• Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2019.
• I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion.
Cofnodion:
Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2019.
Materion yn codi o’r cofnodion:-
• Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Aled Morris Jones wedi cael ei benodi’n aelod o’r CYSAG.
• Cadarnhawyd bod y Parch. Jim Clarke mewn cysylltiad â’r Eglwys Bresbyteraidd er mwyn i’r Eglwys enwebu cynrychiolydd i’r CYSAG.
• Adroddodd y Cadeirydd fod yr Eglwys Fethodistaidd wedi enwebu’r Parch. Sue Altree fel cynrychiolydd ar y CYSAG, a derbyniodd y CYSAG yr enwebiad.
• Cadarnhaodd y Cadeirydd, y Cynghorwyr Gwilym O Jones ac Alun Mummery eu bod wedi ymweld ag ysgolion lleol i arsylwi Addoli ar y Cyd.
Cafwyd adroddiad llawn gwybodaeth gan y Cynghorydd Gwilym O Jones yn dilyn ei ymweliad ag Ysgol Kingsland, Caergybi pan yr arsylwodd y gwasanaeth boreol yn yr ysgol. Dywedodd mai thema’r sesiwn Addoli ar y Cyd oedd cyfeillgarwch, gyda phwyslais ar ofalu. Dywedodd bod y gwasanaeth yn un ardderchog, a’i fod yn codi ymwybyddiaeth am werthoedd, ystyr a phwrpas ac yn rhoi cyfle i’r disgyblion adlewyrchu ar ddigwyddiadau a oedd yn cael effaith ar yr ysgol a’r gymuned leol.
Adroddodd y Cynghorydd Alun Mummery iddo fynychu sesiwn Addoli ar y Cyd yn Ysgol Llanfairpwll a’r thema oedd tŷ ar y bryn a thŷ ar y tywod. Dywedodd fod ei ymweliad yn un pleserus iawn, a gwelodd y disgyblion yn ymateb yn dda yn yr ysgol gan ddangos fod ganddynt sylfaen gadarn mewn Addysg Grefyddol.
Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu sesiwn Addoli ar y Cyd yn Ysgol y Talwrn, a’i bod yn sesiwn ardderchog. Roedd y disgyblion yn dathlu’r ŵyl Hindŵ, Diwali, ac yn darllen straeon o’r Beibl.
Anogodd y Cadeirydd aelodau’r CYSAG i fynychu sesiynau Addoli ar y Cyd mewn ysgolion. Cadarnhaodd y Cynghorydd Alun Roberts ei fod wedi trefnu i arsylwi sesiwn Addoli ar y Cyd yn Ysgol Santes Dwynwen, Niwbwrch.
• Nodwyd bod yr Ymgynghorydd AG a chynrychiolwyr CYSAGau eraill wedi codi’r broblem o anghysondeb rhwng papurau arholiad a’r llwyth gwaith yn y Maes Llafur Cytûn AG o gymharu â phynciau eraill yng nghyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yn Aberaeron. Adroddwyd fod CBAC yn gwrthod cydnabod y broblem o hyd. Mewn perthynas â diffyg adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg, rhannwyd e-byst gydag athrawon er mwyn rhannu adnoddau a syniadau.
Adroddodd cynrychiolwyr athrawon y CYSAG fod niferoedd disgyblion wedi gostwng yn sylweddol mewn AG ar lefel TGAU oherwydd y llwyth gwaith. Adroddwyd fod nifer y disgyblion sy’n astudio TGAU wedi gostwng o rhwng 50 a 60 o ddisgyblion yn y gorffennol i 18 mewn un ysgol eleni. Nodwyd fod disgyblion yn trafod y pwnc gyda’i gilydd ac yn cyfleu’r neges fod y maes llafur AG yn rhy drwm o gymharu â phynciau eraill.
Mynegodd aelodau’r CYSAG bryder bod llai o ddisgyblion yn astudio AG. Nodwyd bod y CYSAG wedi codi pryderon gyda Llywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ôl ynghylch llwyth gwaith AG. Hyd yma, ni dderbyniwyd ymateb gan CBAC.
PENDERFYNWYD gofyn i Mr Rheinallt Thomas godi pryderon y CYSAG unwaith eto yng nghyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru ynghylch y Maes Llafur Cytûn AG ar gyfer TGAU, gan na fu ymdrechion blaenorol yn llwyddiannus.
Dogfennau ategol: