Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 4, 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor Gwaithadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi’r sefyllfa alldro refeniw dros dro ar gyfer 2018/19, gan gynnwys y prif amrywiadau yn y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid, ar ôl rhagamcan y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o Chwarter 1 ymlaen, bod y sefyllfa wirioneddol ar ddiwedd Chwarter 4 2018/19 o orwariant o £ 633k yn well na'r disgwyl ac mae wedi gwella'n fawr o gymharu â Chwarter 2 pryd rhagwelwyd gorwariant sylweddol. Erys pwysau o hyd ar nifer o gyllidebau gwasanaeth gyda gorwariant net o £ 2,287k, a'r prif feysydd ble mae'r pwysau mwyaf yw’r rhai yr adroddwyd arnynt drwy gydol y flwyddyn sef y Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Addysg Canolog. Mae'r gwelliant i’w briodoli’n bennaf i arbedion unwaith ac am byth ar gyllidebau corfforaethol a'r ymdrechion a wnaed gan wasanaethau o ddiwedd Chwarter 2 i gwtogi ar wariant gydag effeithiau cronnus hynny wedi cyfrannu at leihau'r gorwariant. Gan edrych ymlaen at 2019/20, bydd y Cyngor yn dal lefel resymol o gronfeydd wrth gefn cyffredinol, ond ar £ 5.9m, maent yn parhau i fod yn is na'r lefel o £ 6.76m a argymhellwyd ac a gytunwyd gan y Cyngor, ac mae cyllidebau gwasanaethau wedi'u cynyddu i adlewyrchu'r galw cynyddol. Dylai hyn, ynghyd â monitro sefyllfa’r gyllideb yn barhaus yn ystod y flwyddyn, sicrhau mai cyfyngedig yw’r risg o orwariant sylweddol yn ystod 2019/20.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, er gwaethaf y ffaith fod y sefyllfa’n well ar y cyfan, mae tri o wasanaethau'r Cyngor - Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Gwasanaethau Dysgu ac Oedolion yn parhau i fod dan bwysau. Er y dylai’r arian ychwanegol y darperir ar ei gyfer yng nghyllideb 2019/20 helpu’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i fynd i'r afael â'i gostau cynyddol yn yr adran Plant sy'n Derbyn Gofal, mae hyn yn dibynnu ar i’r galw yn y gwasanaeth hwn ac yn y Gwasanaethau Oedolion aros yn gyson. Cyfeiriodd y Swyddog at y sefyllfa ariannol yn ysgolion yr Ynys nad oedd wedi'i dogfennu yn yr adroddiad ond a oedd wedi gwaethygu erbyn diwedd 2018/19 gyda 12 ysgol gynradd a 3 ysgol uwchradd bellach mewn diffyg o gymharu â 3 ysgol gynradd ac 1 ysgol uwchradd ar ddiwedd 2017/18. Mae'r ysgol arbennig hefyd yn parhau i fod mewn diffyg. O ganlyniad, mae balansau ysgolion wedi gostwng o £ 1.8m ar ddiwedd 20 17/18 i £ 633k ar ddiwedd 2018/19. Felly mae angen cadw golwg ar y gyllideb ysgolion wrth ystyried y ffigurau.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r canlyniadau gwell na'r disgwyl ar gyfer 2018/19 gan gydnabod bod hyn yn rhannol oherwydd arbedion corfforaethol unwaith ac am byth na fydd efallai’n cael eu hail-adrodd yn y dyfodol ond hefyd gan gydnabod bod gwasanaethau wedi chwarae eu rhan drwy leihau gwariant. Cytunwyd bod y rhagolygon yn parhau i fod yn heriol a bod angen hefyd cadw llygad agos ar y sefyllfa ariannol mewn ysgolion.

 

Penderfynwyd

 

                       Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn atodiadau A a B yr adroddiad yng nghyswllt perfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2018/19.

                       Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau Wrth Gefn ar gyfer 2018/19 fel y manylir arnynt yn Atodiad C.

                       Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r Rhaglen Buddsoddi i Arbed a amlinellir yn Atodiad CH.

                       Nodi’r sefyllfa o ran arbedion effeithiolrwydd ar gyfer 2018/19 yn Atodiad D.

                       Nodi’r modd y caiff costau staff asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2018/19 yn Atodiadau DD ac E.

             Nodi bod yr alldro yr adroddir arno yn y ddogfen yn parhau i fod yn amodol hyd oni fydd yr archwiliad statudol wedi’i gwblhau

Dogfennau ategol: