Eitem Rhaglen

Datganiad o'r Cyfrifon Drafft a Datganiad Llywodraethu Drafft 2018/19

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r Datganiad cyn-archwiliad drafft o'r Cyfrifon ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19 ynghyd â'r Datganiad Llywodraethu drafft ar gyfer 2018/19 i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Diolchodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 i'r timau Cyfrifeg a Civica am eu gwaith o ran helpu i sicrhau bod y cyfrifon drafft wedi cael eu cwblhau a'u cyhoeddi yn unol â'r dyddiad cau statudol a oedd, ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018/19 a 2019/20, wedi ei ddwyn ymlaen i 15 Mehefin. Mewn gwirionedd, cwblhawyd y cyfrifon drafft erbyn diwedd mis Mai, oherwydd mai dyma fydd y dyddiad cau statudol ar gyfer 2020/21 a’r blynyddoedd wedyn.  Mae'r Datganiad o'r Cyfrifon wedi cael ei baratoi a'i nodi yn unol â rheoliadau ac arferion cyfrifyddu ac fe'i cynhyrchir yn flynyddol i roi gwybodaeth i etholwyr, trethdalwyr lleol, Aelodau'r Cyngor, gweithwyr a phartïon eraill â diddordeb am gyllid y Cyngor a sut mae'n gwario arian cyhoeddus. Cyfeiriodd y Swyddog at y prif ddatganiadau ariannol gan dynnu sylw at y pwyntiau allweddol sy'n codi ohonynt fel a ganlyn –

 

           Adroddiad naratif - mae'n adrodd ar hanes perfformiad ariannol y Cyngor am y flwyddyn ac yn darparu canllawiau ar gyfer y materion mwy arwyddocaol yr adroddir arnynt yn y cyfrifon gan gynnwys y cyflawniadau, y materion a'r risgiau allweddol sy'n effeithio ar y Cyngor. Yn 2018/19, nododd y Cyngor orwariant o £ 633k yn erbyn gweithgaredd a gynlluniwyd o

£ 130.9m (cyllideb net) a chyflawnwyd £ 2.064m o arbedion. Mae'r tabl yn 3.4.1 yn adlewyrchu'r gyllideb derfynol ar gyfer 2018/19 a’r incwm a’r gwariant gwirioneddol yn ei herbyn. Roedd tanwariant yn y Gyllideb Gyfalaf yn y flwyddyn gyda chyfanswm y gwariant yn £ 30.678m yn erbyn cyfanswm o £ 62.881m yn y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2018/19.

           Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr – mae’n dangos y gost gyfrifyddol o ddarparu gwasanaethau yn ystod y flwyddyn yn unol ag arferion cyfrifeg yn hytrach na'r swm a fydd yn cael ei ariannu o drethi a dyna’r rheswm am y diffyg o £ 20.744m sy'n adlewyrchu’r ffaith bod eitemau o wariant heblaw arian parod fel sy’n ofynnol yn ôl arferion cyfrifyddu (atebolrwydd pensiwn, dibrisiant, ailbrisio asedau) yn cael eu cynnwys yn hytrach na manylion am llif arian parod go iawn y Cyngor.

           Crynodeb o'r Symudiadau yng Nghronfeydd Wrth Gefn y Cyngor (tudalen 24 o'r cyfrifon) – mae’n dangos y gorwariant net o £ 633k am y flwyddyn yn unol â'r adroddiad ar yr alldro refeniw a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith fel rhan o'r broses monitro ariannol a'r effaith ar y Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol.  Mae’r ffigwr yn cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng gwariant y cyllidebwyd ar ei gyfer a gwariant gwirioneddol am y flwyddyn. Mae'r tabl Crynodeb o Symudiadau hefyd yn dangos bod gwared o  £ 805k ym malansau’r Cyfrif Refeniw Tai am y flwyddyn a bod cyfanswm cronfeydd wrth gefn defnyddiadwy'r Cyngor ar 31 Mawrth, 2019 yn £ 24.844m o gymharu â £ 24.069m ar 1 Ebrill, 2018.

           Y Fantolen - yn dangos gwerth yr asedau a'r rhwymedigaethau (yr hyn y mae'r Cyngor yn berchen arno a'r arian y mae arno ond heb gynnwys priffyrdd a phontydd ac ati) a gydnabyddir gan y Cyngor ar ddyddiad y Fantolen, sef 31 Mawrth, 2019. Mae gwerth y Cyngor wedi gostwng o £ 183.2m ar 31 Mawrth, 2018 i £ 162.456m ar 31 Mawrth, 2019 a hynny’n bennaf o ganlyniad i'r cynnydd o £ 28.5m yn y diffyg yng Nghronfa Cynllun Pensiwn Diffiniedig Llywodraeth Leol.

           Y Datganiadau Llif Arian - yn dangos y newidiadau yn arian parod a chyfwerth ag arian parod y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol wedi'i rannu'n weithgareddau gweithredu, buddsoddi ac ariannu.

           Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol craidd – maent yn darparu gwybodaeth a chyd-destun ychwanegol i'r ffigurau yn y prif ddatganiadau ariannol. Tynnwyd sylw at nodiadau penodol a oedd yn ymhelaethu ar gronfeydd wrth gefn clustnodedig y Cyngor a'u pwrpas (N8); sefyllfa balansau ysgolion (N9); trethiant ac incwm grant amhenodol (gan gynnwys £ 44.606m a gasglwyd fel incwm Treth Gyngor yn 2018/19) (N14); asedau anghyfredol - eiddo, peiriannau ac offer sy'n darparu manylion am yr asedau a gaffaelwyd ac y cafwyd gwared arnynt yn ystod flwyddyn, ailbrisio a dibrisiant (N15); darpariaethau (N27); incwm gan dderbynwyr gwasanaeth (N31b); Lwfansau aelodau (N33); Tâl swyddogion (N34); Incwm grantiau (N37); Cynllun Pensiwn Athrawon a'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (N40 a 41).

           Datganiad Llywodraethu Blynyddol - mae'n nodi'r broses, y systemau, yr egwyddorion a'r gwerthoedd y mae'r Cyngor yn cael ei arwain a’i reoli ganddynt gan gynnwys y trefniadau a oedd ar waith ganddo yn ystod y flwyddyn i reoli a lliniaru risgiau wrth gyflawni ei gyfrifoldebau a'i weithgareddau.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafododd y Pwyllgor y canlynol -

 

           Y yn y sefyllfa gyffredinol o ran balansau ysgolion gyda 12 allan o'r 43 ysgol gynradd a 3 o'r 5 ysgol uwchradd yn ogystal â'r ysgol arbennig mewn diffyg ar 31 Mawrth, 2019 o gymharu â 3 ysgol gynradd ac 1 ysgol uwchradd ar 31 Mawrth, 2018. Yng ngoleuni'r uchod, roedd y Pwyllgor yn pryderu am allu'r Cyngor i gynnal ei ysgolion lleiaf yn y tymor hir. Cyfeiriodd y Pwyllgor ymhellach at y cyhoeddiad yn ddiweddar y byddai athrawon yn cael codiad cyflog o 2.75% a holodd a fyddai'r cynnydd yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod sefyllfa ariannol yr ysgolion yn dod yn anoddach i'w rheoli wrth i gyllidebau leihau sy’n golygu fod ysgolion yn ei chael hi'n fwyfwy anodd cydbwyso eu cyllidebau heb orfod torri staff dysgu. Mae ysgolion llai yn tueddu i gael eu heffeithio'n waeth oherwydd bod ganddynt lai o staff sy'n golygu bod unrhyw ostyngiad yn nifer y staff yn arwain at ddosbarthiadau mwy. Yn achos y Cyngor, mae parhau i gynnal model o ddarpariaeth addysg gynradd sy'n cynnwys 40 o ysgolion cynradd hefyd yn dod yn anoddach yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, nid yn lleiaf oherwydd cost cynnal a chadw 40 adeilad; fel arall gellid gwario’r arian a arbedir trwy leihau’r portffolio o adeiladau ysgolion ar ddarpariaeth addysg. O ran cyflog athrawon sydd bellach yn fater datganoledig, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddoe gynnydd o 5% ar gyfer athrawon sydd newydd gymhwyso a chynnydd o 2.75% ar gyfer yr holl athrawon eraill ond ni chafwyd unrhyw fanylion ynghylch y modd y bwriedir ariannu’r cynnydd hwn. Wrth wneud ei chyhoeddiad ei hun ynghylch codiad cyflog y sector cyhoeddus yr wythnos diwethaf, nododd Llywodraeth San Steffan y byddai'n rhaid ei ariannu o gyllidebau presennol yr Adrannau sy'n awgrymu na fydd unrhyw arian ychwanegol ar gael i dalu cost y cynnydd, sy'n golygu hefyd na fydd arian ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru. Yn yr achos hwnnw, gall Llywodraeth Cymru naill ai ariannu cost y codiad cyflog drwy wneud toriadau mewn man arall yn ei chyllideb neu gall drosglwyddo'r gost i'r cynghorau gan olygu y bydd angen iddynt ddod o hyd i'r arian ychwanegol drwy gynyddu’r Dreth Gyngor a / neu leihau cyllidebau ysgolion a fyddai, yn ei dro, yn rhoi mwy o bwysau ariannol ar ysgolion.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod Strategaeth Moderneiddio Ysgolion y Cyngor a luniwyd yn 2012 a’i hadolygu a’i diweddaru yn 2018 yn ceisio mynd i’r afael, ymhlith materion eraill, â materion sy’n ymwneud ag ansawdd a chost-effeithiolrwydd y ddarpariaeth addysg gynradd ar yr Ynys tra hefyd yn ystyried yn benodol ofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018 sy'n nodi bod yn rhaid, wrth drafod ysgolion bach, ystyried pob dewis amgen hyfyw yn hytrach na’u cau.

 

           Rhwymedigaethau’r Gronfa Cynllun Pensiwn. Nododd y Pwyllgor nad oes gan y Cyngor unrhyw fewnbwn o ran sut a ble y mae arian y Gronfa yn cael ei fuddsoddi.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, er bod y Cynllun Pensiwn yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gwynedd, bod y Cyngor hwn yn cael ei gynrychioli ar Bwyllgor Pensiynau Gwynedd gan yr Aelod Portffolio Cyllid. Cadarnhaodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y Pwyllgor Pensiynau yn cyfarfod bob rhyw ddau i dri mis a'i fod i fod i gyfarfod yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf i gwrdd â rhai o'r Rheolwyr Buddsoddi sy'n rheoli buddsoddiadau'r Gronfa. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod rhan o asedau'r Gronfa wedi cael eu cyfuno gydag asedau cronfeydd pensiwn llywodraeth leol eraill yng Nghymru ac y byddai ef, ynghyd â Swyddog 151 Cyngor Gwynedd ac aelodau eraill o Bwyllgor Pensiynau Gwynedd yn cyfarfod â Russell Investments, un o reolwyr y cronfeydd cyfun cyn diwedd y flwyddyn. Disgwylir i'r prisiad actiwaraidd nesaf o'r Gronfa Bensiwn gael ei gynnal ym mis Mawrth, 2020.

 

                 Dyledwyr. Holodd y Pwyllgor a oedd cysylltiad rhwng y £ 266k sydd wedi ei nodi yn erbyn dyledwyr tymor hir yn y Fantolen a'r ddarpariaeth o £ 5.639m ar gyfer dyledion drwg y cyfeirir ati yn Nodyn 24 (Dyledwyr). Nododd y Pwyllgor ymhellach fod derbyniadau a gymerwyd gan y Cyngor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (sydd, oherwydd bod y ddau gorff yn cael eu rheoli y Llywodraeth ganolog yn barti sy’n gysylltiedig â'r Cyngor) yn dod i £ 2.077m (£3.768m yn 2017/18), gyda £ 2.231m yn ddyledus gan y parti cysylltiedig ar ddiwedd y flwyddyn. Gofynnodd y Pwyllgor am esboniad o'r sefyllfa mewn perthynas â'r arian sy'n ddyledus ac a yw'r sefyllfa'n debygol o ddod yn fwy cymhleth wrth i’r Cyngor gydweithio mwy â’r Bwrdd Iechyd.

 

Eglurodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod Nodyn 24 yn darparu dadansoddiad o'r swm o £ 29.9m sy’n gysylltiedig â dyledwyr tymor byr (blwyddyn neu lai) ac nid yw’n cynnwys y ddarpariaeth o £ 5.539m ar gyfer dyledion drwg. Amcangyfrif yw hwn o'r arian sy'n ddyledus ac sydd, fe dybir, yn annhebygol o gael ei gasglu ac y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cyfrifon ond nid yw'n golygu bod y dyledion yn cael eu diystyru neu fod y Cyngor yn rhoi’r gorau i geisio eu hadennill. Po fwyaf o ddyled y mae'r Cyngor yn llwyddo i'w hadennill, y mwyaf yw'r gostyngiad yn y ddarpariaeth dyledion drwg a'r lleiaf yw'r effaith ar y gyllideb refeniw. O ran BIPBC, dywedodd y Swyddog ei fod wedi cael trafodaethau â Chyfarwyddwr Cyllid newydd BIPBC yn ddiweddar ac yn dilyn hynny, cadarnhawyd y swm a oedd yn ddyledus gan y Bwrdd Iechyd, sef swm a oedd oddeutu £ 600k ar y pryd. Mae yna hefyd ddyledion hanesyddol y mae angen mynd i’r afael â nhw; mae'n bosibl y bydd datrys y rhain yn anoddach gan fod y Bwrdd Iechyd yn gofyn am dystiolaeth sy’n cadarnhau y gwnaed cytundeb i’w talu ac efallai na fydd y dystiolaeth honno ar gael pan fo dipyn o amser wedi mynd heibio neu mewn achosion ble yr oedd cytundeb yn seiliedig ar ddealltwriaeth ar lafar yn unig. Pan mae’r Cyngor yn cydweithio â'r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau, yna byddai trefniant o'r fath yn cael ei gefnogi o'r cychwyn gan gytundeb gwasanaeth yn nodi'r broses ar gyfer rhannu'r costau a'r cyfrifoldeb am daliadau. Un maes aneglur yw'r gwahaniaeth rhwng costau iechyd a gofal cymdeithasol gyda nifer o ddyledion yn codi o achosion unigol lle na ddaethpwyd i gytundeb ynghylch a yw'r costau a gafwyd i’w priodoli i anghenion iechyd sy'n daladwy gan y Bwrdd Iechyd neu oherwydd anghenion gofal cymdeithasol sy'n daladwy gan yr awdurdod lleol (oni bai bod y cleient yn hunan-ariannu.)

 

Dywedodd y Swyddog fod cyfraddau casglu dyledion y Cyngor yn dda yn gyffredinol ac mewn perthynas â’r Dreth Gyngor a Chyfraddau Busnes, roedd y cyfraddau casglu yn 99.3% dros gyfnod o dair blynedd. (Yr incwm y mae'r Cyngor yn ei gasglu drwy’r Dreth Gyngor yw £ 44m - Nodyn 14). Yn achos dyledion eraill, mae'r gyfradd casglu oddeutu 85%. Mae'r Cyngor wedi cyflogi swyddog i helpu i fynd i'r afael â dyledion hanesyddol sydd, er bod y prosiect yn agosáu at ei ddiwedd, yn parhau i gyflawni bob mis o ran adennill dyledion. Mae'r Cyngor hefyd yn mabwysiadu dull mwy rhagweithiol o ran mathau eraill o ddyled e.e. adennill costau gofal cymdeithasol.

 

           Darpariaethau. Holodd y Pwyllgor am y cynnydd o £ 278k ar gyfer costau posibl yn y dyfodol mewn perthynas â safle tirlenwi Penhesgyn. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod costau yn gysylltiedig â chynnal a chadw safle Penhesgyn ac yn benodol mewn perthynas â'r cylfat sy'n rhedeg o dan y safle. Gwneir y ddarpariaeth i dalu am unrhyw gostau posibl a allai ddeillio petai’r cylfat yn methu.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad, penderfynodd y Pwyllgor nodi'r datganiadau ariannol drafft nas archwiliwyd ar gyfer 2018/19.

 

NI WNAED UNRHYW GYNIGION YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: