Eitem Rhaglen

Cwestiynau a dderbyniwyd yn unol a rheol 4.1.12.4 y Cyfansoddiad

·      I gyflwyno’r cwestiwn canlynol o rybudd gan y Cynghorydd Shaun Redmond i’r Deilydd Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a

Diwylliant :-

 

Daeth yn amlwg i sawl aelod fod y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn ymarfer sy’n cael ei gyrru gan ystyriaethau ariannol yn hytrach na gwelliannau addysgol.

 

Oherwydd bod yr ysgolion uwchradd yn hen adeiladau nad ydynt yn addas ar gyfer darparu pynciau  technegol iawn megis gwyddoniaeth ac yn creu anfantais i’r disgyblion hynny sydd ag angen brys am safonau addysgol uchel o ran y dysgu a’r cymhorthion a’r amgylchedd dysgu, beth yw’r cynlluniau ar gyfer Moderneiddio’r Ysgolion Uwchradd?’

·      I gyflwyno’r cwestiwn canlynol o rybydd gan y Cynghorydd Shaun Redmond i’r Deilydd Portffolio Cyllid :-

 

Gan fod y Cyngor yn parhau i weithredu mesurau i dorri costau, pa gamau ydych chi’n eu cymryd i sicrhau bod dyledwyr – p’un a ydynt yn sefydliadau, yn fusnesau neu’n unigolion yn cael eu herio i dalu’r arian hwn yn ôl i’r Cyngor?’

 

·      I gyflwyno’r cwestiwn canlynol o rybudd gan y Cynghorydd Peter Rogers i’r Deilydd Portffolio Priffrydd, Eiddo a Gwastraff :-

 

Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith yr wythnos ddiwethaf ar Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach yn feirniadol ac yn ddamniol iawn o’r modd y mae Stad David Hughes yn cael ei rhedeg. Am ba hyd fedrwch chi ganiatáu i hyn barhau?’

 

 

 

Cofnodion:

·           Cyflwynwyd – y cwestiwn canlynol ar rybudd gan y Cynghorydd Shaun Redmond i’r Deilydd Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant:-

 

            ‘Daeth yn amlwg i sawl aelod fod y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn       ymarfer sy’n cael ei gyrru gan ystyriaethau ariannol yn hytrach na            gwelliannau addysgol.

           

            Oherwydd bod yr ysgolion uwchradd yn hen adeiladau nad ydynt yn addas            ar gyfer darparu pynciau technegol iawn megis gwyddoniaeth ac yn creu      anfantais i’r disgyblion hynny sydd ag angen brys am safonau addysgol          uchel o ran y dysgu a’r cymhorthion a’r amgylchedd dysgu, beth yw’r       cynlluniau ar gyfer Moderneiddio’r Ysgolion Uwchradd?’

 

Ymatebodd y Deilydd Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant fod y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn seiliedig ar Strategaeth Addysg Ynys Môn. Mae’r strategaeth wedi ei thrafod yn eang a chynhaliwyd trafodaeth yn y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Gwaith yn dilyn hynny. Mae’r gyrwyr dros newid wedi eu nodi’n glir o fewn y Strategaeth:- 

 

·      gwella addysg a safonau cyrhaeddiad; mae pwyslais clir ar sicrhau capasiti arweinyddiaeth ac arwain sy’n dylanwadu’n uniongyrchol ar brofiadau disgyblion;

·      lleihau nifer y lleoedd gwag er mwyn gwneud defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau;

·      lleihau cost y pen disgyblion er mwyn sicrhau cydraddoldeb ar draws yr ysgolion;

·      capasiti arweinyddiaeth a rheoli;

·      cynllunio ar gyfer y dyfodol;

·      ehangu’r defnydd o adeiladau ysgol o fewn y gymuned;

·      gofal plant a chyfleuster cymunedol ar gyfer rhieni a disgyblion hŷn;

·      darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog;

·      darpariaeth meithrin;

·      darpariaeth ôl-16;

·      sicrhau bod adeiladau ysgolion yn addas i’r diben;

 

Roedd y Deilydd Portffolio yn derbyn fod stoc ysgolion uwchradd y Sir yn heneiddio fel y mae’r ysgolion cynradd; mae pob ysgol uwchradd o fewn Band A, B neu C o'r Rhaglen Moderneiddio sef Cynllun Moderneiddio Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Nododd fod y strategaeth hefyd yn nodi y gellid rhoi ystyriaeth i fodelau dysgu gydol oes fel opsiynau posibl ar gyfer rhai dalgylchoedd. Mae £18m hefyd wedi’i glustnodi o dan y cynllun hwn o fewn Band B y Rhaglen Moderneiddio sy’n rhannol tuag ar gyfer y Chweched Dosbarth. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Redmond mai’r rheswm iddo gyflwyno’r cwestiwn i’r Cyngor oedd gan ei fod wedi codi cwestiynau’r llynedd o ran y ddarpariaeth o gyfleusterau Gwyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd Caergybi.

 

·           Cyflwynwyd – y cwestiwn canlynol ar rybudd gan y Cynghorydd Shaun Redmond i’r Deilydd Portffolio Cyllid:-

 

           Gan fod y Cyngor yn parhau i weithredu mesurau i dorri costau, pa gamau

            ydych chi’n eu cymryd i sicrhau bod dyledwyr – p’un a ydynt yn sefydliadau,          yn fusnesau neu’n unigolion yn cael eu herio i dalu’r arian hwn yn ôl i’r             Cyngor?’

 

Ymatebodd y Deilydd Portffolio Cyllid gan ddweud fod y Cyngor yn gwneud pob ymdrech angenrheidiol, gyfreithlon, i sicrhau bod unrhyw ddyled yn cael ei hadennill. Wrth ddewis pa gamau i’w cymryd bydd y Cyngor yn ystyried maint ac oedran y ddyled ac amgylchiadau ariannol a phersonol y dyledwr. 

 

Holodd y Cynghorydd Redmond pan na heriwyd unigolyn sydd wedi bod mewn dyled o £17k i’r Cyngor ers nifer o flynyddoedd. Awgrymodd y Cadeirydd y dylid delio â’r mater hwn drwy gyfeirio llythyr at y Deilydd Portffolio. 

 

·           Cyflwynwyd – y cwestiwn canlynol ar rybudd gan y Cynghorydd Peter Rogers i’r Deilydd Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff:- 

 

           ‘Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith yr wythnos ddiwethaf         ar Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach yn feirniadol ac    yn ddamniol iawn o’r modd y mae Stad David Hughes yn cael ei rhedeg. Am          ba hyd fedrwch chi ganiatáu i hyn barhau?’

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff fod yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith yn ddatganiad ffeithiol ar gyfrifon terfynol yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach. Nid oedd yr adroddiad yn cyfeirio at lefelau na safonau gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth. Cyfeiriodd y Deilydd Portffolio at gostau cynnal a chadw’r stad o fewn yr adroddiad sy’n nodi na wnaeth yr Ymddiriedolaeth Addysg Bellach unrhyw elw yn 2017/18; roedd hyn yn ganlyniad i gostau ychwanegol mewn perthynas â gwaith cynnal a chadw ar dai y mân ddaliadau. Mae’r gwaith o gynnal a chadw’r 14 eiddo yn Stad David Hughes wedi arwain at gynnydd yn y rhent gan denantiaid. Nododd y Deilydd Portffolio hefyd fod lefel y dyledion a gofnodwyd ar gyfnod penodol ac nad oedd yn ystyried ei bod yn briodol adrodd mewn manylder ar ddyledion gan fod modd i denantiaid dalu rhent mewn rhandaliadau neu ar ddiwedd y cyfnod rhent. Nododd hefyd fod dosbarthiad grantiau drwy'r Ymddiriedolaeth Addysg Bellach yn isel o ganlyniad i ddiffyg cyhoeddusrwydd i’r gronfa a’r cymorth sydd ar gael.   

 

Nododd y Deilydd Portffolio fod y Pwyllgor Gwaith, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2019 wedi penderfynu cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon ar gyfer Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2017/18 ac y dylid cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith o fewn 6 mis ar gynnydd y trafodaethau i ailstrwythuro Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rogers ei fod yn bryderus am lefel y dyledion mewn perthynas â Stad David Hughes.