Eitem Rhaglen

Adolygiad Blynyddol ar Reoli'r Trysorlys 2018/19

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyriedadroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori’r Adolygiad Rheoli Trysorlys ar gyfer 2018/19.

 

Tynnodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 sylw at y canlynol -

 

           Yn wyneb yr ansicrwydd sy’n parhau ynghylch yr economi dros gyfnod Brexit a’r ffaith fod cyfraddau llog yn parhau’n isel, mae’r Strategaeth Rheoli’r Trysorlys wedi parhau i fenthyca dim ond pan fo angen ac i fuddsoddi ar sail diogelwch a hylifedd gan sicrhau bod yr arian parod y mae’r Cyngor wedi’i fuddsoddi ar gael yn rhwydd.

           Am sawl blwyddyn bellach, strategaeth y Cyngor fu defnyddio ei adnoddau arian parod ei hun i ariannu gwariant cyfalaf lle bo’n bosib. Fodd bynnag, oherwydd balansau arian parod isel yn ystod y flwyddyn, penderfynwyd benthyca’n allanol gan gymryd dau fenthyciad hirdymor allan gyda’r PWLB – £15m ym mis Ionawr, 2019 dros 50 mlynedd ar gyfradd llog o 2.49% (defnyddiwyd £5m o hwn i ad-dalu benthyciad a oedd yn aeddfedu) a £10m ym mis Mawrth 2019 dros 46 mlynedd ar gyfradd llog o 2.24%.

           Ar ddechrau’r flwyddyn, roedd y sefyllfa benthyca mewnol yn £19.9m. Trwy dynnu’r benthyciadau y cyfeirir atynt uchod, roedd y sefyllfa benthyca mewnol ar 31 Mawrth, 2019 wedi lleihau i £6.2m.

           Yn ystod y flwyddyn honno, roedd y Cyngor hefyd wedi cymryd dau fenthyciad tymor byr – un am £5m ym mis Hydref, 2018 am 3 mis gyda Chyngor Sir Gogledd Swydd Efrog gyda chyfradd llog o 0.85% a’r llall am £5m ym mis Rhagfyr, 2018 am 1 mis gyda Chronfa Bensiwn Tyne and Wear gyda chyfradd llog o 0.8%. Fe wnaeth y Cyngor gymryd y benthyciadau hyn i leddfu anawsterau llif arian tymor-byr.

           Yn ystod 2018/19, fe wnaeth y Cyngor gydymffurfio â’i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol. Roedd y Gofyn Cyllido Cyfalaf (CFR – angen sylfaenol y Cyngor i fenthyca) a ragwelwyd ar adeg cynhyrchu’r dangosyddion darbodus ar gyfer 2018/19 yn £148.940m. Roedd y CFR gwirioneddol yn llawer is, sef £138.660m. Ni aeth y Cyngor dros y Terfyn Benthyca Awdurdodedig (£177M) na’r Terfyn Gweithredol (£172m) yn ystod y flwyddyn, gyda’r ddyled allanol yn dod i uchafswm o £134.4m yn unig. Mae’r perfformiad yn erbyn y Dangosyddion Darbodus a osodwyd gan y Cyngor yn dangos bod gweithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor yn cael eu gwneud mewn modd rheoledig sy’n sicrhau diogelwch ariannol y Cyngor ac nad ydynt yn rhoi’r Cyngor mewn unrhyw berygl ariannol sylweddol yn nhermau benthyca gormodol neu anfforddiadwy.

           Gan edrych ymlaen, mae’n debyg y bydd y strategaeth yn parhau i fod yn un o fuddsoddiadau risg isel, elw isel, a threfn o gynllunio benthyciadau i gael y taliadau llog isaf posib.

 

Ar y pwynt hwn, eglurwyd fod y Pwyllgor wedi bod yn rhedeg am dair awr bellach, ac o dan ddarpariaethau paragraff 4.1.10 o Gyfansoddiad y Cyngor, roedd angen penderfyniad gan fwyafrif o’r Aelodau hynny o’r Pwyllgor a oedd yn bresennol i gytuno i barhau â’r cyfarfod. Cytunwyd y dylai’r cyfarfod barhau.

 

Mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor, cafwyd eglurhad pellach gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 -

 

           Mae’r tanwariant ar y gyllideb gyfalaf yn ymwneud yn bennaf â chynlluniau sy’n cael eu hariannu gan grantiau cyfalaf. Mae ymagwedd y Cyngor at fenthyca yn seiliedig ar nodau ac anghenion llif arian yn hytrach nag ar sail fesul prosiect h.y. bydd y Cyngor yn benthyca pan nad oes ganddo arian parod ar gael i ariannu gwariant cyfalaf.

           Bod y tâl a godir i Refeniw am gost y benthyca yn cael ei wneud trwy’r Ddarpariaeth Refeniw Isafswm (MRP). Mae’r Polisi MRP wedi’i ddiwygio er mwyn cysylltu’r benthyciad i oes yr ased a fenthycwyd ar ei gyfer fel bod y tâl i refeniw yn darparu digon ar ddiwedd tymor y benthyciad i ad-dalu’r ddyled pan ddaw’n ddyledus.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi y bydd y ffigyrau alldro yn yr adroddiad yn aros yn rhai dros dro hyd nes bydd yr archwiliad ar Ddatganiad Cyfrifon 2018/19 wedi’i gwblhau a’i lofnodi; bydd unrhyw addasiadau sylweddol i’r ffigyrau yn yr adroddiad sy’n deillio o’r archwiliad yn cael eu hadrodd fel bo’n briodol.

           Nodi’r dangosyddion darbodus a thrysorlys dros dro ar gyfer 2018/19 yn yr adroddiad.

           Derbyn yr adroddiad Adolygiad Blynyddol ar Reoli’r Trysorlys 2018/19, a’i argymell i’r Pwyllgor Gwaith heb sylwadau.

Dogfennau ategol: