Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Arweinydd 2018/19

Ystyried Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor yn unol â pharagraff 4.1.11 o’r Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Arweinydd y Cyngor ar gyfer 2018/2019.

 

Darparodd Arweinydd y Cyngor grynodeb o’r cynnydd a wnaed yn y flwyddyn a aeth heibio, fel a ganlyn:-

 

·      Mae newyddion diweddar ynghylch gohiriad prosiect Wylfa Newydd wedi amlygu pwysigrwydd y datblygiad. Er y newyddion hyn, parhawyd i weithio er lles Ynys Môn gan gymryd rhan yn y broses cynllunio a chyflwyno tystiolaeth i warchod buddiannau'r Ynys gyda’r cytundeb 106 yn dystiolaeth o’n cyflawniad o ran lliniaru. Parheiru i bwyso ar y llywodraethau yng Nghaerdydd a Llundain i wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau datblygiad Wylfa Newydd.

·      Mae’r gwaith Cynllunio Lle wedi symud ymlaen gryn dipyn mewn cydweithrediad â Medrwn Môn. Mae’r ardaloedd cychwynnol wedi dechrau ar y gwaith o adnabod eu blaenoriaethau er mwyn creu cymunedau cryf a llewyrchus.

·      Mae trawsnewid gwasanaethau wedi parhau yn flaenoriaeth ac mae’n bosib bellach i drigolion Ynys Môn wneud mwy o ddefnydd o’r we wrth ddelio gyda’r Cyngor.

·      Agorwyd Ysgol Gynradd newydd Santes Dwynwen ac mae’r drafodaeth wedi cychwyn ar ddyfodol addysg ôl-16 ynghyd â chydweithio gyda GwE, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau eraill er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau i’n Hathrawon a’n Prifathrawon. Mae’r awdurdod wedi derbyn adroddiadau da gan Estyn ar ein hysgolion ac nid oes yr un ysgol ‘goch’ ym Môn.

·      Mae gwaith wedi parhau i sicrhau cydweithio effeithiol â sefydliadau partner h.y. Coleg Menai, Bwrdd Iechyd, CSSIW, Partneriaeth Ynys Môn a Gwynedd, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol;

·      Agorwyd Hafan Cefni yn Llangefni sydd wedi rhoi cyfle i bobl gael byw yn

annibynnol;

·      Cydweithio gyda pherchnogion tai gwag er mwyn dod â nhw yn ôl i ddefnydd. Tai Cymdeithasol newydd yn cael eu datblygu yng Nghaergybi a Moelfre;

·      Cafodd nifer o bobl ifanc y cyfle i weithio i’r Cyngor dros yr haf diwethaf fel rhan o’r cynllun Denu Talent gyda rhai o’r rhain yn mynd ymlaen i weithio i’r Cyngor.

·      Parhau i fynegi gwrthwynebiad y Cyngor i beilonau

·      Ailgylchu – hwn oedd yr awdurdod gorau yng Nghymru gyda 72% o wastraff yn cael ei ailgylchu.

 

Rhoddwyd cyfle i’r Cyngor ofyn cwestiynau i’r Arweinydd am gynnwys yr Adroddiad Blynyddol.  

 

Mynegodd y Cynghorydd R Ll Jones fod angen i’r Cyngor hyrwyddo newid hinsawdd ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Llywodraeth Ganolog ar lefel leol er mwyn cyflawni rhaglen Newid Hinsawdd y DU yng Nghymru. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod gan y Cyngor Bolisi Effeithlonrwydd Ynni a bod targedau wedi eu gosod o fewn y polisi. Mae’r holl Ysgolion 21ain Ganrif ar yr Ynys yn cydymffurfio â safonau BREEAM sy’n nodi fod angen i ysgolion gydymffurfio â safonau effeithlonrwydd ynni. Mae’r Adran Dai hefyd yn mesur effeithlonrwydd ynni o fewn y stoc tai cymdeithasol ac mae’r systemau goleuadau yn Swyddfeydd y Cyngor wedi eu haddasu er mwyn lleihau’r defnydd o ynni. Mae cerbydau trydan ymysg rheolaeth fflyd yr Awdurdod. 

 

Nododd y Cynghorydd Peter Rogers fod angen i blant gael y dechrau gorau posib mewn bywyd. Nododd fod angen cymorth ac arweiniad ar deuluoedd amddifad. Cytunodd Arweinydd y Cyngor y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle i gyflawni eu potensial. Pwysleisiodd ei bod hi’n bwysig nodi mai heriau cenedlaethol yw’r rhain a bod anghydraddoldeb yn dod yn fwy amlwg. Daeth y Cynllun OPUS i ben ddiwedd Gorffennaf diwethaf; roedd y cynllun hwn er mwyn cefnogi pobl ifanc i gael gwaith ac mae’r penderfyniad hwn yn cael effaith arswydus ar bobl ifanc bregus sydd wedi dechrau ffurfio perthynas waith dda gyda’u swyddogion cefnogi.     

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Arweinydd y Cyngor a nodi ei gynnwys.

 

Dogfennau ategol: