Eitem Rhaglen

Cyflwyniad gan Gadeirydd y Cyngor i'r Aelodau sy'n Ymddeol

Cofnodion:

Talodd y Prif Weithredwr deyrnged i’r Cynghorwyr isod a oedd wedi datgan eu bwriad i ymddeol fel Cynghorwyr cyn etholiadau’r Cyngor ym mis Mai:-

 

Y Cynghorydd Cliff Everett

 

Etholwyd y Cynghorydd Cliff Everett yn Aelod Llafur dros Ward Tref Caergybi yn 1991 a bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r Prif Bwyllgor Sgriwtini ac yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith.

 

Y Cynghorydd Fflur M. Hughes

 

Etholwyd y Cynghorydd Fflur M.Hughes yn aelod Plaid Cymru member dros Ward Cefni ym mis Mai 1999 a bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Dysgu Gydol Oes a Diwylliant a’r Pwyllgor Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Y Cynghorydd W.I.Hughes

 

Etholwyd y Cynghorydd W.I.Hughes yn aelod Plaid Cymru dros Ward Bodffordd yn 1999.  Bu’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith fel yr Aelod Portffolio Tai.

 

Y Cynghorydd Eric Jones

 

Etholwyd y Cynghorydd Eric Jones yn aelod dros Ward Llanfihangel Ysgeifiog yn 2007 a bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol ac yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

 

Y Cynghorydd Tom Jones

 

Etholwyd y Cynghorydd Tom Jones yn aelod dros Ward Llanfechell yn 2004.  Bu’n aelod o’r Pwyllgor Gwaith fel yr Aelod Portffolio Cyllid.  Bu hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Penodiadau. 

 

Y Cynghorydd Clive McGregor (nid oedd yn gallu bod yn bresennol heddiw)

 

Etholwyd y Cynghorydd Clive McGregor fel Cynghorydd Sir ym mis Mai 2008 fel cynrychiolydd Ward Llanddyfnan,  Fe’i penodwyd yn Aelod Portffolio Priffyrdd, Trafnidiaeth a Materion Arforol ar ôl ymuno â’r Cyngor.  Ym mis Ebrill 2009, cafodd ei ethol yn Arweinydd y Grŵp Annibynwyr Gwreiddiol a bu’n Arweinydd y Cyngor rhwng Mai 2009 a Mai 2011.

 

Y Cynghorydd Rhian Medi

 

Etholwyd y Cynghorydd Rhian Medi yn aelod Plaid Cymru ar gyfer Ward Cyngar yn 2008. Bu’n Gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Addysg a Hamdden ac yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith ar adeg ei sefydlu yn 2000.

 

Y Cynghorydd J.V.Owen

 

Etholwyd y Cynghorydd J.V.Owen yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn yn 1976 ac fe’i etholwyd yn Faer y Cyngor Bwrdeistref rhwng 1985-86.  Cafodd ei ethol fel aelod ar gyfer Ward Parc a’r Mynydd, Caergybi yn 2008.  Ef yw Cadeirydd presennol y Pwyllgor Sgriwtini Datblygu Economaidd, Twristiaeth ac Eiddo.

 

Y Cynghorydd R.L.Owen

 

Etholwyd y Cynghorydd R.L.Owen yn aelod dros Ward Biwmares ym mis Mai.  Bu’n Gynghorydd ar Gyngor Tref Biwmares ers 1986 ac ef oedd Maer Biwmares rhwng 1996-97. Y Cynghorydd Owen oedd Cadeirydd y Cyngor Sir yn 2002-03, yn ystod ymweliad Ei Mawrhydi Y Frenhines â Biwmares fel rhan o ddathliadau’r Jiwbilî Aur.  Bu hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Sgriwtini yr Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol ac ef yw’r Is-gadeirydd cyfredol.

 

Y Cynghorydd G.O.Parry,MBE

 

Mae’r Cynghorydd G.O.Parry,MBE wedi bod yn aelod o Gyngor Cymuned Y Fali ers 1976.  Bu’n Gadeirydd Cymdeithas y Cynghorau Lleol, Gwynedd am bum mlynedd. Bu’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn ers 1982 ac yn aelod o’r Cyngor hwn ers 1996.

 

Bu’n Faer y Fwrdeistref yn ystod 1990-91 a bu’n ymwneud â Cyngor Ar Bopeth ers 1974 ac yn Gadeirydd CAB Gogledd Cymru ynghyd â CAB Caergybi. Ef oedd Arweinydd y Cyngor Sir rhwng 1999 a 2002 a’r Aelod Portffolio cyfredol ar gyfer Addysg.

 

Y Cynghorydd G.Winston Roberts,OBE(nid oedd yn gallu bod yn bresennol heddiw)

 

Cafodd y Cynghorydd G.Winston Roberts, OBE ei ethol gyntaf fel aelod o’r hen Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn yn 1976 a bu’n aelod o’r Awdurdod hyd adeg sefydlu’r Awdurdodau Unedol yn 1996. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n flaenllaw yn y Cyngor ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thwristiaeth, Pwyllgor Iechyd yr Amgylchedd a’r Pwyllgor Staff ac Adolygu Perfformiad.

 

Ym mis Mai 1995, fe’i etholwyd yn aelod o’r Cyngor hwn ac ef oedd Cadeirydd ac Arweinydd cyntaf y Cyngor.  Bu’n Faer Cyngor Tref Amlwch ar ddau achlysur.  Ef yw Cadeirydd cyfredol Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r holl aelodau  oedd yn ymddeol am eu cyfraniadau gwerthfawr a dymunodd yn dda iddynt am y dyfodol.

 

Ar ran y Cyngor, cyflwynodd y Cadeirydd i’r aelodau blaciau gwydr crisial ac arnynt logo’r Cyngor fel cofrodd o’u gwasanaeth i Lywodraeth Leol ac, yn ogystal, cyflwynodd dusw o flodau i wragedd/partneriaid yr aelodau a oedd yn bresennol heddiw.   

 

Talodd Arweinydd y Cyngor deyrnged i’r aelodau a oedd yn ymddeol a diolchodd iddynt am eu cefnogaeth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda’r broses adfer.

 

Rhoddwyd i’r Cynghorydd Keith Evans hefyd y cyfle i dalu ei deyrnged ei hun i’r aelodau a oedd yn ymddeol a dymunodd yn dda iddynt ar gyfer y dyfodol.