Eitem Rhaglen

Materion a Risgiau sy'n Parhau i fod Angen Sylw

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg ar statws a manylion y risgiau sy'n weddill y mae'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi'u hamlygu.Manylwyd ar y rhain yn Atodiad A i'r adroddiad ac roeddent hefyd yn cynnwys diweddariad ar gynnydd gan y Rheolwyr sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â'r problemau / risgiau a gofnodwyd.

 

Adroddodd y Prif Archwilydd fel a ganlyn

 

           Nad oes unrhyw Faterion / Risgiau Uchel neu Goch yn weddill, ac mae perfformiad wrth fynd i'r afael â materion / risgiau sydd â sgôr Ambr wedi gwella ers y diweddariad blaenorol ym mis Gorffennaf gyda'r ganran weithredu gyffredinol ar gyfer materion  / risgiau Uchel / Coch / Ambr yn 92%.

           Bu gwelliant bach hefyd mewn perfformiad ar gyfer y risgiau Canolig / Melyn gyda gostyngiad cyffredinol o 5 yn nifer y gweithredoedd sy'n weddill, a’r rheini wedi'u gwasgaru ar draws gwasanaethau.

           Ar 11 Awst, 2019, y gyfradd weithredu oedd 100% ar gyfer materion / risgiau Uchel / Coch; 83% ar gyfer materion  / risgiau Ambr; 97% ar gyfer problemau / risgiau Canolig; 80% ar gyfer risgiau / materion Melyn.

           Bod 2 adolygiad dilyn-i-fyny, sef ar Amrywiol Ddyledwyr a Chasglu Incwm Ysgolion eisoes wedi cychwyn ac mae'r ddau adolygiad hyn yn cyfrif am 6 allan o'r 9 o faterion / risgiau canolig sy'n weddill.

           Bod cadarnhad wedi ei dderbyn bod y camau gofynnol o dan eitem 9 yn Atodiad A - Cydymffurfiad PCI DSS mewn perthynas â'r Gwasanaeth Trawsnewid bellach wedi'u cwblhau.

           Bod gweithredu'r system tracio gweithredu corfforaethol ar ei newydd wedd yn rhoi cyfle i adolygu fframwaith adrodd y Gwasanaeth Archwilio Mewnol i sicrhau bod y wybodaeth a roddir i uwch reolwyr a'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn unol â'r dull archwilio newydd a'i bod yn ddefnyddiol, yn gryno, yn berthnasol ac yn amserol. Gan y bydd yn haws cyflunio paramedrau adrodd y system newydd o'r cychwyn cyntaf yn hytrach na gwneud newidiadau unwaith y bydd yn weithredol, ystyriwyd ei bod yn ddoeth ymgynghori â'r Pwyllgor ynghylch ei ofynion adrodd cyn yr uwchraddio fel y gellir cynnwys y rhain yn y system. Rhagwelir y gellir cyflunio’r system newydd i adrodd yn haws ar feysydd fel y rhestrir nhw ym mharagraff 14 yr adroddiadsef meysydd sydd angen ymyrraeth faniwal sylweddol ar hyn o bryd.

 

Er y byddai'n gymorth pe gellid ymgorffori'r holl elfennau ym mharagraff 14, nododd y

Pwyllgor wrth ystyried yr adroddiad a'r math o wybodaeth yr hoffai ei chael o

o dan y system dracio newydd, y byddai gwahanu’r risgiau coch ac ambr yn arbennig o

ddefnyddiol.

 

Penderfynwyd bod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn

 

           Nodi’r cynnydd a wnaed gan y Cyngor wrth fynd i'r afael â'r argymhellion a'r risgiau Archwilio Mewnol sy'n weddill, a

           Cefnogi cynnwys yr elfennau a nodir ym mharagraff 14 o'r adroddiad fel rhan o’r trefniadau adrodd i'r Pwyllgor yn y dyfodol o dan y system dracio ‘4action’ newydd.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: