Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 - 12C266H - ABC Power Marine, Penrhyn Safnas, Biwmares

12.2 - 40C48E/EIA - Gorsaf Bad Achub, Moelfre

12.3 - Cyfleusterau Cyhoeddus Ynys Lawd, Ynys Lawd, Caergybi

Cofnodion:

12.1 12C266H - Cais i ddiwygio amodau (04) a (06) ar ganiatad cynllunio rhif 12C266G i ganiatau cyflwyno manylion lefelau slabiau arfaethedig yr adeilad(au) a chynllun ar gyfer darparu a gweithredu system draenio dŵr wyneb ar ôl cychwyn gwaith ar y safle yn ABC Power Marine, Penrhyn Safnas, Biwmares

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor oherwydd mai Cyngor Sir Ynys Môn sydd biau’r tir.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio wrth y Pwyllgor bod y Swyddog Draenio ac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cadarnhau bod y cais yn un derbyniol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd ei gynnig gan y Cynghorydd Jim Evans.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau sydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ysgrifenedig.

(Fel Aelod Lleol, ni phleidleisiodd y Cynghorydd R.L.Owen ar y mater)

 

12.2 40C48E/EIA – Dymchwel yr adeilad bad achub a’r llithrfa bresennol ynghyd â chodi adeilad bad achub a llithrfa newydd yn Gorsaf Bad Achub, Moelfre.

 

Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor oherwydd ei fod yn destyn Asesiad Effaith Amgylcheddol.

 

Rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr Elfed Jones, un sy’n gwrthwynebu’r cais, i annerch y Pwyllgor.

 

Dywedodd Mr Jones ei fod yn siarad o’i galon ar y mater hwn fel cyn aelod o Fad Achub Moelfre am 36 o flynyddoedd a’i fod yn bresennol ar ran nifer o drigolion y pentref a oedd hefyd yn gwrthwynebu’r cais - nid oherwydd nad oeddynt am weld bad achub newydd ond oherwydd y byddai’r adeilad arfaethedig ar gyfer y bad achub sydd mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol bron dwywaith cymaint â’r adeilad cyfredol.  Petai unrhyw un eisiau codi tŷ neu dyrbin gwynt ar yr arfordir ym Moelfre, ni fyddid yn rhoddi caniatâd.  Er bod mater y bad achub yn bwnc sentimental iawn ac hynny i’w ddeall, maen ffaith hefyd y bydd yr adeilad yno am 100 mlynedd.  Mae’r ymgeiswyr eisiau cau’r llwybr arfordirol am 2 flynedd ac adeiladu lôn - dygodd Mr Jones sylw at y ffaith bod y ffordd i lawr i dŷ’r bad achub yn hynod beryglus a bod ceir yn dod i lawr y lon fel gwallgofon pan geir galwad am wasanaeth y bad.  Y teimlad yw bod yr RNLI wedi mynd o gwmpas pethau yn chwithig ac wedi prynu’r dodrefn cyn codi’r tŷ.  Oni ddylai’r Sefydliad fod wedi gofyn am ganiatâd i adeiladu’r tŷ yn gyntaf cyn dod a’r dodrefn i mewn?  Dywedodd Mr Jones ei fod o’r farn bod y Sefydliad wedi trin trigolion Moelfre yn warthus a’i fod o ei hun a’i deulu o Foelfre.  Pwysleisiodd nad oedd trigolion yn erbyn y bad achub ond nad ydynt yn gweld pam mae Moelfre angen tŷ bad achub ar y raddfa a gynigir.  Petai’r Sefydliad eisiau bad achub o’r safon hon yn yr ardal dylid bod wedi ei lleoli mewn man arall ym Mhorth Amlwch.  Gofynnodd i Aelodau’r Pwyllgor wrth benderfynu ar y cais, feddwl am drigolion Moelfre a fydd yn gorfod byw gyda’r adeilad arfaethedig am y 100 mlynedd nesaf a bod hyn yn drychineb.  Gofynnodd i’r Aelodau ystyried y cais yn ofalus iawn.

 

Nid ofynnwyd unrhyw gwestiynau i Mr Jones gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

Yna, rhoes y Cadeirydd wahoddiad i Mr Mathew Croft i siarad i gefnogi’r cais.

 

Cyflwynodd Mr Croft ei hun fel Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol yr RNLI ac eglurodd ei fod yn bresennol ar ran y siaradwr a oedd i fod yma sef Mr Howard Richings.

 

Dywedodd Mr Croft ei fod yn cydymdeimlo’n fawr gyda sylwadau’r gymuned ym Moelfre a’i fod yn teimlo ei fod yn glir iawn fod yr RNLI wedi gwrando ar y sylwadau hynny ac wedi diwygio’r cynlluniau ar gyfer y tŷ cwch ar ôl gwrando ar bryderon y bobl.  Pan brynwyd gorsaf gyfredol y bad achub yn 1988 roedd yn gwch hynod fodern ar y pryd.  Fodd bynnag, mae pethau wedi datblygu ac mae’r sefydliad wedi symud ymlaen i fad achub fwy newydd – bad achub Dosbarth Tamar a fydd, ym marn y Sefydliad, yn sicrhau dyfodol y gwasanaeth chwilio ac achub ym Moelfre am y 25 mlynedd nesaf.  Mae’n borthladd cysgodi pwysig ac ystyrir ei fod yn hanfodol bod ased chwilio ag achub yn y coridorau llongau y mae’n eu goruchwylio.  Yn y cyfnod y mae’r orsaf bad achub wedi bod ym Moelfre mae wedi arbed 1,441 o fywydau ac ers 1970, mae’r bad pob tywydd wedi bod allan 532 o weithiau.  Mae’n amlwg bod angen yr orsaf.  Mae’r bad achub Tamar fel yr un sy’n disodli’r bad achub Time Class, yn fwy diogel, yn fwy effeithiol a bydd yn rhoi mwy o ddiogelwch i’r criw i sicrhau eu bod yn medru mynd allan ac achub pobl sydd mewn trybini.  Dyna’r rheswm pam y dewiswyd y Tamar.  Mae’r Sefydliad, fel elusen, wedi edrych ar opsiynau eraill gan gynnwys Amlwch, ond Tamar yw’r opsiwn gorau ar gyfer yr orsaf hon.  Ni fydd unrhyw newid yn sut mae’r cwch yn cael ei weithredu - bydd y bad achub yn dal i fynd allan i’r môr gyda chriw fel y mae wedi ei wneud erioed yng nghymuned Moelfre ac ni ragwelir unrhyw newidiadau o ran sut y bydd hynny yn gweithredu i’r dyfodol.  Mae’r Sefydliad hefyd yn gwneud buddsoddiad sylweddol yn yr ardal ac ystyrir ei fod yn bwysig ei fod yn dangos bod y buddsoddiad hwnnw yn cael ei wneud ar sail angen - oherwydd bod ei angen i achub bywydau ar y môr.  Bydd rhaid cau rhan fechan o lwybr yr arfordir am gyfnod byr iawn er diogelwch pobl a fyddai’n cerdded ar hyd y llwybr dan fraich y craen.   Gwneir pob ymdrech i leihau’r effaith ar y gymuned i’r eithaf ac ymdrechir cael cefnogaeth y gymuned i sicrhau bod y sefydliad yn gweithio gyda hi ar gyfer y gwasanaeth hanfodol hwn.  Aeth Mr Croft ymlaen i ddweud ei fod wedi bod yn gwasanaethu ar fadau achub am 20 mlynedd a gofynnwyd iddo yn aml sawl gwaith yr oedd wedi achub pobl.  Ei ateb oedd 5 oherwydd 5 oedd y nifer o bobl nad oedd wedi medru eu hachub a bydd y bad achub newydd yn gyfle i newid sefyllfa o 90% i 97% o ran cyrraedd pobl yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.  Er nad yw’n ymddangos yn uchel iawn, mae 7% yn ganran sy’n arbed bywydau.

 

Holwyd Mr Croft gan Aelodau’r Pwyllgor mewn perthynas â pha mor hir y disgwylir y bydd y llwybr arfordirol ar gau; y newidiadau a wnaed i’r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer gorsaf y bad achub i roi sylw i bryderon y gymuned, a’i maint.

 

Yn ei ymateb dywedodd Mr Croft  y bydd y llwybr arfordirol ar gau am yr amser lleiaf y bydd yn rhaid ei gymryd i sicrhau bod pobl yn ddiogel.  Disgwylir y bydd y gwaith adeiladu yn cymryd 2 flynedd ar y mwyaf.  Mae’r gwaith adeiladu ym Mhorth Dinllaen er enghraifft ar darged i gwrdd â’r amserlen o rhwng 12 a 18 mis a bydd y sefydliad yn ceisio gweithio gyda’i gontractwyr i sicrhau cyfyngu i’r eithaf ar unrhyw anhwylustod ac i sicrhau hefyd na fydd y llwybr ar gau am fymryn mwy nag sydd raid.  O ran dyluniad y datblygiad arfaethedig, roedd y dyluniad gwreiddiol yn cynnwys mwy o le a oedd yn gwneud y tŷ cwch gwreiddiol yn fwy.  Wrth ymgynghori gyda’r gymuned leol daeth yn glir nad oedd hynny yn dderbyniol; tynnwyd y cais cynllunio yn ôl felly er mwyn adolygu’r cynlluniau a llwyddodd y sefydliad i weithio gyda’r Cyngor i ddatblygu adnoddau ychwanegol yn y Wylfan.  Mae hynny wedi caniatáu i’r sefydliad ostwng ôl troed yr adeilad fel nad yw ond yn cynnwys y lle sydd raid wrtho ar gyfer rhan o’r tŷ cwch a’r cyfleusterau angenrheidiol ar gyfer y criw.  O’r herwydd, mae’r ôl troed wedi gostwng yn sylweddol ers y cynlluniau gwreiddiol a’r cynllun cyfan bellach yw bod digon o le ar gyfer cadw’r cwch yn ddiogel ac yn effeithlon.  Bydd y sefydliad yn defnyddio’r Wylfan ar gyfer y gweithgareddau y byddai’n dymuno ymgymryd â nhw i ychwanegu at y gymuned ym Moelfre. Cadarnhaodd Mr Croft nad yw’r tŷ cwch arfaethedig, yn ei farn ef, yn fwy nag sydd raid iddo fod i’r bad achub fedru gweithredu’n ddiogel ac yn effeithlon ar gyfer y cyfnod nesaf.

 

Siaradodd y Cynghorydd Derlwyn Hughes fel yr Aelod Lleol ar gyfer Moelfre. Dywedodd bod rhai pwyntiau dilys wedi eu codi yn y llythyrau o sylwadau ac yr oedd angen rhoi sylw iddynt ac y byddai ei anerchiad yn cyfeirio at y pwyntiau hynny a’r pryderon sydd wedi ychwanegu at yr oedi o ran penderfynu’r cais.  Esboniodd y Cynghorydd Hughes nad yw’r cais hwn yn un a oedd wedi ei gyflwyno’n ddisymwth oherwydd treuliwyd dwy flynedd arno ac roedd yn gobeithio y byddai’n cael ei benderfynu yn y cyfarfod heddiw.  Ymgynghorwyd ymhellach ar yr Asesiad o’r Effaith ar yr Amgylchedd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, Dwr Cymru a’r Cyngor Cefn Gwlad.  Ystyriwyd y pryderon a godwyd ac roedd yr asiantaethau perthnasol yn fodlon.  Roedd yn credu bod y Gwasanaeth Cynllunio wedi bod yn drwyadl - diwygiwyd y cynlluniau yn dilyn sylwadau a gafwyd mewn sawl trafodaeth gyda dylunwyr a phenseiri cyn cyflwyno’r cynllun swyddogol.  Dywedodd y Cynghorydd Hughes nad oedd wedi ymateb yn unigol oherwydd ei fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r Cyngor Cymuned ar 26 Medi 2012 pan drafodwyd y cais.  Gan ei fod yn bresennol yn y cyfarfod o’r Cyngor Cymuned roedd yn deall felly mai’r drefn arferol yw bod y Cyngor yn ymateb i geisiadau.  Roedd y gefnogaeth yn unfrydol.  Mae un o’r llythyrau sy’n gwrthwynebu’r cais yn nodi yn anghywir  y cyswllt rhwng y Pwyllgor Lleol a’i aelodau.  Mae dau aelod o’r criw yn gwasanaethu ar y Cyngor Cymuned.  Aeth y Cynghorydd Hughes ymlaen i ddarllen dyfyniad o gofnodion y cyfarfod a oedd yn dangos cefnogaeth gref y Cyngor Gymuned i’r cynnig ar sail bod angen cadw’r bad achub er mwyn arbed bywydau; ei rôl ganolog fel rhan o hanes a thraddodiad y pentref; cydnabyddiaeth eang i’r criw, y sgiliau gwerthfawr y mae pobl ifanc a gwirfoddolwyr yn eu hennill trwy weithio gyda’r adnodd; refeniw i’r pentref a gwaith amser llawn i 2 o bobl.  Mae’n anochel bod rhai o’r criw a ffrindiau'r RNLI yn gwasanaethu ar amryfal bwyllgorau  yn y pentref a’r ardal - dyna sydd yn gwneud cymuned - unigolion yn chwarae eu rhan ac yn cyfrannu yn gadarnhaol er lles ei thrigolion. Roedd y Cynghorydd Hughes yn dweud ei fod wedi synnu at y cyfeiriad i leoli’r bad achub yn rhywle arall ac at ddefnyddio Porth Amlwch fel angorfa barhaol - mae traddodiad a hanes sefydliad y cwch ym Moelfre ac roedd yn gobeithio mai dyna lle byddai’n parhau.  Mae’r sefydliad yn rhan bwysig o’r gymuned leol ac mae Moelfre wedi hoelio ei hanes morol balch ar gyflawniadau’r amryw griwiau.  Er bod cyflwyno bad achub newydd yn ddigwyddiad dramatig, mae cynnydd a datblygiad yn rhan o’r sefydliad RNLI fel popeth arall.  Gofynnodd y Cynghorydd Hughes i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cais fel bod modd edrych ymlaen i gyfnod cyffrous newydd yn hanes y bad achub ym Moelfre - dyna beth mae’r ardal a’r pentref yn ei ddisgwyl ac yn gobeithio amdano ar ôl cyfarfod heddiw.

 

Dywedodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio bod rhagor o lythyrau wedi dod i law ers drafftio’r adroddiad, sef llythyrau o blaid ac yn erbyn y cais, gan olygu bellach bod 13 o lythyrau yn gwrthwynebu’r cynnig a 43 o lythyrau o blaid.  Y dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau yw 4 Ebrill ac os bydd yr Adran yn derbyn unrhyw wybodaeth / sylwadau pellach ar ol cyfarfod heddiw sy’n sylweddol wahanol, yna bydd y cais yn dod yn ol i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.  Mae’r Gwasanaeth Priffyrdd wedi cadarnhau eu bod yn fodlon gyda’r datblygiad yn amodol ar gynnwys amodau bod rhaid cael cytundeb ymlaen llaw ynghylch y dull gweithredu ar y safle.  Dygodd y Swyddog sylw hefyd at newid arfaethedig i Amod (2) yn yr adroddiad i gynnwys dyddiadau penodol ar gyfer cyflwyno a chytuno’r cynlluniau y cyfeirir atynt dan yr amod hwnnw.  Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud ei fod yn casglu o’r holl sylwadau a wnaed nad oedd y rheini yn y gymuned leol a oedd yn gwrthwynebu’r cynnig yn erbyn y datblygiad mewn egwyddor, ond eu bod yn gwrthwynebu ar sail maint a dyluniad y tŷ cwch arfaethedig.  Cafwyd trafodaethau adeiladol rhwng yr ymgeisydd a swyddogion cynllunio ynghylch cyflwyno dyluniad derbyniol, sef y prif ffactor i’r swyddogion yn eu hystyriaethau.  Dangosodd y Swyddog y newidiadau a wnaed trwy gyfeirio at lun a oedd yn dangos y cynnig gwreiddiol a’r un diwygiedig.  Roedd y cais gwreiddiol yn fwy ac fe gafodd ei dynnu yn ol oherwydd bod Swyddogion yn ystyried ei fod yn annerbyniol.  Daethpwyd i gyfaddawd ac mae’r cynllun diwygiedig yn dderbyniol o ran defnydd o dir ac effaith y datblygiad ar y dirwedd gyfagos.  O’r herwydd, mae’r argymhelliad yn un o gymeradwyo.  Mewn perthynas â llwybr yr arfordir, eglurodd y Swyddog y bydd y llwybr yn cael ei wyro o gwmpas y cwmpawd wrth i’r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen ac na fydd yn cau’n gyfan gwbl.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am eglurhad ar fesuriadau’r cynnig diwygiedig mewn cymhariaeth a’r cynllun gwreiddiol, yn ogystal â’r defnyddiau ar gyfer y to.  Er eu bod yn cydnabod pryderon rhai aelodau’r o’r gymuned ynghylch maint dyluniad y tŷ cwch arfaethedig newydd, roedd consensws y dylid cymeradwyo’r cynnig yn seiliedig ar yr angen amdano a’r gwelliannau diogelwch ac effeithlonrwydd y byddai’r bad achub newydd yn eu cyflwyno i’r gwasanaeth chwilio ac achub ym Moelfre.  Cadarnhaodd y Rheolydd Datblygu Cynllunio bod y tŷ cwch arfaethedig oddeutu 1 metr yn uwch na’r adeilad cyfredol ac y bydd y to wedi ei wneud o gopr naturiol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd W.J.Chorlton.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau a nodir yn yr adroddiad ysgrifenedig a’r diwygiad a ddisgrifir i amod 2.

 

12.3 46LPA972/CC – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr hen gyfleusterau cyhoeddus i annedd yn Toiledau Ynys Lawd, Ynys Lawd, Caergybi LL65 1YH

 

Adroddir i’r Pwyllgor ar y cais oherwydd ei fod yn gais gan y Cyngor ar dir y mae’n berchen arno.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Dew y dylid cymeradwyo’r cais ac fe gafodd ei eilio gan y Cynghorydd E.G.Davies.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog a chyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

(Ni phleidleisiodd y Cynghorydd Eric Roberts ar y mater fel yr Aelod Lleol)

Dogfennau ategol: