11.1 - 36C323 - Awel Haf, Llangristiolus
11.2 - 48C182 - Bryn Twrog, Gwalchmai
Cofnodion:
11.1 36C323 – Cais amlinellol i godi annedd ynghyd âg adeiladu mynedfa i gerbydau ar dir ger Awel Haf, Llangristiolus
Daethpwyd a’r cais hwn gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i Aelod Lleol. Roedd y cais wedi cael ei sgriwtineiddio gan y Swyddog Monitro fel sydd yn ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.
Rhoddodd y Cadeirydd wahoddiad i Mr Rob Hughes ddod ymlaen i siarad gerbron y Pwyllgor o blaid y cais.
Nododd Mr Hughes y pwyntiau canlynol –
Dygodd y Cadeirydd sylw at gywiriad ar dudalen 23 yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog lle dylai’r argymhelliad yn y fersiwn Saesneg ddarllen “Refuse” ac nid “Permit”.
Rhoes y Rheolwr Datblygu Cynllunio diweddariad i’r Pwyllgor ar y sylwadau a dderbyniwyd ers cyhoeddi’r rhaglen sef dau lythyr yn gwrthwynebu’r cais oherwydd problemau draenio; cerbydau yn mynd a dod o’r datblygiad a’r posibilrwydd y gallai caniatâd cynllunio arwain at ddatblygu’r safle ymhellach. O ran yr ystyriaethau cynllunio perthnasol, roedd y Swyddog o’r farn y byddai datblygiad preswyl ar y safle yn cyfateb i ddatblygu’r cefn gwlad y tu hwnt i’r ffin resymegol. Mae Polisi 50 Cynllun Lleol Ynys Môn yn caniatáu ar gyfer ceisiadau un plot ar yr amod nad ydynt yn cael effaith andwyol ar y dirwedd. Ymhellach, mae safle’r cais y tu allan i ffin ddatblygu Llangristiolus fel y’i diffinnir ym Mholisi HP4 Y Cynllun Datblygu Unedol a Stopiwyd. Ym marn y Swyddog, mae’r gwrychyn yn ffin glir a phendant i’r pentref a byddai ymestyn y tu hwnt i’r ffin honno yn creu ymwthiad annymunol i’r cefn gwlad. Yn groes i’r hyn a ddywedwyd gan yr ymgeisydd a’i gefnogwr, gall yr Awdurdod Cynllunio ystyried a yw’r datblygiad yn gosod cynsail ai peidio i’r graddau y byddai’n creu amgylchiadau a fyddai’n ei gwneud yn anodd i wrthod datblygiadau pellach yn y cae.
Dywedodd y Cynghorydd W.J.Chorlton ei fod yn ei chael yn anodd penderfynu ar y cais hwn oherwydd, iddo ef, ymddangosai’r plot a’r cais yn rhesymol. Dygodd sylw at y ffaith fod pwysau ar y Cyngor hefyd i gadw’r cefn gwlad a’r cymunedau gwledig yn hyfyw ac os byddai ceisiadau megis y cais hwn yn cael eu gwrthod lle fedrai pobl fynd? Yn ei farn ef, roedd y groesffordd yn ffin fwy rhesymegol na’r gwrychyn. Roedd y Cynghorydd E.G. Davies o’r un farn a’r Cynghorydd Chorlton ac roedd yntau hefyd yn ansicr ynghylch pa benderfyniad i’w wneud ar y cais? Gofynnodd y Cynghorydd R.LOwen a fyddai modd efallai goresgyn y broblem o’r posibilrwydd o ddatblygiad rhubanaidd drwy fynnu ar amod yn dweud na chaniateir unrhyw ddatblygiad pellach ar y safle. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio drwy ddweud bod rhaid delio gyda’r cais ar ei rinweddau ei hun ac nad oedd rhoddi amod yn y modd a awgrymwyd yn goresgyn y materion polisi sy’n codi yn yr achos hwn.
Roedd y Cynghorydd Kenneth Hughes o’r un farn a’r Swyddog ac yn derbyn bod y gwrychyn yn ffin bendant ac yn teimlo y gallai codi un annedd greu problemau o ran datblygiad rhubanaidd. O’r herwydd, cynigiodd y dylid gwrthod y cais ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jim Evans.
Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
11.2 48C182 – Cais amlinellol ar gyfer codi annedd fforddiadwy, creu mynedfa i gerbydau ynghyd â gosod system trin carthion ar dir ger Bryn Twrog, Gwalchmai
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor wneud penderfyniad arno oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i swyddog perthnasol. Cafodd y ffeil ei harchwilio gan y Swyddog Monitro.
Wrth annerch y Pwyllgor yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Lleol, dygodd y Cynghorydd R.G.Parry, OBE sylw’r Aelodau at y map o’r safle a’r llun er mwyn dwyn sylw at y ffaith bod yna dai ar hyd y lon o’r cloc i Walchmai ac y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer byngalo ynghyd â chais i addasu adeilad ar ddiwedd y ffordd yn annedd. Merch ifanc o Walchmai yw’r ymgeisydd yn yr achos hwn sydd newydd orffen ei chwrs yn y coleg ac sy’n chwilio am dŷ fforddiadwy yn ei hardal leol. Gofynnodd i’r Aelodau ystyried bod angen helpu pobl ifanc i aros yn eu cymunedau er mwyn cadw’r cymunedau hynny yn fyw a phwysleisiodd bod diffyg tai fforddiadwy yng Ngwalchmai a’r ardal o gwmpas y pentref. Mae’r cais hwn yn gyfle i ferch ifanc leol aros yn ei chymuned.
Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod yr Awdurdod Priffyrdd yn fodlon gyda’r cais ond gydag amodau; mae’r Adain Ddraenio hefyd wedi dweud bod y cais yn dderbyniol a chafwyd ymateb gan yr Adran Dai yn dweud bod amgylchiadau personol yr ymgeisydd yn golygu ei bod angen tŷ. Yn ogystal, dygodd y Swyddog sylw’r Aelodau at y ffaith mai 10 Ebrill ac nid 5 Ebrill yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau ar y cais. O ran yr ystyriaethau cynllunio, cyfeiriodd y Swyddog yr Aelodau at dudalen 28 yr adroddiad ysgrifenedig sy’n nodi’r pwyntiau perthnasol. Cadarnhaodd bod polisïau cynllunio ar gael sy’n caniatáu rhyddhau tir ychwanegol i bwrpas tai fforddiadwy yn ychwanegol at y tir sydd ar gael i gwrdd â galw cyffredinol am dai mewn amgylchiadau lle nad oes modd i bobl leol gystadlu ar y farchnad agored ac nad oes modd cwrdd â’u hangen am dŷ fforddiadwy mewn modd arall. Fodd bynnag, rhaid i geisiadau o’r fath fod yn berthnasol i safleoedd priodol yn y pentrefi cyfredol neu yn yr ardal sydd union o’u cwmpas. Yn adroddiad y Swyddog, dywedir yn glir nad yw safle’r cais fel y cynigir ef o fewn nac yn union yn ymyl ffin ddatblygu Gwalchmai ac, yn hytrach, mae wedi ei leoli yn y cefn gwlad lle mae polisïau llym yn berthnasol a rhaid bod cyfiawnhad dros godi tai newydd. Nid yw gwneud eithriad ar gyfer y rheini sydd angen tŷ yn berthnasol o dan bolisïau o’r fath. Ni chafwyd unrhyw fanylion am yr annedd ei hun ac nid ofynnwyd am y manylion chwaith oherwydd bod y cais yn syrthio wrth y rhwystr cyntaf oherwydd nad yw’n cydymffurfio gyda pholisïau perthnasol. I gloi felly, nid yw safle’r cais yn cwrdd â gofynion polisi ac mae’r argymhelliad yn un o wrthod.
Roedd mwyafrif y Pwyllgor o’r farn bod y cais yn un rhesymol a haeddiannol. Dygodd yr Aelodau sylw at y ffaith fod gan y Cyngor gyfrifoldeb i gynnal a hyrwyddo cymunedau lleol a bod cefnogi a chynorthwyo pobl ifanc yn eu hymdrechion i aros ar yr Ynys yn eu cymunedau eu hunain yn rhan o’r cyfrifoldeb hwnnw. Gan gadw mewn cof y diffyg tai fforddiadwy yng Ngwalchmai a phresenoldeb tai eraill ar y lôn at ac o fewn ardal safle’r cais, y teimlad cryfaf oedd y dylid caniatáu’r cais. Cynigiodd y Cynghorydd Eric Roberts y dylid cymeradwyo’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac fe eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Richard Dew.
Roedd y Cynghorydd Jim Evans o’r un farn a’r Swyddog ar y mater a chynigiodd wrthod y cais. Eiliodd y Cynghorydd J.Arwel Roberts y cynnig.
Atgoffodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y Pwyllgor bod y cais yn tynnu’n groes i bolisïau tai’r Cyngor.
Pleidleisiodd y Cynghorwyr Jim Evans a J.Arwel Roberts i wrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.
Pleidleisiodd y Cynghorwyr Richard Dew, Kenneth Hughes, R.LOwen, E.G.Davies, Vaughan Hughes a Eric Roberts i gymeradwyo’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog.
Ymatalodd y Cynghorydd W.J.Chorlton rhag pleidleisio.
Y rheswm a roddwyd am gymeradwyo’r cais oedd ei fod yn gyfle i berson ifanc sy’n dymuno aros yn ei chymuned i gael tŷ fforddiadwy.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais a hynny’n groes i argymhelliad y Swyddog. Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, bydd y cais yn awtomatig yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf fel y gall swyddogion baratoi adroddiad ar y rhesymau dros gymeradwyo’r cais.
Dogfennau ategol: