Eitem Rhaglen

Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion - Cylch Gorchwyl a Chynllun Gweithredu 2020/22

  Cyflwyno Cylch Gorchwyl Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion.

 

  Derbyn diweddariad ar Gynllun Gweithredu CYSAG 2020/22.

Cofnodion:

Adroddodd yr Ymgynghorydd AG bod Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion wedi cael ei sefydlu i gynorthwyo’r CYSAG i fonitro AG mewn ysgolion. Mae saith o gynrychiolwyr athrawon o’r sector cynradd ac uwchradd yn aelodau o’r Panel, ac mae tri ohonynt yn aelodau o’r CYSAG. Mae’r Ymgynghorydd AG yn edrych a oes modd i ddau aelod o’r Panel o’r sector cynradd, Mr Rhys Hearn a Ms Elin Owen, fod yn gynrychiolwyr athrawon (nad ydynt yn cynrychioli eglwys) ar y CYSAG.

 

Cyflwynwyd Cylch Gorchwyl a Chynllun Gweithredu’r Panel ar gyfer 2020/22 i’r CYSAG eu hystyried.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar p’un a ddylai’r Panel adolygu adroddiadau hunan arfarnu ysgolion, ac yna adrodd yn ôl i’r CYSAG. Cytunodd y CYSAG â’r cynnig hwn.

 

Nodwyd mai rôl y Panel yw annog ysgolion i rannu arfer dda ymysg ei gilydd, a thrwy hynny godi proffil y CYSAG a’r Panel mewn ysgolion, yn ogystal â chyflawni rôl monitro. Bydd yr Ymgynghorydd AG a Chlerc y CYSAG yn darparu canllawiau i’r Panel ac yn cyflwyno gwybodaeth newydd a diweddariadau gan Gymdeithas CYSAGau Cymru, Llywodraeth Cymru, Estyn, ac adroddiadau hunan arfarnu ysgolion.

 

Cytunodd y CYSAG fod cyfraniad y Panel yn gam cadarnhaol i ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth y CYSAG o’r gwaith a wneir mewn ysgolion a bydd yn rhoi cipolwg ar yr hyn sy’n digwydd rhwng cyfarfodydd, yn arbennig mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd. Adroddodd yr Ymgynghorydd AG ei bod wedi llwyddo i gael cyllid i ryddhau’r cynrychiolwyr athrawon ar y Panel o’u dyletswyddau.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd AG bod cyfarfod cyntaf y Panel wedi canolbwyntio ar AG a’r Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Cadarnhawyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Panel ym mis Mawrth, pan fydd y Panel yn adolygu’r Fframwaith AG newydd ac adroddiadau hunan arfarnu ysgolion, ac yn adrodd yn ôl i’r CYSAG ynghylch eu canfyddiadau.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar yr angen i athrawon gael parhad wrth bontio rhwng y sector cynradd a’r uwchradd. Gan fod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn berthnasol i ddisgyblion o 3 i 16 oed, mae angen i athrawon ysgolion uwchradd fod yn ymwybodol o lefel y gwaith a gwblhawyd yn yr ysgolion cynradd. Nodwyd bod cyfathrebu da yn hanfodol rhwng staff fydd yn cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.

 

Nodwyd fod gan Ysgol Gatholig y Santes Fair, Caergybi broses adrodd wahanol ar gyfer AG ac nid yw’n cael ei chynrychioli yn y Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion. Awgrymwyd bod Clerc y CYSAG yn cysylltu â’r Pennaeth, Mr Richard Jones, i ofyn a fyddai’n ystyried bod yn aelod o’r Panel.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Derbyn Cylch Gorchwyl y Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion fel y’u cyflwynwyd.

  Cytuno fod y Panel Gweithredol yn adolygu adroddiadau hunan arfarnu ysgolion, ac yn cyflwyno ei sylwadau i’r CYSAG.

  Bod Clerc y CYSAG yn ysgrifennu at Mr Richard Jones, Pennaeth Ysgol Santes Fair, Caergybi i’w wahodd i ymuno â’r Panel Gweithredol CYSAG Ysgolion.

 

Rhannwyd copïau o Gynllun Gweithredu’r CYSAG yn y cyfarfod. Adroddodd yr Ymgynghorydd AG y bydd y Cynllun Gweithredu yn rhan o Gynllun Busnes yr Adran Addysg, ac y bydd yn cael ei fonitro. Mewn perthynas â’r tair blaenoriaeth yn y Cynllun Gweithredu, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-

 

  Bydd angen i’r Panel sefydlu a yw pob ysgol yn cymryd rhan mewn AG ac Addoli ar y Cyd.

  Bydd y Panel yn esgor ar newidiadau cadarnhaol drwy drafod materion AG o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau ac Iechyd a Llesiant fel rhan o’r cwricwlwm newydd, yn unol â fframwaith AG cryf.

  Nodwyd fod athrawon uwchradd yn hyddysg mewn AG, a gallant gynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd gyda mwy o hyder wrth gydweithio gyda’r sector cynradd.

  Awgrymwyd creu llwyfan i rannu arfer dda ac adnoddau mewn AG ac addoli ar y cyd o fewn Addysg Môn.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr argymhellion yng Nghynllun Gweithredu drafft y CYSAG ar gyfer 2020-2022.

Dogfennau ategol: