Eitem Rhaglen

Adroddiad Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 4, 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw'r Pwyllgor Gwaith - adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) / Trawsnewid yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 2018/19.

 

Rhoes yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol grynodeb o berfformiad ar ddiwedd 2018/19, a fu, er yn flwyddyn heriol arall i'r sector cyhoeddus, yn dda ar y cyfan, gyda'r rhan fwyaf o feysydd wedi perfformio’n unol â’u targedau ac eithrio dau DP yn y Gwasanaethau Oedolion ac un DP yn y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd (gweler paragraff 2.1.9). Mae mesurau i fynd i'r afael â thanberfformio yn y meysydd hyn yn cael eu cymryd a'u monitro fel y disgrifir. Er bod Chwarter 4 wedi gweld gwelliant o gymharu â’r chwarter blaenorol mewn perthynas â phresenoldeb yn y gwaith gwaith, roedd y sgôr gronnus ar gyfer y flwyddyn, sef 10.34 WDL fesul CALl dros y targed o 9.95 WDL fesul CALl ac mae'n parhau i fod yn faes o ffocws parhaus. Mae’r defnydd o gyfryngau digidol - App Môn a'r wefan - i gysylltu a rhyngweithio â'r Cyngor wedi parhau i dyfu dros y flwyddyn gyda phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol y Cyngor yn cynyddu eto yn Chwarter 4. Mae hyn yn gadarnhaol a gobeithio y bydd yn arwain at fwy o ddefnydd o ffurflenni ar-lein ac ymgysylltu ar-lein a fydd yn gyrru'r rhaglen newid sianel ddigidol i alluogi preswylwyr i dalu a gofyn am wasanaethau ar-lein. Achubodd yr Aelod Portffolio ar y cyfle i longyfarch staff a chontractwyr Gwasanaeth Rheoli Gwastraff y Cyngor yn dilyn cyhoeddi arolwg blynyddol gan Cadwch Gymru'n Daclus a roddodd  Ynys Môn ar frig tabl awdurdodau lleol gyda sgôr o 100% am strydoedd Gradd B neu uwch.

 

Roedd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad yn cytuno fod y data perfformiad ar ddiwedd y flwyddyn yn galonogol ac yn rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa gref i barhau i wneud gwelliannau i wasanaethau yn y dyfodol a bod y canlyniad yn y pen draw i’w briodoli i’r gwaith parhaus sy'n digwydd trwy yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Craffu a'r Pwyllgor Gwaith.

Yn absenoldeb cynrychiolwyr y Pwyllgor Sgriwtini, soniodd y Cadeirydd am y cyfarfod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 3 Mehefin, 2018 lle'r oedd Aelodau wrth cydnabod perfformiad da pob DP ar draws y gwasanaethau ond hefyd wedi herio'r Aelodau Portffolio a'r Swyddogion ar y meysydd lle roedd perfformiad wedi disgyn yn fyr ac wedi gofyn am gadarnhad eu bod yn cael sylw, ac wedi ceisio sicrwydd hefyd bod y patrwm gwariant sydd ar i fyny yn y Gwasanaethau Oedolion yn cael ei reoli yn wyneb y pwysau cynyddol. Roedd y Pwyllgor Sgriwtini wedi cymryd sicrwydd o’r mesurau lliniaru arfaethedig i ymdrin â'r meysydd hynny lle roedd perfformiad yn is na'r targed ac yn hapus i’w hargymell i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Wrth gloi, fe wnaeth y Cadeirydd gydnabod gwaith a wnaed gan staff y Cyngor i gyrraedd y sefyllfa hon a dywedodd ei bod yn hawdd canolbwyntio ar yr ychydig o feysydd coch ar y Cerdyn Sgorio a methu â rhoi sylw priodol i'r meysydd Gwyrdd lle mae perfformiad gwasanaeth wedi cyrraedd y targed. Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cytuno bod y Cyngor, ers cyflwyno’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol a gweithredu arno, wedi esblygu ac aeddfedu o ran gwerthuso ac adrodd yn systematig ar ei berfformiad.

 

Penderfynwyd derbyn adroddiad y Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 4 2018/19, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Rheoli yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol ac i dderbyn y mesurau lliniaru mewn perthynas â’r meysydd hynny a nodir yn yr adroddiad  

Dogfennau ategol: