Eitem Rhaglen

Proses Gosod Cyllideb 2020/21 - Cynigion Terfynol Drafft ar gyfer y Gyllideb Refeniw

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini ar gyd-destun y broses gosod cyllideb. ‘Roedd  Atodiad 1 yr adroddiad yn cynnwys adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb Refeniw 2020/21 a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr, 2020. Ynghlwm yn Atodiad 2 roedd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a'r Gwasanaeth Trawsnewid yn crynhoi'r prif negeseuon o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb refeniw drafft.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor mewn perthynas â sefyllfa'r gyllideb yn dilyn cyhoeddi setliad cyllid terfynol Llywodraeth Cymru ar 25 Chwefror, 2020 fel a ganlyn–

 

           Y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru

 

      Bod cyllideb ddigyfnewid gychwynnol o £142.147m wedi'i chymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ar 13 Ionawr, 2020. Ers cwblhau'r cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb, gwnaed gwaith pellach i adolygu a diwygio'r gyllideb ddigyfnewid a gwnaed rhai mân addasiadau ychwanegol a oedd yn dod i gyfanswm o £28k, gan olygu bod angen £142.175m ar gyfer y gyllideb ddigyfnewid.

      Bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru, er yn aflwyddiannus, yn gofyn am bennu llawr ar gyfer y setliad fel na fyddai unrhyw gyngor yn derbyn llai na chynnydd cyllidol o 4% - tra bod y cynnydd i Ynys Môn yn 3.8% byddai cynnydd o 4% wedi golygu £200k ychwanegol i'r Awdurdod.

      Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei setliad terfynol ar gyfer Cynghorau Cymru ar 25 Chwefror. Nid oedd y ffigyrau a gyhoeddwyd wedi newid ers y setliad dros dro gan olygu y bydd Ynys Môn yn derbyn £101.005m fel Cyllid Allanol Cyfun ar gyfer 2020/21. Ar ôl cymryd ffigwr terfynol y setliad i ystyriaeth byddai’r gofyniad cyllideb diwygiedig o £142.175m yn golygu bod angen £41.172m o gyllid o’r Dreth Gyngor, gan arwain at gynnydd o 4.58% ar y lleiaf yn lefel y Dreth Gyngor.

      Bod y gyllideb arfaethedig yn ymgorffori nifer o ragdybiaethau o ran lefelau incwm a gwariant tebygol yn y blynyddoedd i ddod. Felly mae yna nifer o risgiau cynhenid yn y gyllideb arfaethedig. Mae dwy o'r prif risgiau yn ymwneud â’r galw am wasanaethau a’r dyfarniad cyflog i staff. Bu cynnydd yn y galw am wasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf yn enwedig yn y Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a gwasanaethau addysg arbenigol ac mae’r cynnydd hwn  wedi rhoi straen ariannol ar yr Awdurdod gan arwain at orwariannau sylweddol mewn cyllidebau. O ran tâl staff, cytunwyd ar ddyfarniad cyflog yr athrawon hyd at fis Medi, 2020 ac mae’r swm sydd raid wrtho wedi’i gynnwys yn y cynigion cyllidebol. Nid yw'r dyfarniad cyflog ar gyfer y cyfnod Medi, 2020 ymlaen wedi ei gytuno ac er y gwnaed darpariaeth am gynnydd o 2% , efallai na fydd hynny’n  ddigonol. Ni chytunwyd ar y dyfarniad tâl i staff nad ydynt yn staff dysgu ac sy'n weithredol o 1 Ebrill, 2020. Mae'r Cyflogwyr wedi cynnig cynnydd o 2% ond mae'r Undebau yn ceisio cynnydd o 10%. Mae cyllid ychwanegol wedi'i gynnwys yn y gyllideb i dalu am godiad cyflog o 2%. Fodd bynnag, mae pob 1% dros ben y gyfradd hon yn cynyddu'r gost flynyddol oddeutu £450k.

      Mae risgiau eraill yn cynnwys gwireddu targedau incwm; p’un a yw cyllid grant sy'n cefnogi cyfran dda o wariant y Cyngor yn parhau, yn cael ei leihau neu'n dod i ben yn gyfan gwbl; lefelau chwyddiant a chyfradd llog ac incwm o’r Dreth Gyngor na ellir ei amcangyfrif oherwydd newidiadau cyson yn ystod y flwyddyn yn y sylfaen dreth.

      Bod canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb a oedd yn rhedeg rhwng 15 Ionawr a 7 Chwefror yn adlewyrchu cytundeb cyffredinol gyda’r cynigion i fuddsoddi yn y Gwasanaethau Oedolion mewn ymateb i gynnydd yn y galw; i amddiffyn cyllidebau ysgolion trwy beidio â gweithredu’r toriad o £800k a ohiriwyd yn 2019/20 a gweithredu’r cynigion ar gyfer arbedion a gyflwynwyd gan wasanaethau. Fodd bynnag, roedd gwrthwynebiad cyffredinol i godi’r Dreth Gyngor rhwng 4.5% a 5% er mwyn darparu'r cyllid angenrheidiol (69.88% yn erbyn a 30.12% o blaid allan o 83 o ymatebwyr). Roedd rhai safbwyntiau a oedd yn cwestiynu rhai cynigion e.e. gwerth cynyddu taliadau parcio ceir a'r angen i gynyddu'r Dreth Gyngor uwchlaw cyfraddau chwyddiant flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn gyffredinol, ni chafwyd dim annisgwyl o'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus.

 

Mewn ymateb i gwestiynau ynglŷn â sut roedd yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus yn cymharu â digwyddiad y llynedd, dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, er bod yr ymgynghoriad eleni yn dilyn yr un patrwm ag ymarferion ymgynghori blaenorol a gynhaliwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid oedd mor helaeth ag yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd yr amserlen fyrrach a orfodwyd ar y Cyngor gan Lywodraeth Cymru a allai gyfrif yn rhannol am y cwymp yn nifer yr ymatebion. Yn ogystal, roedd cyfran uchel o sylwadau'r llynedd mewn ymateb i'r cynnydd yn y Premiwm Treth Gyngor sydd wedi'i weithredu ers hynny ac sy'n aros yr un fath am eleni. Roedd y rheini a fynychodd y sesiynau ar wahân a gynhaliwyd gyda'r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned; y bobl ifanc a fynychodd y fforymau Ffermwyr Ifanc a’r Urdd, ynghyd â’r rheini yn y sesiynau gyda Phrifathrawon ac Uwch Reolwyr yn gwerthfawrogi'r cyfle i wneud sylwadau ac i ddysgu mwy am sut mae'r Gyllideb yn cael ei llunio a sut mae'n cael ei hariannu gan gyfuniad o'r Grant Cymorth Refeniw, grantiau eraill Llywodraeth Cymru, trethi busnes a’r Dreth Gyngor.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i geisiadau i ystyried  llawr ar gyfer y setliad a fyddai wedi sicrhau y byddai pob Cyngor wedi cael cynnydd yn eu cyllid o ddim llai na 4% a chytunwyd y dylid cofnodi’n ffurfiol ei siom am y penderfyniad.

 

           Y Dreth Gyngor

 

Tâl Treth Cyngor Band D y Cyngor ar gyfer 2019/20 oedd £1,248.57 a oedd yn is na chyfartaledd Cymru ac a oedd yn ei osod yn 16eg o'r 22 awdurdod yng Nghymru. O'i gymharu â'r 5 awdurdod arall yng Ngogledd Cymru, Ynys Môn sydd â'r tâl Band D isaf ar wahân i Wrecsam. Fodd bynnag, oherwydd amrywiadau yn y sylfaen dreth ar draws awdurdodau yng Nghymru oherwydd y gwahaniaethau yn nifer yr anheddau ym mhob band prisio, nid yw hon yn gymhariaeth tebyg gyda thebyg. Mae’r cynnydd o rhwng 4.5% a 5% a gynigir ar yn Nhreth Gyngor Ynys Môn ar gyfer 2020/21 yn gyson â'r hyn y mae mwyafrif y Cynghorau yng Nghymru yn ei gynnig.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid ar y trafodaethau yng nghyfarfod y Panel ar 20 Chwefror, 2020 ac oherwydd nad oedd unrhyw newidiadau rhwng y setliad drafft a’r setliad terfynol, ailadroddodd argymhellion y Panel o ran cyfyngu'r cynnydd yn y Dreth Gyngor i ddim mwy na 5%; gweithredu cynigion arbedion gwerth £343k ac eithrio ffioedd parcio mewn ardaloedd trefol a darparu elfen o ddiogelwch ar gyfer cyllidebau ysgolion. O ystyried nifer y materion o ansicrwydd sy'n peri risg i Gyllideb 2020/21 megis costau’r dyfarniad tâl i staff a lefelau’r galw am wasanaethau, roedd y Panel wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gwneud darpariaeth briodol i allu ymateb i risgiau sy’n anodd eu meintioli yn y gyllideb ddrafft; rhoi camau ar waith i ddod â’r Gronfa Wrth Gefn Gyffredinol yn ôl i lefel briodol ac yng ngoleuni’r ansicrwydd ynghylch cyllid y blynyddoedd i ddod, ymgorffori elfen o hyblygrwydd yng Nghyllideb 2020/21. Gan nad ydi’r gyllideb gyfalaf wedi newid ers y sefyllfa ddrafft gychwynnol, roedd y Panel wedi argymell mabwysiadu'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020/21 fel y'i cyflwynwyd ac, yn yr un modd, wedi argymell bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn cymryd yr ymgynghoriad cyhoeddus i ystyriaeth wrth ddod i farn ar y cynigion cyllidebol drafft terfynol i'w hargymell i'r Pwyllgor Gwaith.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts ymhellach y bydd y Panel Sgriwtini Cyllid yn edrych yn agosach ar y sylwadau a wnaed yn yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus fel rhan o'i raglen waith yn ystod y flwyddyn.

 

           Opsiynau ar gyfer y Gyllideb a'r Effaith ar lefel y Cynnydd yn y Dreth Gyngor

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y

dewisiadau cyllidebol canlynol i'r Pwyllgor ac fe ddangosodd trwy gyflwyniad taenlen sut y byddai eu gweithredu / peidio â'u gweithredu yn effeithio ar faint y byddai'n rhaid i'r Dreth Gyngor godi -

 

      Darparu cyllid ychwanegol o £980k i ymateb i'r cynnydd yn y galw yn y Gwasanaethau Oedolion (cynnydd o +1.74% yn y Dreth Gyngor)

 

Roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r cynnig hwn.

 

      Gwrthdroi'r gostyngiad o £800k yn y gyllideb a ddirprwywyd i’r ysgolion a ohiriwyd o 2019/20 (cynnydd o + 3.77% yn y Dreth Gyngor)

 

Roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r cynnig hwn.

 

      Gweithredu'r arbedion cyllidebol fel y’u cynigiwyd (cyfanswm o £343k)

 

Er ei fod yn gefnogol i'r pecyn arbedion, trafododd y Pwyllgor rinweddau gweithredu'r cynnydd arfaethedig mewn taliadau parcio ceir, yn enwedig ar gyfer safleoedd canol trefi ar y sail y gallai gwneud hynny fod yn wrthgynhyrchiol gan arwain at lai o bobl yn ymweld â chanol trefi a thrwy hynny effeithio ar fusnesau lleol ac economi'r Ynys. Roedd hefyd yn ymwybodol bod rhywfaint o wrthwynebiad i gynyddu costau parcio ceir mewn lleoliadau arfordirol wedi cael ei leisio yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) ddadansoddiad i'r Pwyllgor o opsiynau ar gyfer ffioedd parcio ceir yn seiliedig ar ganfyddiadau grŵp llywio a werthusodd godiadau yn y ffioedd parcio o 2%, 5% a 10% (fel rhan o'r amcan cyffredinol o gynyddu ffioedd gwasanaeth) ar gyfer parcio ar safleoedd arfordirol ac yng nghanol trefi.  Ar ôl ystyried yr amrywiol opsiynau a'u heffaith ar y gyllideb a lefel y cynnydd yn y Dreth Gyngor, ac yn dilyn pleidlais ar hynny, roedd y Pwyllgor o blaid peidio â chynyddu taliadau parcio mewn safleoedd canol trefi (gwerth oddeutu £30k) a hefyd  blaid dileu'r ffi 50c (am 30 munud o barcio), gan ddod â chyfanswm y gyllideb arbedion i lawr i £313k.

 

      Defnyddio cyllid dros ben i greu cronfa wrth gefn i gwrdd â risgiau pwysau cyllidebol ychwanegol sy'n deillio o gynnydd mewn galw a / neu ddyfarniad tâl uwch na'r hyn y cyllidebwyd ar ei gyfer.

 

      Os yw'r ateb i'r uchod yn gadarnhaol, ar ba lefel y dylid gosod y gronfa?

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod yna gronfa wrth gronfa gyffredinol o oddeutu £404k y gellir ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn neu beidio. Mae yna gronfa wrth gefn ganolog hefyd i dalu costau diswyddo. ‘Roedd y  gronfa wrth gefn yn £400k yn 2019/20 ond mae'r gyllideb arfaethedig yn gostwng y ffigwr hwn i £150k. Nid yw cyllideb 2020/21 yn cynnwys cynigion ar gyfer arbedion staff ac mae’r gyllideb a ddirprwywyd i’r ysgolion yn caniatáu ariannu’r holl gostau ychwanegol gan olygu na ddylai ysgolion orfod lleihau niferoedd staff addysgu yn sylweddol. At hynny, mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys arian wrth gefn o £235k ar gyfer risgiau sy'n golygu bod yna gronfa wrth gefn wedi ei hadeiladu o fewn y gyllideb o oddeutu £750k i liniaru'r risgiau sy'n dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn. Gofynnir i'r Pwyllgor ystyried a yw'r lefel hon o gyllid wrth gefn yn ddigonol yng ngoleuni'r risgiau i'r gyllideb fel yr adroddwyd; pe bai'r Pwyllgor o'r farn nad yw, pa adnoddau pellach y mae'n cynnig y dylid eu hychwanegu at y gronfa? Eglurodd y Swyddog y byddai cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.5% yn cynhyrchu £257k ychwanegol ar gyfer y gronfa wrth gefn ganolog tra byddai cynnydd yn y Dreth Gyngor o 5% yn sicrhau bod £455k ychwanegol ar gael ar gyfer y gronfa. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, yn ei farn broffesiynol, y byddai cryfhau'r gronfa wrth gefn gyfredol yn gam doeth o ystyried y risgiau sy’n gysylltiedig â chyllideb 2020/21, yn enwedig mewn perthynas â'r dyfarniad tâl i staff ac o gofio lefel cronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor sydd wedi gostwng i lefel annerbyniol o isel.

 

Trafododd y Pwyllgor y mater ac, ar sail y risgiau i gyllideb 2020/21 yn enwedig mewn perthynas â'r dyfarniad tâl i staff, ac o gofio sefyllfa cronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor a chyngor a gafwyd gan y Swyddog Adran 151, roedd y Pwyllgor, yn dilyn pleidlais, o blaid cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor i ganiatáu rhoi £455k ychwanegol yn y gronfa wrth gefn ganolog i liniaru yn erbyn risgiau hysbys a phosib a allai godi yn ystod y flwyddyn.

 

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd gan gynnwys y diweddariad ar sefyllfa derfynol cyllideb refeniw 2020/21 a ddarparwyd gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ac ar ôl rhoi sylw arbennig i'r risgiau i'r gyllideb fel yr amlygwyd nhw, yn enwedig mewn perthynas â'r galw am wasanaethau a'r dyfarniad tâl posib i staff, yn ogystal â'r atborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol  -

 

           Argymell cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 i’r Pwyllgor Gwaith ar sail y canlynol -

 

           Bod cyllid ychwanegol o £980k yn cael ei ryddhau i’r Gwasanaethau Oedolion fel ymateb i gynnydd yn y galw.

           Gwrthdroi’r gostyngiad o £800k yn y gyllideb a ddirprwywyd i’r Ysgolion ac a ohiriwyd o 2019/20.

           Gweithredu’r holl arbedion cyllidebol ar wahân i'r cynnydd mewn ffioedd parcio ceir ar safleoedd canol tref, a dileu’r ffi 50c a fydd yn arwain at ostyngiad o oddeutu £30k yn y cyfanswm arbedion i £313k.

           Defnyddio’r cyllid dros ben i greu cronfa wrth gefn ar gyfer risg er mwyn cwrdd â'r risg o bwysau ychwanegol ar y gyllideb yn sgil galw cynyddol a / neu ddyfarniad tâl uwch na'r gyllideb.

           Cynnydd o £455k ychwanegol yn y gronfa wrth gefn ar gyfer risg

 

           Mynegi siom y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ym mhenderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chytuno i bennu llawr ar gyfer y setliad a fyddai wedi sicrhau cynnydd o ddim llai na 4% ar gyfer pob Cyngor.

Dogfennau ategol: