Eitem Rhaglen

Gosod Cyllideb 2020/21 - Cynigion Cychwynnol ar gyfer y Gyllideb Gyfalaf

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn ymgorffori adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2020/21.

 

Wrth dynnu sylw at y prif bwyntiau ac ymhelaethu arnynt fe wnaeth y Cyfarwyddwr  Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 

 

           Gyfeirio at y sgôp cyfyngedig i ystyried amrywiol opsiynau ar gyfer y Gyllideb Gyfalaf o’i gymharu â'r Gyllideb Refeniw.

           Amlinellu egwyddorion y Strategaeth Gyfalaf a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith  ym mis Chwefror, 2019 ac y mae'r Gyllideb Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2020/21 yn seiliedig arni (paragraff 2.2 yr adroddiad).

           Egluro o ran ariannu'r rhaglen gyfalaf (Tabl 1 yr adroddiad) fod y ffigyrau ar gyfer y setliad drafft i Lywodraeth Leol yn cynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol a'r Benthyca â Chymorth; er bod grantiau cyfalaf at ddibenion penodol wedi cynyddu, mae lefel y cyllid o dan y ddau bennawd hyn wedi aros yn weddol gyson dros nifer o flynyddoedd sy’n cyfyngu’r opsiynau sydd ar gael i'r Cyngor wario’r cyfalaf.

           Cadarnhau dyrannu £500k o'r Gronfa Gyfalaf (gan adael balans a ragwelir o £640k) i dalu am unrhyw waith cyfalaf brys a allai godi yn ystod y flwyddyn a / neu i ddarparu cyllid cyfatebol pe bai'r angen yn codi.

           Rhoi manylion am yr asedau cyfredol y bydd angen eu hamnewid / adnewyddu yn unol â’r dull a amlinellir yn y strategaeth gyfalaf, a'r symiau a neilltuwyd iddynt yn unol ag adran 4.2 a Thabl 3 yr adroddiad, gan ychwanegu y bydd y Cyngor yn ei chael hi'n anodd cyflawni hyd yn oed y gwaith mwyaf sylfaenol i gynnal ei asedau cyfredol oni bai bod y Grant Cyfalaf yn cynyddu yn y dyfodol.

           Crynhoi'r bidiau unwaith ac am byth eraill am gyllid ychwanegol a gymeradwywyd gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth i'w cynnwys yn rhaglen gyfalaf 2020/21 ar ôl iddynt gael eu hasesu gan y Tîm Cyllid trwy ddefnyddio mecanwaith sgorio'r Strategaeth Gyfalaf (Tabl 4 yr adroddiadargymhellir dyrannu cyfanswm o £2.174m)

           Cyfeirio at nifer o brosiectau eraill a nodwyd gan y broses gynnig nad oes angen cyllid arnynt yn 2020/21 ond y gall bod angen eu hariannu yn 2021/22 neu y tu hwnt fel y nodir yn adran 5.4 o'r adroddiad.

           Egluro’r sefyllfa o ran rhaglen gyfalaf Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain a rhaglen gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, o gyfarfod y Panel ar 9 Ionawr, 2020 lle rhoddwyd sylw manwl i gynigion cychwynnol cyllideb 2020/21. Roedd y Panel wedi argymell y dylid cefnogi'r cynigion canlynol ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2020/21 -

 

           Adnewyddu / Amnewid asedau £5.158m

           Prosiectau cyfalaf unwaith ac am byth newydd £1.924m

           Cronfa Gwella Cyfleusterau Hamdden £0.250m

           Ysgolion yr 21ain Ganrif £9.039m

           Cyfrif Refeniw Tai £17.138m

 

Cyfanswm Gwariant Newydd oedd £33.609m ynghyd â llithriad o £3.294m o 2019/20 gan ddod â chyfanswm y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020/21 i £36.903m.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a'r wybodaeth a gyflwynwyd ar lafar yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor argymell y Rhaglen Gyfalaf o £36.903m ar gyfer 2020/21 fel yr amlinellwyd, i'r Pwyllgor Gwaith.

Dogfennau ategol: