Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.
Cofnodion:
Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro yn darparu gwybodaeth am faterion sy'n codi o dan Bolisi Pryderon a Chwynion y Cyngor am y cyfnod 1 Ebrill, 2018 i 31 Mawrth, 2019. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol ond dim ond y rhai lle nad oedd yr achwynydd yn ddefnyddiwr gwasanaeth. Ymdrinnir â chwynion defnyddwyr gwasanaeth o dan Weithdrefn Sylwadau a Chwynion Gwasanaethau Cymdeithasol ac adroddir arnynt yn flynyddol i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ar y prif bwyntiau fel a ganlyn –
• Yn ystod y cyfnod y mae’r adroddiad yn rhoi sylw iddo, derbyniwyd 62 o bryderon a gwnaed 76 o gwynion. O'r 76 o gwynion, mae un (Tai) yn parhau i fod yn agored gan nad yw'r gwaith y mae angen ei wneud wedi'i gwblhau ac mae un arall (Cynllunio) ar stop am y tro ar hyn o bryd gan fod y Cyngor yn aros i glywed gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC). Felly, ymchwiliwyd ac ymatebwyd i 74 o gwynion yn ystod y cyfnod hwn. Mae nifer y cwynion a dderbyniwyd yn parhau i fod ar tua’r un lefel ag yn 2017/18.
• O'r 74 o gwynion yr ymdriniwyd â hwy yn ystod y cyfnod, cadarnhawyd 16 yn llawn, cadarnhawyd 7 yn rhannol ac ni chadarnhawyd 51 ohonynt. Cyfeiriwyd 9 cwyn i OGCC, gwrthodwyd 5 gan OGCC a datryswyd 4 (Adnoddau) trwy ddatrysiad cynnar. Roedd pob un o'r 9 cwyn a uwchgyfeiriwyd at OGCC wedi bod trwy'r broses fewnol. Darperir dadansoddiad o'r pryderon a'r cwynion fesul gwasanaeth yn yr adroddiad.
• Ymatebwyd i 92.6% o’r cwynion o fewn y terfyn amser penodedig (20 diwrnod gwaith). Roedd 9% o'r cwynion a dderbyniwyd (i fyny o 5% yn 2017/18) yn deillio o bryderon a uwchgyfeiriwyd. Mae hynny’n parhau i ddangos bod gwasanaethau'n delio'n effeithiol â phryderon a thrwy hynny’n cyfyngu nifer y cwynion ffurfiol.
• Mae'r Polisi Pryderon a Chwynion yn rhoi pwyslais ar ddysgu gwersi o gwynion a thrwy hynny wella gwasanaethau. Mae Atodiad 1 i'r adroddiad yn egluro pa wersi a ddysgwyd ac unrhyw arfer sydd wedi esblygu o ganlyniad i'r canfyddiadau hyn.
• Os yw’r achwynydd yn parhau i fod yn anfodlon ag ymateb y Cyngor i gŵyn, mae'r Polisi Pryderon a Chwynion yn cynnwys yr opsiwn o uwchgyfeirio'r gŵyn i OGCC. Roedd 18 o gwynion wedi eu huwchgyfeirio trwy’r broses hon o fewn amserlen OGCC - dim ond 1 a ystyriwyd yn ddigon difrifol i warantu ymchwiliad; mater Priffyrdd oedd hwn ac ymdriniwyd ag ef trwy i'r Cyngor gytuno i ddatrysiad gwirfoddol cynnar.
• Yn ystod 2018/19, derbyniodd OGCC 1 gŵyn côd ymddygiad yn erbyn Cynghorydd Sir ond cafodd ei chau ar ôl yr asesiad cychwynnol. Ni chafwyd unrhyw ymchwiliadau yn erbyn Cynghorwyr Sir.
• Er na chafwyd unrhyw gwynion ffurfiol yn ymwneud ag iaith yn ystod y flwyddyn, derbyniwyd a chofnodwyd 4 mynegiad o bryder yn ymwneud â'r materion a gofnodwyd yn yr adroddiad. Datryswyd pob un o'r 4 heb iddynt gael eu huwchgyfeirio i fod yn gwynion ffurfiol.
• Yn ystod 2018/19, derbyniwyd 1 pryder chwythu'r chwiban o dan Bolisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor ac fe'i nodir yn yr adroddiad.
Penderfynwyd –
• Derbyn bod yr adroddiad yn rhoi sicrwydd rhesymol bod y Cyngor yn cydymffurfio â'r prosesau sy'n ofynnol o dan ei Bolisi Pryderon a Chwynion a'i Bolisi / Canllawiau Chwythu'r Chwiban.
• Derbyn a nodi'r Tabl Gwersi a Ddysgwyd fel yn Atodiad 1 i'r adroddiad.
NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL.
Dogfennau ategol: