Eitem Rhaglen

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor Sir - Ardal Llangefni : Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas ag Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r rhaglen foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni. Roedd yr adroddiad yn gofyn am farn y Pwyllgor ynghylch y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig, er mwyn i’r Pwyllgor Gwaith roi ystyriaeth iddynt cyn penderfynu pa un ai i dderbyn y cynnig ai peidio ac awdurdodi’r ymgynghoriad cyhoeddus statudol angenrheidiol ynghylch hynny.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid at gais y Pwyllgor Gwaith ym mis Mai 2019 i Swyddogion edrych o’r newydd ar y materion amrywiol mewn perthynas â moderneiddio ysgolion a’r gofynion dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn ardal Llangefni, ac i gyflwyno adroddiad priodol i’r Pwyllgor Gwaith maes o law. Mae’r adroddiad uchod yn ymateb i’r cais hwnnw ac os yw’r Pwyllgor Gwaith yn penderfynu ymgynghori ar y cynnig yn yr adroddiad, ar ôl ystyried barn Sgriwtini, bydd proses ymgynghori statudol yn dilyn pan roddir cyfle i’r holl randdeiliaid ymateb i’r cynnig a chyflwyno sylwadau arno. Yna, byddai’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses honno yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid symud ymlaen â’r cynnig ai peidio a chyhoeddi hysbysiadau statudol.

 

Arweiniodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y Pwyllgor drwy’r papur cynnig a dywedodd bod y gyrwyr allweddol ar gyfer newid a nodir yn Strategaeth Foderneiddio Ysgolion y Cyngor yn cael eu crynhoi yn adran 3 y papur cynnig. Fel y nodwyd dan eitem 2, wrth gymhwyso’r gyrwyr allweddol hyn i’r ddarpariaeth addysg yn ardal Llangefni yn ehangach deuir i’r casgliad y byddai’n rhaid i unrhyw gamau i foderneiddio ysgolion roi sylw i set o feini prawf sy’n cynnwys safonau addysg; arweinyddiaeth a rheolaeth, adeilad ysgol; lleoedd ysgol digonol; darpariaeth cyfrwng Cymraeg a defnydd cymunedol (adran 4). Rhoddwyd ystyriaeth i un ar ddeg opsiwn amgen / opsiwn ar gyfer ardal Llangefni, sydd yn cynnwys Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn, fel y nodir yn adran 5 y papur cynnig. Daeth dadansoddiad manwl o bob un o’r opsiynau amgen rhesymol i’r casgliad nad oes unrhyw ddatrysiad hyfyw ar gyfer ardal Llangefni gyfan. O’r herwydd, ac oherwydd eu hagosrwydd, canolbwyntiwyd ar ganfod datrysiadau posib ar wahân ar gyfer dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir (sy’n cael sylw dan eitem 2) a dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn a fyddai’n bodloni’r gyrwyr allweddol, a chan roi ystyriaeth hefyd i’r heriau sy’n wynebu’r ysgolion hynny.

 

Cyfeiriodd y Swyddog yn benodol at y prif heriau y mae Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig yn eu hwynebu (adran 6) ac at yr opsiynau amgen rhesymol a gafodd eu hystyried a’u harchwilio mewn perthynas â’r ddwy ysgol (adrannau 7 ac 8 o’r papur cynnig, yn y drefn honno). Cafodd deg opsiwn amgen rhesymol, gan gynnwys y cynnig ar gyfer Ysgol Talwrn a naw opsiwn amgen rhesymol, gan gynnwys y cynnig, ar gyfer Ysgol Y Graig eu hystyried a’u dadansoddi yn erbyn y gyrwyr moderneiddio ysgolion allweddol. Dangosodd y dadansoddiad mai’r cynnig sy’n cael ei ystyried yn unig sy’n cael effaith gadarnhaol ar safonau, y gymuned a threfniadau teithio disgyblion yn eu cyfanrwydd. Daeth i’r casgliad hefyd y bydd angen i’r cyngor liniaru effaith y posibilrwydd o gau Ysgol Talwrn drwy ddarparu cludiant i ddisgyblion Ysgol Talwrn i Ysgol y Graig a fydd wedi cael ei hymestyn. O ganlyniad i’r asesiad, mae’r Awdurdod yn cyflwyno’r cynnig ar ei ffurf bresennol. Yn ymarferol, byddai hyn yn golygu ehangu Ysgol Y Graig, a fyddai’n parhau i weithredu yn y dyfodol, a byddai corff llywodraethu Ysgol Y Graig yn llywodraethu’r ysgol fwy. Byddai’r Awdurdod yn ceisio sicrhau bod cynrychiolwyr o Ysgol Talwrn ar y corff llywodraethu a byddai Ysgol Talwrn yn cau.

 

Rhoddwyd cyfle i Mr Islwyn Humphreys, Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Talwrn gyflwyno sylwadau ar y papur cynnig o safbwynt Ysgol Talwrn, a gwnaeth y pwyntiau canlynol –

 

           Ni chafwyd atebion i rai o’r cwestiynau a godwyd yn ystod ymgynghoriadau blaenorol. Er enghraifft, cyfleoedd i ddisgyblion Ysgol Talwrn gymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol gan fod y lôn rhwng Talwrn ac Ysgol Y Graig yn beryglus, a statws adeilad Ysgol Talwrn.

           Effaith niweidiol y cynnig ar y gymuned, ar yr iaith Gymraeg, ar ddiwylliant yn lleol ac ar unigolion.

           Nid oes unrhyw opsiynau amgen yn cael eu cynnig i ymgynghori arnynt.

           Mae safonau addysg yn Ysgol Talwrn yn dda, ac yn cymharu â safonau yn Ysgol Y Graig, ac mae’r data diweddaraf ac adroddiadau GwE yn tystio hynny, gyda disgyblion ar draws yr ysgol yn gwneud cynnydd cadarn ac yn perfformio’n dda ac, mewn rhai achosion, yn cyflawni Lefel 6.

           Mae Ysgol Talwrn yn ysgol sy’n ffynnu ac mae ganddi drefniadau cydweithio da gydag Ysgol Llanbedrgoch.

           4 o leoedd gwag yn unig sydd yn yr ysgol.

           Fforddiadwyedd y cynnig a’r costau benthyca i’r Cyngor yn yr hir dymor ar ased fydd yn colli gwerth.

 

Dywedodd Dr Iestyn Pierce, Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Y Graig bod mwy o ddisgyblion nag o leoedd yn yr ysgol ac o’r herwydd bod angen estyniad newydd o ryw fath i gwrdd â’r gofynion yn yr hir dymor.

 

Roedd y Cynghorydd Nicola Roberts (sydd hefyd yn Aelod Lleol) yn cydnabod bod ymgynghoriadau niferus ynghylch dyfodol Ysgol Talwrn yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i’r ysgol, y staff, y rhieni a’r gymuned ehangach. Er ei bod yn cydnabod fod safonau addysg wedi gwella yn yr ysgol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw adeilad yr ysgol yn ddigonol, gwendid y mae’n ei rannu gydag Ysgol Y Graig. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r safonau da yn Ysgol Talwrn, ac oherwydd rhesymau cydraddoldeb, gofynnodd a ddylid ystyried trosglwyddo staff Ysgol Talwrn er mwyn cadw arbenigedd gwerthfawr. Heblaw am hynny, roedd o’r farn bod y papur cynnig yn mynd i’r afael â’r holl ystyriaethau perthnasol ac anogodd bawb sydd â diddordeb yn y mater i gyflwyno eu safbwyntiau petai’r cynnig i gynnal ymgynghoriad statudol yn cael ei gymeradwyo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dylan Rees (sydd hefyd yn Aelod Lleol) a roddwyd digon o bwyslais ar ganlyniadau’r Asesiad Effaith Cymunedol, sy’n datgan y byddai’r cynnig yn cael effaith niwtral ar bobl a chymuned Talwrn, o ystyried bod y gymuned yn defnyddio’r ysgol, e.e. Clwb Cinio Pensiynwyr, gan y byddai’r cynnig yn debygol o gael effaith ar hynny petai’n cael ei weithredu.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Bryan Owen y byddai’n well gwario’r arian ar foderneiddio Ysgol Talwrn a thrwy hynny gyfrannu at ddiogelu gwasanaethau y mae’r ysgol yn eu darparu i’r gymuned a hyfywedd y gymuned ei hun.

 

Wrth nodi’r pwyntiau a wnaed, rhoddodd Swyddogion sicrwydd, pe byddai penderfyniad yn cael ei wneud i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig, yna byddai’r holl randdeiliaid yn cael cyfle i fynegi eu safbwyntiau yn ystod y cyfnod ymgynghori; byddai’r Awdurdod yn paratoi ymateb manwl i’r ymgynghoriad a’r sylwadau a gyflwynir yn ystod y cam hwn o’r broses.

 

Cynigiodd y Cynghorydd J. Arwel Roberts bod y Pwyllgor yn argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn derbyn y cynnig fel y’i cyflwynwyd ac yn symud ymlaen i gynnal yr ymgynghoriad statudol angenrheidiol ac eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies welliant, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Bryan Owen, sef argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn ymgynghori ynghylch cadw Ysgol Talwrn ar agor ac ystyried ei ffedereiddio ag ysgol arall (Ysgol Llanbedrgoch o bosib).

 

Cafodd y cynnig gwreiddiol (a wnaed gan y Cynghorydd J. Arwel Roberts) ei gario gan fwyafrif o aelodau’r Pwyllgor yn y bleidlais a ddilynodd.

 

Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad, ac ar lafar yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cymeradwyo’r cynnig i “gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig” a’i fod yn symud ymlaen i gynnal yr ymgynghoriad statudol angenrheidiol ynghylch hynny.

Dogfennau ategol: