog a chostau gweithredu      £10,895

                                           Cydlynydd a fydd yn darparu cymorth i  

                                           bobl sydd wedi dioddef strôc a’u gofalwyr

 

Medrwn Môn                     Cyllid am 2 flynedd i gefnogi Prosiect                 £58,000

                                           Partneriaeth rhwng y Cyngor Sir a  

                                           Menter Môn

 

Gŵyl Forwrol                   Cyllid i dalu am logi’r babell fawr a’r toiledau       £7,854

Hamdden a                        ar gyfer Gŵyl Caergybi

Threftadaeth

Caergybi

 

Cwmni                              Cyllid i ddarparu dau raglen hyfforddiant             £14,633

Budd Cymunedol         12 wythnos sydd wedi eu cynllunio i helpu 20

Wild Elements                          o bobl o gefndiroedd difreintiedig

 

·           I gefnogi dyrannu’r balans sy’n weddill o’r cyllid, sef £30,635 i Copperfest, Amlwch;

 

·           Dirprwyo’r awdurdod i’r Trysorydd gysylltu ag ymgeiswyr aflwyddiannus yn nodi’r rhesymau pam na chafodd eu ceisiadau eu cymeradwyo;

 

·           Dirprwyo awdurdod i’r Trysorydd anfon ‘Llythyr o Gynnig’ ffurfiol i’r ymgeiswyr llwyddiannus.