Eitem Rhaglen

Partneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Gwynedd a Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dysgu mewn perthynas â’r cynnydd a wnaed gan ddisgyblion drwy’r bartneriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a ddaeth i rym ym mis Medi 2017.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant fod y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad ar gyfer Gwynedd a Môn yn weithredol ers mis Medi 2017 a bod yr adroddiad yn amlygu cynnydd a wnaed gan ddisgyblion o fewn y gwasanaeth.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr (FEE) – Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad ar gyfer Gwynedd a Môn (ADY a Ch) fod y Gwasanaeth ADY a Ch wedi canolbwyntio ar ysgolion Ynys Môn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae asesiadau mewn lle gan y Timau o fewn y Gwasanaeth i adrodd ar gynnydd disgyblion sy’n derbyn cefnogaeth gan y Gwasanaeth. Nodwyd bod y wybodaeth a gasglwyd gan y Gwasanaeth ADY wedi cael ei defnyddio i gymharu’r prosesau a ddilynwyd ar ddechrau’r flwyddyn ac ym mis Mai, 2019, a gwelwyd bod y prosesau a’r darpariaethau wedi gwella mewn 52% o ysgolion. Ym mis Mai, roedd 89% o ysgolion yn gallu dangos bod ganddynt brosesau a darpariaeth o ansawdd dda ac mae hynny’n welliant ers y broses CAG flaenorol. Nododd bod yr holl wasanaethau o fewn y Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad yn gallu dangos eu bod wedi cyfrannu at ddatblygu ansawdd y ddarpariaeth drwy’r hyfforddiant y maent wedi’i ddarparu a’r sgiliau y maent wedi’u trosglwyddo (a ddangosir yn Atodiad 3 – 7 yr adroddiad) ac mae ganddynt brosesau i sicrhau fod y wybodaeth yn cael ei gwreiddio yn yr ysgolion. Ychwanegodd fod Holiadur Gwasanaeth wedi’i anfon at ysgolion yng Ngwynedd ac Ynys Môn ym mis Mai 2019 ynghylch a yw darpariaeth y Gwasanaeth ADY a Chynhwysiad yn mynd i’r afael ag anghenion ysgolion. Nodwyd mai ychydig o ymatebion a dderbyniwyd, fodd bynnag, roedd yn amlwg o’r ymatebion fod angen i’r gwasanaeth ADY a Ch wella’r ffordd y mae’n cyfathrebu gydag ysgolion, disgyblion a’u teuluoedd. Ychwanegodd y Swyddog fod sylwadau cadarnhaol wedi’u derbyn am waith y Timau Gwasanaeth ADY a Ch sy’n ymweld ag ysgolion a’r budd gwerth chweil y mae’r disgyblion yn ei gael o’r Gwasanaeth.

 

Cyfeiriwyd at Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlysoedd (2018) a’r gwaith a wnaed i gyfarfod â gofynion y Ddeddf pan ddaw i rym ym mis Medi, 2020. Ym mis Ebrill, 2018, cwblhawyd Arolwg Parodrwydd Cychwynnol gyda’r Awdurdod a’r Arweinydd Trawsnewid ADY Rhanbarthol (Llywodraeth Cymru). Pan ailadroddir yr arolwg ym mis Gorffennaf 2019, disgwylir y bydd yr ardaloedd sy’n cael eu datblygu yn dangos digon o gynnydd fel y gellir ystyried eu bod o fewn y categori ‘diogel’.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-

 

·           Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y berthynas waith rhwng ysgolion Môn a’r Gwasanaeth ADY a Ch yn gyffredinol ac am sicrwydd fod ysgolion yn gallu helpu disgyblion, yn unol â’u hanghenion penodol, cyn eu cyfeirio at y Gwasanaeth ADY a Ch. Dywedodd yr Uwch Reolwr (FEE) - Gwasanaeth ADY a Ch, ei bod yn bwysig cefnogi staff ADY a Ch ac i gynnal a datblygu perthynas dda gyda’r ysgolion a disgyblion. Darparwyd hyfforddiant i ysgolion drwy’r cyfleusterau hyfforddi ‘Haen 2’ sy’n rhoi sylw i waith sydd angen ei wneud cyn cyfeirio disgyblion at y Gwasanaeth ADY a Ch;

·           Cyfeiriwyd at yr heriau a wynebwyd yn y gorffennol pan oedd angen mewnbwn y Bwrdd Iechyd ar gyfer plentyn a gyfeiriwyd at y Gwasanaeth ADY a Ch. Dywedodd yr Uwch Reolwr (FEE) – Gwasanaeth ADY a Ch, fod nifer dda o gynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd yn bresennol mewn cyfarfodydd cynllunio unigol a bod Therapyddion Iaith a Lleferydd yn bresennol hefyd os oes angen. Ychwanegodd, fel rhan o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (2018), y bydd disgwyl i’r Gwasanaethau Iechyd ymateb o fewn cyfnod byr o amser;

·           Nodwyd fod gan Swyddogion Ansawdd ystod o gyfrifoldebau a gofynnwyd a oes cyfrifoldeb ar y Swyddogion Ansawdd os na lynir at yr amserlen wrth ddelio gyda phlentyn sydd ag anghenion penodol. Dywedodd yr Uwch Reolwr (FEE) – Gwasanaeth ADY a Ch – fod y Swyddogion Ansawdd yn gyfrifol am ‘fapio’ ysgolion o ran cysondeb a monitro’r ddarpariaeth mewn ysgolion;

·           Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr heriau y mae’r Gwasanaeth ADY a Ch yn eu hwynebu mewn perthynas â’r ddeddf newydd, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) (2018). Dywedodd yr Uwch Reolwr (FEE) - Gwasanaethau ADY a Ch - fod cyfeiriadau at ‘les’ plentyn/disgybl yn y Ddeddf newydd yn cael eu croesawu, ac yn arbennig o safbwynt disgyblion ysgolion uwchradd. Ychwanegodd y bydd darparu ar gyfer y grŵp oedran 0-3 yn her i’r gwasanaeth gan y bydd rhaid penderfynu a fydd y ddarpariaeth ADY a Ch yn cael ei chynnig cyn i blentyn ddechrau yn yr ysgol gynradd. Nodwyd hefyd y bydd y grŵp 16-25 oed yn grŵp oedran newydd y bydd rhaid i’r gwasanaeth ddarparu ar eu cyfer o fewn y cwricwlwm addysg newydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

GWEITHREDU : Derbyn adroddiad diweddaru ar y Gwasanaeth ADY a Ch ym mis Tachwedd 2019.

 

Dogfennau ategol: