Eitem Rhaglen

Diweddariad ar y Gofrestr Risg Corfforaethol

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg yn ymgorffori'r Gofrestr Risg Gorfforaethol ddiwygiedig.

 

Adroddodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA) wedi adolygu'r gofrestr risg gorfforaethol ym mis Mai, 2019 ac yn ystyried nad oedd nifer o’r risgiau'n berthnasol mwyach ac y gellid cyfuno rhai risgiau o gofio’r argymhellion a wnaed yn ystod Gwiriad Iechyd Rheolaeth a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Zurich Municipal bod y Gofrestr Risg Gorfforaethol yn cynnwys gormod o risgiau. Canlyniad net yr adolygiad gan yr  UDA oedd cau 19 o risgiau - roedd y rhain yn cynnwys risgiau lle gwnaed cynnydd sylweddol i liniaru'r risg, risgiau o natur debyg sydd wedi'u cyfuno, a risgiau nad ydynt bellach yn cael eu hystyried yn risg oherwydd bod amgylchiadau wedi newid. Mae manylion y risgiau unigol yr effeithir arnynt felly yn yr adroddiad. Mae'r UDA wedi nodi'r prif risgiau sy’n weddill (coch) i'r Cyngor, sef YM28, YM40 ac YM41. Yn ogystal, mae'r UDA wedi cytuno y bydd yn adolygu nifer fach o risgiau bob mis yn hytrach nag adolygu'r gofrestr risg gorfforaethol gyfan bob chwarter.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a chododd y materion a ganlyn -

 

           Holodd y Pwyllgor sut y byddai'r UDA yn penderfynu pa risgiau y byddai'n eu hadolygu bob mis.

 

Eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod risgiau wedi'u blaenoriaethu yn ôl eu sgôr risg gynhenid a gweddilliol gan roi blaenoriaeth i risgiau Cynhenid Coch / Gweddilliol Coch ac yna risgiau Coch Cynhenid / Ambr Gweddilliol; risgiau Coch Cynhenid / Melyn Gweddilliol   a risgiau Coch Cynhenid / Gwyrdd Gweddilliol. Er bod camau lliniaru yn allweddol o ran lleihau risgiau gweddilliol, ystyrir bod angen monitro risgiau cynhenid Coch yn rheolaidd.

 

           Holodd y Pwyllgor a yw'r Cyngor yn hapus i oddef 3 risg fawr sy'n parhau i fod yn Risgiau Coch fel rhai gweddilliol.

 

Eglurodd y Pennaeth Archwilio a Risg fod yna adegau pan fydd risg yn aros yn goch ac nad yw'n anarferol i gofrestr risg gynnwys risgiau coch gweddilliol a coch chynhenid. Mae hyn yn adlewyrchu archwaeth risg y Cyngor fel y nodir yn y matrics risg ond nid yw'n golygu nad yw'r risgiau'n cael eu rheoli.

 

           Trafododd y Pwyllgor y defnydd o'r term “trychinebusi ddisgrifio'r lefel uchaf o effaith pe bai risg yn cael ei gwireddu gan ofyn a oedd yn gorddweud yr effeithiau posib; holodd y Pwyllgor a fyddai'n synhwyrol canolbwyntio ar nodi mesurau i leihau unrhyw risgiau gweddilliol i lefel sy’n is na'r lefel drychinebus.

 

Esboniodd y Pennaeth Archwilio a Risg nad yw'r defnydd o'r term trychinebus yn anghyffredin; eglurodd, gyda'r holl risgiau, fod yr UDA wedi penderfynu bod faint o adnoddau y mae'n barod eu rhoi / gallu eu rhoi i reoli risgiau ar y lefel a adlewyrchir yn y matrics risg, sef y lefel y mae'n barod i'w goddef.

 

           Holodd y Pwyllgor pa bryd  yr oedd y Cyngor yn bwriadu cyflwyno mesurau i liniaru Brexit.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod gan y Cyngor Swyddog Brexit dynodedig ac y cynhelir cyfarfodydd rheolaidd ledled Gogledd Cymru i ystyried materion yn ymwneud â Brexit a sut mae’r rhain yn cael eu lliniaru ledled y rhanbarth yn awr ac i’r dyfodol. Mae'r Swyddog Brexit hefyd yn cynnal cofrestr risg Brexit ar wahân i lawr i lefel gwasanaethau unigol ac fe gyflwynir adroddiadau rheolaidd i Lywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn sicrhau bod y risgiau i nodau ac amcanion y Cyngor yn cael eu cydnabod a'u rheoli gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAM GWEITHREDU PELLACH.