Eitem Rhaglen

Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion : Adroddiad Cynnydd

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad diweddaru ar gynnydd gwaith y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion.

 

Dywedodd y Cadeirydd, sydd hefyd yn Gadeirydd y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion, fod y Panel wedi cyfarfod ar dri achlysur rhwng mis Mai a Gorffennaf 2019. Derbyniodd y Panel adborth llafar ac argraffiadau’r Aelodau yn dilyn y cyntaf o’r gweithgareddau cysgodi GwE. Roedd yr argraffiadau cychwynnol hyn wedi caniatáu i’r Panel fireinio trefniadau gyda GwE ar gyfer y cyfnod nesaf, gan gynnwys cyflwyno profforma adborth i’r Aelodau ei gwblhau ar ddiwedd pob ymweliad cysgodi. Bydd y broses hon yn cryfhau ymhellach y trefniadau llywodraethiant sy’n sylfaen i’r ffrwd waith hon, gan ddarparu tystiolaeth ar y cyd o argraffiadau a myfyrdodau Aelodau, yn ogystal â gweithredu fel mecanwaith i uwchgyfeirio negeseuon allweddol i’r Panel roi ystyriaeth bellach iddynt. Dywedodd y Cadeirydd fod y Panel wedi cael cyfle i weld gwaith disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen ym mis Mehefin 2019 a’u bod wedi craffu ar effaith y prosiect cydweithio ar safonau. Nodwyd y bydd y Panel yn ailgydio yn ei raglen o herio perfformiad ysgolion gan adeiladu ar ei waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd y Cadeirydd bod angen ystyried cylch gorchwyl y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â blaenoriaethau corfforaethol. Cynhaliwyd cyfarfod yn ddiweddar rhwng Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Panel, y Rheolwr Sgriwtini a’r Dirprwy Brif Weithredwr a chytunwyd i gynnal gweithdy ar gyfer Aelodau Etholedig ar 27 Medi, 2019.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y Pwyllgor hwn wedi gofyn am adroddiad ar gynnydd y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion hyd yma o ran cyflawni ei raglen waith bresennol, sy’n cynnwys herio perfformiad ysgolion unigol yn gadarn; meysydd gwaith a gwblhawyd hyd yma mewn perthynas â’r trefniadau newydd i gysgodi GwE a gyflwynwyd yn ddiweddar; canlyniad yr hunan arfarniad diweddar i fesur effaith gwaith y Panel a’r gwerth ychwanegol a’r angen i adolygu cylch gorchwyl y Panel i sicrhau ei fod yn parhau i gyd-fynd â blaenoriaethau corfforaethol. Dywedodd fod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Panel wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Estyn ym mis Mehefin a bod canlyniad y cyfarfod hwnnw wedi’i gynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chodwyd y materion canlynol:-

 

·                     Nodwyd bod yr holl Aelodau Etholedig yn Llywodraethwyr mewn ysgolion ar yr Ynys ac y byddai’n fuddiol iddynt fod yn ymwybodol o waith y Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion â’r rôl y dylent ei chyflawni o ran gwella a herio safonau mewn ysgolion. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y meysydd datblygu wedi cael eu nodi gan y Panel fel rhan o’r hunan arfarniad a’u bod yn cael eu crynhoi o dan y 7 thema allweddol yn adran 3.5 yr adroddiad. Nododd fod angen i Lywodraethwyr fod yn ymwybodol o’r Cwricwlwm Newydd i Gymru ac i herio rolau arweinyddiaeth ysgolion;

·                     Nodwyd fod Estyn wedi dweud fod angen rhoi mwy o sylw i gefnogi’r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG). Mynegwyd pryder bod cefnogaeth yr Ymgynghorydd Her GwE wedi cael ei dynnu’n ôl. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y bydd aelod o staff o’r Adran Addysg yn cael ei ddynodi i gefnogi gwaith y CYSAG maes o law.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Bod y Panel yn parhau i herio perfformiad ysgolion unigol yn gadarn;

·           Bod y Panel yn cynnwys monitro’r ffrydiau gwaith canlynol yn ei flaen raglen waith:-

 

·           Gweithredu cynllun gwella’r Gwasanaeth Dysgu;

·           Darpariaeth Blynyddoedd nas Cynhelir (blynyddoedd cynnar)

 

·        Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwaith Monitro’r Panel.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: