Eitem Rhaglen

Diogelu Corfforaethol

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

 Cyflwynwyd – adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi trosolwg o waith y Bwrdd Diogelu Corfforaethol a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymdrin â materion Diogelu yn ddyddiol yn ymwneud ag atgyfeiriadau ynghylch unigolion a all fod mewn perygl. Fodd bynnag, mae Diogelu yn gyfrifoldeb i bob un o Wasanaethau’r Cyngor ac mae pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant ac yn ymwybodol o’u rôl mewn perthynas â diogelu.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Diogelu a Gwella Ansawdd gyflwyniad i’r Pwyllgor a dywedodd y dylai pob sefydliad sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, ac oedolion ymrwymo i’w diogelu a gwella eu lles. Mae dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei swyddogaethau mewn modd sy’n diogelu ac yn hyrwyddo lles plant ac oedolion a all fod mewn perygl. Nododd fod y Polisi Diogelu Corfforaethol yn darparu canllawiau clir ynglŷn â’r disgwyliadau i bob swyddog. Mae bob Pennaeth Gwasanaeth yn gyfrifol am y trefniadau diogelu o fewn eu gwasanaeth. Sefydlwyd Bwrdd Diogelu Corfforaethol Strategol gan y Cyngor i ddarparu sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd trefniadau diogelu’r Cyngor. Sefydlwyd Bwrdd Diogelu Corfforaethol Gweithredol hefyd ac mae aelodau’r bwrdd yn cynnwys pencampwyr diogelu o bob un o wasanaethau’r Cyngor. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth - Diogelu a Gwella Ansawdd fod rhaid i bob Pennaeth Gwasanaeth gynnwys eu blaenoriaethau diogelu yng Nghynllun Busnes Blynyddol eu gwasanaeth a’u bod wedyn yn cael eu monitro yn unol â gweithdrefnau monitro’r Cyngor. Dywedodd ei bod yn credu bod y mater hwn yn datblygu i orgyffwrdd yn naturiol â’r agenda diogelu cymunedol h.y. Prevent a Chaethwasiaeth Fodern. Delio gydag achosion ble’r ystyrir bod unigolion mewn perygl a materion diogelu corfforaethol.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth - Diogelu a Gwella Ansawdd fod gan yr Awdurdod Gynllun Gweithredu Diogelu Corfforaethol (Atodiad 1 yn yr adroddiad) sy’n canolbwyntio’n bennaf ar weithredoedd trawsbynciol ar draws yr Awdurdod cyfan, yn hytrach nag ar faterion sy’n berthnasol i un gwasanaeth yn unig. Dywedodd fod cyfrifoldeb corfforaethol am y maes hwn yn cryfhau o fewn y Cyngor a bod sefydlu’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol Strategol wedi cynyddu’r proffil ar draws yr Awdurdod cyfan. Mae adroddiad archwilio mewnol diweddar wedi amlygu risg mewn perthynas â llywodraethiant gan nad yw cyfarfodydd y Bwrdd Diogelu Corfforaethol Strategol yn cael eu cofnodi felly nid oes gan y Bwrdd dystiolaeth o’i drafodaethau/penderfyniadau. Nodwyd fod y mater hwn yn cael sylw ac y bydd cyfarfodydd y Bwrdd yn cael eu cofnodi. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth ei bod yn ystyried bod risg i enw da’r Cyngor petai unigolion yn cael eu niweidio o ganlyniad i gamgymeriad diogelu. Cyfeiriodd at enghreifftiau o sefydliad lle’r oedd materion yn ymwneud â diogelwch y gweithlu wedi arwain at niweidio enw da. Roedd yr Adroddiad Archwilio hefyd wedi amlygu’r angen i gryfhau rôl y Bwrdd Strategol i sicrhau bod y gwasanaethau mewnol yn gweithredu’r fframwaith a’r polisïau a roddwyd mewn lle gan yr Awdurdod. Nododd fod Diogelu Corfforaethol wedi ei gynnwys yn yr Hunan Asesiadau newydd eleni er mwyn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol Strategol bod y gwasanaethau unigol o fewn y Cyngor yn ymgymryd â’u cyfrifoldebau. Cadarnhawyd y bydd y Bwrdd Diogelu Corfforaethol Strategol yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd er mwyn sicrhau fod ganddo drosolwg o’r agenda ddiogelu ehangach, ac i gryfhau’r trefniadau ar gyfer herio a dal gwasanaethau i gyfrif.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chodwyd y materion a ganlyn:-

 

·      Gofynnwyd sut mae’r Awdurdod yn ymgysylltu â’r cyhoedd mewn perthynas ag adrodd am ddigwyddiadau’n ymwneud â Chaethwasiaeth Fodern. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth - Diogelu a Gwella Ansawdd at y sianelau arferol a  ddefnyddir gan yr Awdurdod i roi cyhoeddusrwydd i’r mater a sut i roi gwybod am bryderon am unigolion a all fod mewn perygl. Nododd bod Bwrdd Partneriaeth Caethwasiaeth Fodern Gogledd Cymru wedi’i sefydlu a’r Dirprwy Brif Weithredwr yw cynrychiolydd yr Awdurdod hwn. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Bwrdd Partneriaeth yn trefnu cynadleddau sy’n delio gyda nifer o bynciau mewn perthynas â chodi ymwybyddiaeth am gaethwasiaeth fodern; mae Heddlu Gogledd Cymru yn arwain ar godi ymwybyddiaeth am gaethwasiaeth fodern drwy ddarparu posteri ac apiau symudol i ganiatáu i bobl gysylltu â’r sefydliadau perthnasol. Nododd bod y Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned wedi trafod caethwasiaeth fodern yn ei gyfarfod yn ddiweddar;

·      Nodwyd bod cynllun Gweithredu 2018/19 - 2019/20 yn dangos nad yw’r cais am enwebiadau i’r grŵp tasg i ddatblygu adran ddiogelu ar y mewnrwyd wedi cael ei gwblhau. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth fod rhaid i’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol Gweithredol herio ei hun i sicrhau bod unigolion cyfrifol yn yr Awdurdod yn enwebu staff i gyflawni’r cam gweithredu hwn sydd yn flaenoriaeth, a nododd y byddai hynny’n digwydd.

·      Nodwyd ei bod yn bwysig bod gwasanaethau yn mapio cydymffurfiaeth eu staff gyda gofynion hyfforddiant diogelu gorfodol. Bydd hyn yn cefnogi dull cydlynol o sicrhau fod unigolion yn derbyn yr hyfforddiant perthnasol i gyflawni eu rôl. Bydd rhaid i reolwyr o fewn yr Awdurdod sicrhau fod yr holl staff yn cydymffurfio â’r gofynion a’u bod yn ymwybodol o faterion diogelu. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Diogelu a Gwella Ansawdd nad oes gan rai aelodau o staff gyfeiriadau e-bost ac nad oes modd iddynt gael mynediad at unrhyw gwrs e-ddysgu. Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr hyfforddiant gorfodol yn cael ei ddarparu iddynt drwy ddulliau eraill.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Nodi’r trefniadau sydd mewn lle, yn ogystal â’r meysydd y mae’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol Strategol yn eu gyrru i sicrhau fod y dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni;

·      Bod Adroddiad Blynyddol ar Drefniadau Diogelu Corfforaethol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.  

 

 

 

Dogfennau ategol: