Eitem Rhaglen

Gemau'r Ynysoedd - Cais i Warantu Costau'r Gemau

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mr Gareth Parry, Cadeirydd Pwyllgor Cais Gemau’r Ynysoedd 2025 i’r cyfarfod. 

 

Rhoddodd Mr Parry gyflwyniad manwl i’r Cyngor am gefndir Cais Gemau’r Ynysoedd i gynnal y Gemau yn 2025. Cynhaliwyd sesiwn cwestiwn ac ateb yn dilyn y cyfarfod.

 

Gadawodd Mr Parry y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a ddilynodd.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod cais wedi’i dderbyn i’r Cyngor warantu’r gost o gynnal Gemau’r Ynysoedd yn 2025. Yn wreiddiol, gwnaeth Pwyllgor Bid Ynys Môn gais i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn 2018 er mwyn iddynt ystyried cyfrannu £300k tuag at y gost o gynnal Gemau’r Ynysoedd yn 2025. Nododd y cais fod Pwyllgor y Bid mewn sefyllfa freintiedig sef bod penderfyniad amodol wedi cael ei wneud iddynt gynnal Gemau’r Ynysoedd Rhyngwladol yn 2025 ac y byddai hyn yn denu miloedd o ymwelwyr i’r Ynys. Nododd yr ohebiaeth hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi arian cyfatebol i unrhyw arian a roddir gan Ynys Môn a fod y Pwyllgor hefyd yn hyderus o gael mynediad i ffynonellau eraill o gefnogaeth ariannol. O ganlyniad, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol gefnogi’r cais, mewn egwyddor, gydag amodau penodol, gan gynnwys cael gweld Cynllun Busnes llawn er mwyn sicrhau priodoldeb gwariant yr arian elusennol. Yn Awst 2018, gofynnodd Cadeirydd Pwyllgor BidYnys Môn a fyddai’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn cytuno i warantu’r gost o gynnal y gemau.     

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Cyllid fod angen i Adroddiad Blynyddol ar gynnydd Bwrdd Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith. Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts fod angen i’r Adroddiad Blynyddol hefyd gael ei ystyried gan y Pwyllgor Sgriwtini.

 

Nododd y Cadeirydd ar y pwynt hwn, gan fod y Pwyllgor bellach wedi para am dair awr, yn unol â pharagraff 4.1.10 o Gyfansoddiad y Cyngor bod angen gwneud penderfyniad gan mwyafrif yr Aelodau hynny o’r Pwyllgor sy’n bresennol i allu parhau â’r cyfarfod. PENDERFYNWYD y dylai’r cyfarfod barhau. 

 

Yn unol â pharagraff 4.1.18.4 o’r cyfansoddiad fe ofynnodd y nifer angenrheidiol o aelodau am gael pleidlais gofnodedig ar yr argymhelliad fel y’i nodir uchod.   

 

Cafwyd pleidlais gofnodedig fel â ganlyn:-

 

Cefnogi’r argymhellion o fewn yr adroddiad:-

 

Cynghorwyr Lewis Davies, R Dew, John Griffith, Richard Griffiths, Glyn Haynes, K P Hughes, T Ll Hughes MBE, Vaughan Hughes, Llinos Medi Huws, Carwyn Jones, Eric W Jones, Richard Owain Jones, G O Jones, R Meirion Jones, Alun W Mummery, Bob Parry OBE FRAgS, Dylan Rees, Alun Roberts, Dafydd Roberts, J A Roberts, Margaret M Roberts, Nicola Roberts, Dafydd Rhys Thomas, Ieuan Williams a Robin Williams.             CYFANSWM 25

 

 

Yn erbyn yr argymhellion o fewn yr adroddiad:-

 

Cynghorwyr Robert Ll Jones, Bryan Owen, Shaun Redmond a Peter S Rogers.

                                                                                                                        CYFANSWM 4

 

Atal y bleidlais:                                                                                           Dim

 

 

PENDERFYNWYD fod y Cyngor yn cytuno i warantu’r Gemau ond gydag amodau penodol:-

 

·      Bod yr ymrwymiad i warantu’r Gemau yn amodol ar Bwyllgor Bid Ynys Môn yn derbyn £400k o gyllid gan Llywodraeth Cymru;

·      Bod y Cyngor yn cael penodi Swyddog a bod y Deilydd Portffolio Cyllid a’r Deilydd Portffolio ar gyfer Prosiectau mawr a Datblygiad Economaidd yn cael eu penodi ar Bwyllgor Bid Ynys Môn. Pwrpas cynrychiolaeth y Cyngor fyddai er mwyn sicrhau bod llywodraethiant, rheolaeth ariannol a’r gweithgareddau codi arian yn lleol yn digwydd; 

·      Bod cynrychiolwyr y Cyngor â’r pŵer i wahardd unrhyw benderfyniad a allai arwain at risg uwch y bydd y Cyngor yn gorfod gwneud cyfraniad ariannol ar ddiwedd y Gemau sy’n codi o ganlyniad i gytundeb i warantu’r Gemau;

·      Bod Pwyllgor Bid Ynys Môn yn adolygu ei gynllun busnes er mwyn sicrhau ei fod yn ddogfen fwy cadarn, sy’n mynd i’r afael â’r risg o safbwynt rheoli costau a chyflawni targedau incwm ac sydd hefyd yn cadarnhau pwyntiau eraill a godwyd yn yr asesiad Hamdden Strategol;

·      Bod Pwyllgor Bid Ynys Môn yn datblygu cynllun clir a chadarn sy’n nodi manylion y manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ynghyd â’r etifeddiaeth o gynnal Gemau’r Ynysoedd yn 2025.

·      Bod Adroddiad Blynyddol ar gynnydd Bwrdd Gemau’r Ynys Ynys Môn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Sgriwtini perthnasol.