Eitem Rhaglen

Adroddiadau Hunan Arfarnu Ysgolion

Cyflwyno adroddiadau hunan arfarnu AG gan yr ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol y Fali

  Ysgol Rhoscolyn

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiadau hunan arfarnu gan Ysgol y Fali ac Ysgol Rhoscolyn.

 

Adroddodd Pennaeth Ysgol y Fali fod safonau AG yn dda yn yr ysgol. Dywedodd fod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gallu siarad am eu teimladau, gweithredoedd a’u barn erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen. Erbyn diwedd Blwyddyn 5 a 6 yng Nghyfnod Allweddol 2, gall nifer o ddisgyblion esbonio sut mae eu teimladau, gweithredoedd a’u barn effeithio ar eu bywydau.

 

Mae adroddiad hunan arfarnu Ysgol Rhoscolyn yn datgan fod safonau AG yn foddhaol yn yr ysgol a bod rhai meysydd angen sylw. Esboniodd y Pennaeth fod gan y mwyafrif o ddisgyblion agwedd gadarnhaol ac iach tuag at AG a’u bod yn barod i gymryd rhan mewn trafodaethau am faterion moesol, lles ac ysbrydol. Nodwyd fod safonau addysgu AG a chyfraniad AG at ddatblygiad disgyblion yn gyffredinol dda yn yr ysgol. Nodwyd fod rhywfaint o’r derminoleg yn adroddiad hunan arfarnu Ysgol Rhoscolyn yn anghywir. Awgrymodd y CYSAG fod Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion yn cynnig cefnogaeth i’r ysgol ynghylch y mater.

 

PENDERFYNWYD y dylai’r Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion hysbysu Ysgol Rhoscolyn am y derminoleg gywir i’w defnyddio mewn adroddiadau hunan arfarnu ysgolion.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd AG, er y derbyniwyd nifer o adroddiadau hunan arfarnu yn ddiweddar, dim ond dau a gyflwynwyd i’r CYSAG er mwyn lleihau’r llwyth gwaith ar y rhaglen. Awgrymodd fod y Panel yn adolygu’r adroddiadau hunan arfarnu ysgolion sy’n weddill ac yn adrodd yn ôl i’r CYSAG gydag enghreifftiau o arfer dda a rhagoriaeth, ac yn hysbysu’r CYSAG am feysydd sydd angen eu gwella o bosib.

 

Nodwyd y byddai’r fethodoleg hon yn caniatáu i’r CYSAG ganolbwyntio ar feysydd penodol a phwyntiau a godwyd gan y Panel, a’u monitro. Yn flaenorol, pan oedd y CYSAG yn adolygu adroddiadau hunan arfarnu nid oedd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd. Drwy ddefnyddio arbenigedd y Panel i asesu’r adroddiadau, bydd modd codi pwyntiau da, a rhoi sylw i faterion sydd angen eu gwella.

 

Codwyd pryderon gan y CYSAG nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi ymatebion ysgolion yn eu hadroddiadau hunan arfarnu, a bod angen cyflwyno mwy o wybodaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, yn hytrach na thicio bocsys yn unig. Nodwyd y gall y CYSAG gynorthwyo ysgolion i ddatblygu a gwella safonau mewn AG drwy ddadansoddi adborth gan ysgolion. Nodwyd nad oes sicrwydd ar hyn o bryd bod y safonau sy’n cael eu hadrodd yn gywir.

 

Awgrymodd y Cadeirydd fod y Panel yn cadw at arfer orau drwy Gymdeithas CYSAGau Cymru mewn perthynas â chywirdeb gwybodaeth a gyflwynir mewn adroddiadau hunan arfarnu ysgolion. Awgrymwyd hefyd fod y Panel yn adolygu fformat a naratif adroddiadau hunan arfarnu maes o law.

 

 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r adroddiadau hunan arfarnu AG ysgolion a gyflwynwyd.

  Bod Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion yn adolygu adroddiadau hunan arfarnu ysgolion yn y lle cyntaf ac yn cyflwyno ei sylwadau i’r CYSAG.

  Bod y Panel yn cadw at arfer orau drwy Gymdeithas CYSAGau CYMRU, i gadarnhau fod safonau a nodir mewn adroddiadau hunan arfarnu ysgolion yn gywir.

Dogfennau ategol: