Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru (Rhan 9) - 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a’r Deilydd Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn ofynnol dan Ran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol baratoi a chyflwyno adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru (roedd copi o’r adroddiad ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad). Nododd mai pwrpas Rhan 9 y Ddeddf yw gwella canlyniadau a llesiant pobl, yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y gwasanaethau a ddarperir. Prif amcanion y Bwrdd, sy’n cael eu nodi yn yr adroddiad, yw annog cydweithrediad, partneriaeth ac integreiddio. Ychwanegodd fod y Bwrdd Iechyd, yn ystod 2018/19, wedi adolygu a chryfhau ei gynrychiolaeth ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, gyda saith o gynrychiolwyr ar y Bwrdd. Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithio gyda’u partneriaid perthnasol ac eraill, mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr a phlant. Mae’n gosod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol i gydweithredu â ac i ddarparu gwybodaeth i awdurdodau lleol at ddibenion eu swyddogaethau yn y maes gwasanaethau cymdeithasol. Dywedodd y Deilydd Portffolio mai’r mater pwysicaf y mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi manteisio arno eleni yw arian Cymru Iachach gan Lywodraeth Cymru er mwyn trawsnewid y ffordd y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu. Nododd fod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi cyflwyno pedwar bid i Lywodraeth Cymru a llwyddodd pob un ohonynt i sicrhau arian.

 

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor fod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi cymeradwyo Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru ynghyd â strategaeth ar gyfer Gofalwyr mewn partneriaeth â gofalwyr, sefydliadau gofalwyr a phartneriaid.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn:-

 

·           Gofynnwyd oni fyddai wedi bod yn fwy priodol i sefydlu dau Fwrdd Partneriaeth ar draws Gogledd Cymru gan ei bod yn ymddangos fod gan y bwrdd nifer fawr iawn o aelodau. Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Byrddau Partneriaeth wedi eu sefydlu i gyd-fynd ag ardaloedd y Byrddau Iechyd, yn unol â’r rheoliadau presennol;

·           Cyfeiriwyd at y modd y mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cyfrannu at waith partneriaeth lleol. Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol fod gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol rôl strategol a’i nod yw llywio cynnydd. Mae arian y grant trawsnewid, h.y. arian y Gronfa Cymorth Canolradd gan Llywodraeth Cymru, yn cael ei ddyrannu drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac mae Ynys Môn yn derbyn £1.2m o arian refeniw sydd yn ariannu, ymysg pethau eraill, y cynllun Nightowls; Cartrefi Clud Môn; Unedau Mân Anafiadau; Uned Gofal Lliniarol yn Ysbyty Penrhos Stanley, Caergybi; prosiect Llawr y Dref, Llangefni; Unigolion ag Anableddau Dysgu. Ychwanegodd y byddai £13m yn cael ei ddarparu drwy arian yr Adolygiad Seneddol ac mae’n hanfodol bod Cyngor Sir Ynys Môn yn sicrhau’r budd mwyaf o’r adnoddau hyn i breswylwyr lleol;

·           Gofynnwyd pa gynlluniau sydd yn eu lle i ddatblygu cyllidebau cyfun ar gyfer awdurdodau lleol. Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol y cytunwyd eleni ar broses ar gyfer cyfuno cyllidebau sydd, yn ei hanfod, yn ymarfer casglu gwybodaeth dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych;

·           Cyfeiriwyd at ddatganiad yn yr Adroddiad Blynyddol h.y. ‘newid y system gyfan ac ail-fuddsoddi adnoddau i fodel ataliol sy’n hyrwyddo iechyd a lles da, ac sy’n defnyddio tystiolaeth o'r hyn sy’n gweithio orau yn effeithiol’. Gofynnwyd a oes arian ar gael i gefnogi model o’r fath. Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol mai nod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw llywio buddsoddiad arian grant er mwyn cefnogi trawsnewid a galluogi pobl i gael mynediad i wasanaethau yn eu cymunedau lleol, lle bynnag y bo hynny’n bosib, ac i leihau achosion lle mae anghenion unigolion am wasanaethau yn dwysau.

 

PENDERFYNWYD nodi gwaith a chynnydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn 2018/19

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

 

Dogfennau ategol: