Eitem Rhaglen

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2019/20

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar y sefyllfa a’r gweithgareddau rheoli trysorlys hanner ffordd trwy flwyddyn ariannol 2019-20.

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y canlynol -

 

           Nad oes unrhyw newidiadau polisi i'r Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 27 Chwefror, 2019. Mae'r adroddiad yn diweddaru'r sefyllfa yng ngoleuni'r sefyllfa economaidd ddiweddaraf a'r newidiadau cyllidebol a gymeradwywyd eisoes.

           O ran ei bortffolio buddsoddi, ‘roedd gan y Cyngor £18.551m o fuddsoddiadau ar 30 Medi, 2019 (£14.333m ym mis Mawrth, 2019) a’r elw o’r portffolio buddsoddi am chwe mis cyntaf y flwyddyn oedd 0.62%. ‘Roedd Atodiad 3 yn cynnwys rhestr lawn o’r  buddsoddiadau fel yr oeddent ar 30 Medi, 2019 ac roedd crynodeb o'r buddsoddiadau a'r cyfraddau i’w weld yn Atodiad 4. Nid aethpwyd dros y terfynau a gymeradwywyd yn y Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol yn ystod chwe mis cyntaf 2019/20.

           Yr incwm y mae’r Cyngor wedi cyllidebu y bydd yn ei dderbyn o’i fuddsoddiadau ar gyfer y cyfan o 2019/20 yw £0.031m ac mae’r perfformiad am y flwyddyn hyd yma’n uwch na’r

gyllideb, gyda £0.041m wedi’i dderbyn ar ddiwedd Chwarter 2 oherwydd buddsoddi arian dros ben gydag awdurdodau lleol eraill sydd wedi creu enillion gwell na phe bai’r arian mewn cyfrif galw gyda banc. Mae'r tabl yn 5.7 yn dangos rhestr o fuddsoddiadau a wnaed gydag awdurdodau lleol eraill yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20. O ystyried mai diogelwch yr arian yw dangosydd allweddol y Cyngor hwn, ystyrir mai awdurdodau lleol eraill yw’r ffordd fwyaf diogel o fuddsoddi arian y Cyngor hwn a gwneud hynny’n cynhyrchu mwy o enillion na'r mwyafrif o gyfrifon galw gyda banc.

           O ran benthyca, mae'r Cyngor wedi rhagweld y bydd wedi cael benthyg £127.6m erbyn diwedd y flwyddyn ac y bydd wedi defnyddio £12.6m o gronfeydd llif arian yn lle benthyca. Mae hwn yn ddull darbodus a chost-effeithiol o weithredu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ond parheir i’w fonitro. Ni chymerwyd benthyg unrhyw arian yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hon ac ni ragwelir y bydd angen benthyciadau  allanol ychwanegol yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol. Bydd gofyn benthyg arian i gyllido rhan o raglen gyfalaf 2019/20, ond benthyca mewnol fydd hynny.

           Ar 9 Hydref, 2019, cyhoeddodd y Trysorlys a’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) gynnydd o 100 pwynt sylfaen neu 1% yn y gyfradd fenthyca. Ni chafwyd rhybudd ymlaen llaw gan olygu bod yn rhaid i bob awdurdod lleol ailasesu'n sylfaenol sut i ariannu eu hanghenion benthyca allanol ac ymarferoldeb ariannol y prosiectau cyfalaf sydd ganddynt yn eu rhaglenni cyfalaf oherwydd y cynnydd annisgwyl yn y gost o fenthyca. Er bod yr Awdurdod hwn wedi dibynnu’n flaenorol ar y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus fel ei brif ffynhonnell ariannu, mae'n rhaid iddo nawr ystyried ffynonellau benthyca amgen rhatach.

           Bod cyfleoedd i aildrefnu dyledion wedi bod yn gyfyngedig iawn yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ac nid oes yr un ddyled wedi ei haildrefnu hyd yma yn y flwyddyn ariannol hon.

           Bod adran 7 yr adroddiad yn nodi’r cynnydd o ran sefyllfa gyfalaf y Cyngor ac yn cadarnhau nad yw'r Cyngor wedi torri unrhyw un o'i ddangosyddion darbodus yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol. Mae rhai newidiadau yn y ffordd o ariannu'r rhaglen gyfalaf oherwydd tanwariant sylweddol ar dri chynllun cyfalaf yn 2019/20 (cyfeirier at baragraff 7.2.1). Mae'r Cyngor hefyd ychydig yn is na'r Gofyniad Cyllido Cyfalaf a ragwelwyd yn wreiddiol (angen y Cyngor i fenthyca) o ganlyniad i fenthyca llai na’r disgwyl, a hynny’n bennaf i’w briodoli i Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Mewn perthynas â gweithgareddau buddsoddi'r Cyngor, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) at erthygl yn y newyddion ynghylch y swm o £5m yr oedd yr Awdurdod wedi'i fuddsoddi gyda Chyngor Bwrdeistref Cheltenham (sef un o nifer o awdurdodau a oedd wedi buddsoddi arian gyda Chyngor Cheltenham yn yr un modd); ‘roedd yr erthygl wedi ei lunio mewn ffordd a oedd yn rhoi’r argraff bod y buddsoddiad yn amhriodol a bod yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn parc busnes sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Bwrdeistref Cheltenham. Ar sail yr erthygl roedd y cyhoedd wedi dod i gasgliadau camarweiniol a beirniadol ynghylch sut mae'r Cyngor yn defnyddio ac yn rheoli arian cyhoeddus fel y tystiwyd mewn e-byst gan drethdalwyr Ynys Môn at Arweinydd y Cyngor a’r Swyddog Adran 151 ac y darllenwyd rhannau ohonynt allan yn y cyfarfod gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 nad oedd y Cyngor wedi buddsoddi unrhyw arian cyhoeddus yn y datblygiad yn Cheltenham ac eglurodd fod benthyca rhwng awdurdodau yn arfer safonol a bod manteision i roi benthyg arian yn y fath fodd, sef bod awdurdodau yn ffynonellau buddsoddi diogel, bod yr enillion yn well na phe bai’r arian wedi ei fuddsoddi gyda banc ac mae'n rhatach i'r awdurdod sy’n cael benthyg yr arian hefyd. (Cyngor Bwrdeistref Cheltenham yn yr achos hwn). Roedd y buddsoddiad a wnaed gan Gyngor Ynys Môn gyda Chyngor Bwrdeistref Cheltenham yn fenthyciad tymor byr am gyfnod o 65 diwrnod ac fe gynhyrchodd elw o £5,800 pan dalwyd yn yr arian yn ôl o’i gymharu ag elw o £3,500 a fyddai wedi ei gynhyrchu pe bai’r swm wedi ei fuddsoddi gydag un o fanciau’r Cyngor ar 0.4%.

 

Cytunodd y Pwyllgor ei fod yn bwysig sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei rhannu fel y gall y cyhoedd fod yn glir ynghylch penderfyniadau buddsoddi'r Cyngor a pham mae'n eu gwneud, gan roi sicrwydd felly ynghylch y ffordd y mae'n rheoli arian cyhoeddus.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2019/20 heb wneud sylw pellach.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: