Eitem Rhaglen

Monitro Contractau Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar Drefniadau Monitro’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyniad i’r Pwyllgor a thynnodd sylw at rôl y Tîm Contractau, sy’n cynnwys 3 o Swyddogion ar hyn o bryd, sy’n gwneud gwaith er mwyn:-

 

·           Sicrhau bod contractau’n cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a statudol;

·           Gweithredu fframwaith cadarn ar gyfer monitro contractau, gan sicrhau fod perfformiad contractau’n cael ei fonitro yn erbyn y manylebau;

·           Sicrhau fod gwaith monitro ac adolygu systematig yn digwydd mewn perthynas â gwasanaethau cartrefi preswyl a nyrsio, gwasanaethau byw yn y gymuned, gwasanaethau gofal cartref a gwasanaethau dydd ar Ynys Môn a darparwyr tu allan i’r sir.

 

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol at weithdrefnau monitro’r Tîm Contractau fel a ganlyn:-

 

Gofal Cartref – Ymweliadau safle blynyddol lle rhoddwyd rhybudd (edrych ar ffeiliau Defnyddwyr Gwasanaeth a ffeiliau staff, polisïau, llyfr damweiniau a digwyddiadau, cofnod o gwynion a ffurflenni MAR);

 

Gofal Preswyl/Nyrsio – Ymweliad safle ar y cyd gyda BIPBC lle rhoddwyd (edrych ar ffeiliau Defnyddwyr Gwasanaeth a ffeiliau staff, polisïau, llyfr damweiniau a digwyddiadau, cofnod o gwynion a ffurflenni MAR). Rhyngweithio gyda phreswylwyr ac arsylwi arferion yn y cartref;

 

Maethu – Consortiwm Comisiynu Cymru, sydd â thîm monitro yn gweithio fel rhan o’r consortiwm hwn;

 

Gofal Preswyl plant – gwaith monitro yn y swyddfa, Consortiwm Comisiynu Cymru.

 

Byw â Chymorth – Ymweliad safle blynyddol lle rhoddwyd rhybudd – edrych ar ffeiliau Defnyddwyr Gwasanaeth a ffeiliau staff, polisïau, llyfr damweiniau a digwyddiadau, cofnod o gwynion a ffurflenni MAR;

 

Gwasanaethau Dydd – ar hyn o bryd, ymweliad safle llawn ac archwiliad o’r holl bolisïau ac asesiadau risg perthnasol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gwelliannau sylweddol wedi cael eu gwneud mewn Cartrefi Gofal Preswyl mewn perthynas â chyflawni a darparu tystiolaeth o’r 9 amcan penodol yn y fframwaith monitro. Mewn perthynas â Gofal Cartref, mae model contract yn galluogi darparwyr i reoli eu costau’n well drwy wneud arbedion, gan ddarparu gwasanaeth mwy lleol a gwella lefelau recriwtio a chadw staff.

Maethu Plant/Lleoliadau Preswyl - proses fyw ar gyfer atgyfeiriadau lleoliadau a thendro, gan ddefnyddio CCSR i lunio rhestr fer o ddarparwyr sy’n berthnasol i anghenion y plentyn. Mae darparwyr yn amlygu'r hyn y gallent ei gynnig bob tro y bydd plentyn angen lleoliad.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-

 

·           Gofynnwyd a yw cartrefi gofal yr Awdurdod Lleol yn cael eu monitro yn yr un ffordd â chartrefi gofal preifat. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol bod union yr un trefniadau monitro yn bodoli ar gyfer cartrefi gofal yr Awdurdod hefyd;

·           Gofynnwyd a oes digon o staff i fonitro’r gwasanaeth i’r safonau gorau posib. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Tîm Contractau wedi cynyddu i 3 yn ystod y flwyddyn a’i fod yn ystyried fod y tîm yn monitro’r gwasanaethau i lefel dderbyniol. Cyfeiriodd at fonitro risgiau a nododd y bydd y gwasanaeth yn ystyried a oes angen cynnal ymweliadau mor aml os yw’r Awdurdod Lleol yn hyderus bod y darparwyr gwasanaeth yn perfformio i lefel uchel. Fodd bynnag, os oes pryderon, gall y Tîm Contractau gynnal ymweliadau yn fwy cyson. Os yw trigolion o Ynys Môn yn cael ei lleoli mewn cartrefi gofal tu allan i’r sir, yr awdurdod lleol yn yr ardal honno fydd yn gwneud y gwaith monitro;

·           Gofynnwyd beth yw’r trefniadau os oes gan deuluoedd bryderon am y gwasanaeth a ddarperir gan gartrefi gofal. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol y dylid codi’r pryder gyda’r cartref gofal yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, os yw’r pryderon yn parhau, dylai’r achwynydd gysylltu â’r Awdurdod Lleol ac AGC. Bydd yr Awdurdod Lleol yn cysylltu â’r darparwr i gael mwy o wybodaeth am bryderon yr achwynydd ac os yw’r mater yn ymwneud â diogelu, rhoddir ystyriaeth i dystiolaeth o esgeuluso ac a oes angen cyfeirio’r mater at yr Heddlu;

·           Gofynnwyd a yw’r Tîm Contractau’n gofyn am farn y cleientiaid mewn cartrefi gofal pan gynhelir ymweliadau. Dywedodd y Rheolwr Contractau eu bod yn cynnal trafodaethau gyda chleientiaid ond weithiau nid yw iechyd rhai ohonynt yn dda neu nid ydynt o reidrwydd yn deall y cwestiynau a ofynnir iddynt mewn perthynas â'r gofal a ddarperir. Gofynnir i deuluoedd gwblhau holiadur i gasglu eu barn a’u profiad am y gwasanaeth a ddarperir mewn cartrefi gofal;

·           Gofynnwyd a yw’r Tîm Contractau’n monitro’r cyfleusterau yn Hafan Cefni a Penucheldre. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y ddarpariaeth Cartref Gofal yn cael ei monitro yn y ddau leoliad. Nododd fod yr asiantaeth dai, Pennaf, yn gyfrifol am safonau’r llety a ddarperir;

·           Gofynnwyd pam nad yw Canolfannau Gofal Dydd yn cael eu monitro gan AGC. Dywedodd y Rheolwr Contractau nad yw’r Canolfannau Gofal Dydd yn sefydliadau cofrestredig ar hyn o bryd ac o ganlyniad nid ydynt yn cael eu harchwilio, ond mae Canolfannau Gofal Dydd yn cael eu hadolygu gan Adran Gontractau’r Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir o safon uchel;

·           Nodwyd bod rhai rhannau o’r tabl canlyniad perfformiad yn goch mewn perthynas â rhai o’r gwasanaethau a ddarperir. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod hyn yn dangos nad oedd rhai o’r cartrefi gofal yn darparu gofal o’r safon ddisgwyliedig ar yr adeg benodol honno yn 2015 ond, oherwydd y trefniadau monitro a roddwyd mewn lle, nid yw’r cartrefi gofal hyn yn y categori coch bellach. Nododd y Rheolwr Contractau bod cynllun gwella yn cael ei roi mewn lle os nad oedd cartref gofal yn cyrraedd y safonau disgwyliedig. Gofynnodd un o’r Aelodau a yw’r Tîm Contractau’n cynnal ymweliadau gyda’r nos ac ar benwythnosau. Dywedodd y Rheolwr Contractau bod aelod o’r tîm wedi bod yn ymweld, yn ddirybudd, yn ystod amser cinio i fonitro a yw cleifion yn cael cymorth i fwyta a bod ymweliadau wedi cael eu cynnal gyda’r nos ac ar benwythnosau hefyd lle’r ystyriwyd bod hynny’n angenrheidiol;

·           Nodwyd ei bod yn ymddangos fod lefel uchel o drosiant staff yn y cartrefi gofal a bod hynny’n gallu arwain at lefelau is na’r disgwyl o hyfforddiant ac arfer dda yn y cartrefi. Dywedodd y Swyddog Contractau fod trosiant staff yn uchel mewn rhai cartrefi gofal gyda staff yn symud o un cartref gofal i’r llall. Gall hyfforddiant fod yn broblem yn yr achosion hynny. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol bod rhaid i’r Sector Gofal ddenu mwy o bobl ac, yn ei farn o, bod angen strwythur cyflogau cyffredin ar draws y sector gofal.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a bod Adroddiad Blynyddol ar Drefniadau Monitro’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

 

Dogfennau ategol: