Eitem Rhaglen

Adroddiadau Hunan Arfarniadau Ysgolion

Cyflwyno adroddiadau hunan arfarnu AG gan yr ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol Y Talwrn

  Ysgol Pentraeth

  Ysgol Gynradd Amlwch

Cofnodion:

Cafodd yr adroddiadau hunan-arfarnu gan Ysgol Y Talwrn, Ysgol Gymunedol Pentraeth ac Ysgol Gynradd Amlwch eu cyflwyno i’r CYSAG i’w hystyried.

 

Nodwyd fod safon y dysgu a gyrhaeddwyd mewn AG yn yr ysgolion hyn naill ai’n ddigonol neu’n dda. 

 

Mynegodd y CYSAG bryder nad yw adroddiadau hunan-arfarnu yn cael eu gwirio gan gorff proffesiynol, ac nid oes unrhyw fath o gefnogaeth i ysgolion a allai fod angen cymorth i wella a chodi safonau.

 

Cynigiodd y Cadeirydd ei fod yn ymweld ag Ysgol Y Talwrn i arsylwi Addoli ar y Cyd, ac i weld y gwaith sy’n cael ei wneud gan ddisgyblion yn yr ysgol.

 

Rhoddodd Mrs Mefys Jones-Edwards adroddiad llafar ar yr adroddiad hunan-arfarnu roedd hi wedi’i baratoi ar gyfer Ysgol Syr Thomas Jones, yn dwyn y teitl Y Gyfadran Dyniaethau. Tynnodd sylw at y 5 pwynt allweddol isod o’i hadroddiad mewn perthynas ag AG:-

 

1.  Safonau

 

     Mae canlyniadau CA4 a CA5 yn dda iawn, gyda phob disgybl yn ennill

   cymhwyster yn y pwnc;

     Mae canlyniadau CA3 yn ddigonol i dda, gan eu bod yn amrywio ymhlith

    gwahanol grwpiau;

     Mae safonau mewn perthynas â bechgyn angen gwella, gan fod bechgyn

   ar hyn o bryd yn tanberfformio ar draws yr ynys;

     Mae angen i safonau CA5 wella yn yr Uned Athroniaeth;

     Mae llythrennedd yn dda iawn, oherwydd y gwaith cynllunio sydd wedi

    digwydd i wella sgiliau llafar ac ysgrifenedig. 

     ’Does ond angen datblygu sgiliau rhifedd a TG fel bo raid.

 

2.  Llesiant ac Agwedd at Ddysgu

 

     Mae cyfranogiad disgyblion mewn gwersi yn dda iawn; maent yn

    mwynhau’r pwnc;

     Mae gan athrawon a phlant berthynas dda mewn gwersi AG;

     Mae angen datblygu agwedd y disgyblion at ddysgu’n fwy annibynnol, ac

   mae’n un o’r 12 maes yn y cwricwlwm newydd. 

 

3.  Addysgu a Phrofiadau Dysgu

 

     Mae’r ddarpariaeth AG o ran gwersi, llyfrau a siarad gyda dysgwyr yn

    dda;

     Mae’r disgyblion yn elwa o brofiadau trwy ymweliadau;  

     Mae sgiliau a gwybodaeth ar ddeall Cristnogaeth a chredoau eraill yn

    cael eu teilwra’n dda yn y cynlluniau gwaith.

 

4.  Gofal, Cymorth ac Arweiniad

 

     Mae athrawon yn cwestiynu dysgwyr pan fyddant yn darparu adborth i

    ddisgyblion, lle mae angen ymatebion craff, ac mae hynny yn ei dro yn

    gwella safon y gwaith yn yr ystafell ddosbarth;

     Mae’r deialog rhwng athrawon a disgyblion wedi gwella;

     Mae sesiynau addoli ar y cyd yn cael eu cynnal yn ddyddiol yn Ysgol Syr

    Thomas Jones.

           

5.  Arweinyddiaeth a Rheolaeth  

 

     Mae cydweithio strategol yn digwydd gydag ysgolion eraill yng nghyswllt

    TGAU a Lefel A, sy’n arwain at weithio ar y cyd yn well;

     Mae hunan-arfarnu yn digwydd yn flynyddol yn yr ysgol, ac mae Cynllun

    Gwella y flwyddyn ganlynol yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd yn

    adroddiad hunan-arfarnu yr ysgol;

     Mae gan bob aelod o staff yn yr ysgol y cyfle i ddatblygu’n broffesiynol;

     Mae angen rhannu arfer dda fel ffordd o baratoi at y cwricwlwm newydd,

    gan y bydd yna newidiadau amlwg.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r athrawon a fu ynghlwm â pharatoi a chyflwyno’r adroddiadau hunan-arfarnu i’r CYSAG.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r adroddiadau hunan-arfarnu AG fel y cawsant eu cyflwyno. 

  Bod y Cadeirydd yn cysylltu â Phennaeth Ysgol Y Talwrn i drefnu ymweliad i’r ysgol i arsylwi sesiwn Addoli ar y Cyd a’r gwaith sy’n cael ei wneud gan ddysgwyr yn yr ysgol.

  

Gweithredu:  Fel y nodir uchod.

Dogfennau ategol: