Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad : Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch3 2019/20

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) A Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn cynnwys y trydydd Cerdyn Sgorio am y flwyddyn ariannol 2019/20 sy’n darlunio sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar ddiwedd Chwarter 3  i’r Pwyllgor ei ystyried a chraffu arno.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol ei bod yn braf gallu adrodd bod 86% o ddangosyddion perfformiad ar ddiwedd Chwarter 3 yn parhau i berfformio'n uwch na'r targed neu o fewn goddefiant o 5% o'u targedau a bod y Cyngor yn parhau i wella wrth ddarparu ei wasanaethau.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod Cerdyn Sgorio Chwarter 3 yn adlewyrchu un o berfformiadau gorau'r Cyngor ers cyflwyno adroddiad monitro'r cerdyn sgorio yn 2013. Mae DPA monitro perfformiad ar gyfer 2019/20 yn cyd-fynd â thri amcan strategol y Cyngor; ar ddiwedd Chwarter 3 mae'r perfformiad a fesurwyd felly wedi bod fel a ganlyn –

 

           O dan Amcan 1 (Sicrhau y gall pobl Ynys Môn ffynnu a gwireddu eu potensial tymor hir) mae 9 o'r 13 DPA yn Wyrdd.

           O dan Amcan 2 (Cefnogi oedolion a theuluoedd bregus i'w cadw'n ddiogel, yn iach ac mor annibynnol â phosib) mae 12 o'r 17 DPA yn Wyrdd.

           O dan Amcan 3 (Gweithio mewn partneriaeth â'n cymunedau i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi'n effeithiol gyda newid a datblygiadau tra’n amddiffyn ein hamgylchedd naturiol) Mae 4 o'r 6 DPA yn Wyrdd a 2 yn Felyn.

 

Wrth drafod yr adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor i’r swyddogion ddadansoddi ac esbonio ymhellach yr agweddau canlynol ar berfformiad nad oeddent yn cyrraedd y targed. Dywedwyd wrth y Pwyllgor –

 

           O ran Dangosydd (04b)   Cyfanswm canran y cwynion yr ymatebwyd yn ysgrifenedig iddynt o fewn 15 diwrnod (Gwasanaethau Cymdeithasol)  a oedd yn GOCH gyda pherfformiad o 59% yn erbyn targed o 80%, fod y Gwasanaeth yn gweithio gyda'r Swyddog Cwynion i wella perfformiad a gyda rheolwyr tîm i sicrhau ymateb amserol i gwynion. Fodd bynnag, nid yw'r ffigur yn adlewyrchu'r ffaith bod y Gwasanaeth yn gofyn am gytundeb yr achwynydd i fynd y tu hwnt i'r amserlen mewn achosion lle mae'r gŵyn yn gymhleth, a’i fod yn diweddaru’r achwynydd am y sefyllfa. Er bod y Gwasanaeth yn ymateb yn brydlon wrth dderbyn cwyn a hefyd wrth drafod y gŵyn gyda'r achwynydd, dim ond o ran darparu ymateb ysgrifenedig y mae'r Gwasanaeth yn tanberfformio.

           O ran Dangosydd 19 - Cyfradd y bobl sy’n cael eu cadw yn yr ysbyty tra’n aros am ofal cymdeithasol am bob 1000 o'r boblogaeth 75+ oed a oedd yn GOCH ar y cerdyn sgorio gyda pherfformiad o 6 yn erbyn targed o 3,  yn gyffredinol mae'r contractau gofal cartref newydd ar sail ardal yn helpu i ryddhau pobl yn gyflym pan fydd ganddynt becynnau wedi'u sefydlu. Fodd bynnag, oherwydd y pwysau o sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth ail-alluogi i bawb sy'n newydd i wasanaethau, mae sicrhau capasiti digonol yn her. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae'r Gwasanaeth yn ceisio sicrhau bod y rhai sy'n derbyn gwasanaeth ail-alluogi angen y gwasanaeth hwnnw mewn gwirionedd, a bod y Gwasanaeth yn gweithio i symud unigolion pan fydd y cyfnod ail-alluogi wedi'i gwblhau. Mae'r Gwasanaeth yn parhau i gryfhau ei bartneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i hwyluso’r broses o ryddhau unigolion yn brydlon o ysbytai gan roi sylw penodol i ysbytai cymunedol. Yn ogystal â hyn, bydd y Gwasanaeth yn adolygu prosesau mewnol drwy gynnal cyfarfodydd wythnosol â'r darparwr gwasanaethau ail-alluogi er mwyn sicrhau bod pob ysbyty’n rhyddhau unigolion yn brydlon.

           O ran Dangosydd 43 – Canran yr achosion gorfodaeth cynllunio yr ymchwiliwyd iddynt cyn pen 84 diwrnod, a oedd yn OREN gyda pherfformiad o 69% yn erbyn targed o 80%, mae cynnydd da yn parhau i gael ei wneud o ystyried y llwyth gwaith oedd wedi cronni yn y maes hwn ac mae'r perfformiad presennol yn dangos cynnydd sylweddol wrth i brosesau newydd ddechrau gwreiddio ac yn sgil gwella capasiti ac arbenigedd ac wrth i'r llwyth gwaith gael ei glirio. Rhagwelir y bydd y gwelliant hwn yn parhau dros weddill y flwyddyn ariannol ac mae disgwyl y bydd y Gwasanaeth Gorfodi yn dechrau 2020/21 mewn sefyllfa gryfach.

           O ran Dangosydd 8   nifer yr ymweliadau â chanolfannau hamdden a oedd yn Oren ar y Cerdyn Sgorio gyda pherfformiad o 385k o ymweliadau yn erbyn targed o 396K o ymweliadau, roedd y targed a osodwyd ar gyfer 2019/20 yn seiliedig ar berfformiad prysur yn 2018/19. Oherwydd rhywfaint o waith cynnal a chadw ac uwchraddio hanfodol i'r canolfannau hamdden, ni fu'n bosibl cyrraedd y targedau arfaethedig hyd yma eleni. Fodd bynnag, mae nifer y taliadau debyd uniongyrchol wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, a thrwy hynny yn sicrhau bod llif incwm cyson yn cael ei dderbyn pan nad yw nifer yr ymwelwyr yn cyrraedd targedau. Er y dylai cynnydd yn y ffigurau ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr i fis Mawrth weld perfformiad yn dod yn nes at y targed, mae mwy o uwchraddio a gwaith atgyweirio ar ôl y difrod a wnaed gan stormydd yn ystod y tywydd garw diweddar yn debygol o gael effaith ar berfformiad Ch4.  Mewn ymateb i gais i egluro’r broses yn rhybuddio bod caffis o fewn canolfannau hamdden yn cau  – tynnwyd sylw at y ffaith na chafodd plant ysgol lawer o rybudd ymlaen llaw, os o gwbl. Rhoddwyd sicrwydd y byddai'r mater yn cael ei godi gyda'r rheolwyr perthnasol ac y byddai ymateb yn cael ei anfon at aelodau'r Pwyllgor gan gadw mewn cof hefyd fod peiriannau gwerthu yn cael eu darparu pan na ddarperir caffi.

           O ran Dangosydd 17 – Gwasanaethau Landlord:  Nifer y dyddiau a gymerir ar gyfartaledd i gwblhau gwaith trwsio a oedd yn Goch ar y Cerdyn Sgorio gyda pherfformiad o 15.49 diwrnod yn erbyn targed o 12 diwrnod, mae’r newid yn y Polisi Atgyweirio a Chynnal a Chadw ym mis Hydref, 2018 wedi cael effaith ar y dangosydd hwn fel y nodwyd yn Chwarter 2. Bydd y Gwasanaeth Tai yn parhau i fonitro'r dangosydd hwn a chymryd camau yn ôl yr angen i wella perfformiad

           O ran Dangosydd 36   Gwasanaethau Landlordiaid: Canran y rhent a gollwyd oherwydd bod eiddo'n wag a oedd yn Goch ar y cerdyn sgorio gyda 1.55% wedi'i golli yn erbyn targed o 1.15%, mae perfformiad gwael Dangosydd 35 ar y cerdyn sgorio (nifer y dyddiau a gymerir ar gyfartaledd i osod unedau y gellir eu gosod) yn Ch1 a Ch2 wedi cael effaith ar y Dangosydd hwn ac ni fu'n bosibl cymryd yn ôl cymaint ag y gobeithiwyd.  Mae rhai eiddo wedi bod yn wag am fwy o amser nag y byddai'r Gwasanaeth wedi'i ddymuno wrth fynd i'r afael â gwaith oedd heb ei gwblhau mewn perthynas â "methiannau derbyniol" (lle mae'r tenant wedi gwrthod mynediad i waith SATC) i sicrhau eu bod yn cyrraedd Safonau Ansawdd Tai Cymru, tra bod eraill e.e. yr unedau yn Llawr y Dref - er eu bod nawr yn barod i'w gosod - yn wag tra bod y gwasanaeth yn ceisio sicrhau'r tenantiaethau mwyaf addas. Mae'r ffactorau hyn yn ogystal â gosod targed uchelgeisiol iawn ar gyfer y dangosydd hwn wedi cyfrannu at y perfformiad islaw'r targed.

           O ran Dangosydd 38  - Canran y gwastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio roedd y Pwyllgor am wybod pam fod y dangosydd yn Felyn ar y Cerdyn Sgorio pan fo perfformiad ailgylchu'r awdurdod ymhlith yr uchaf yn genedlaethol yn y DU. Dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff fod y Gwasanaeth wedi bod yn archwilio'r dangosydd hwn yn fewnol oherwydd bod y ganran yn ymddangos yn isel. Yn flaenorol, casglwyd gwastraff bin DU yr Awdurdod gan Potters Waste Management gyda rhwng 120 a 140 tunnell o ddeunydd ychwanegol y gellid ei ailgylchu yn cael ei dynnu o'r gwastraff hwn gan Potters yn y cyfnod rhwng Ebrill a Mai 2018 ac unrhyw wastraff gweddilliol yn cael ei allforio i Sweden. Yn dilyn tân ar y safle, bu gostyngiad y ffigur hwn i 40 tunnell y mis. Mae gwastraff bin du yr Awdurdod bellach yn mynd i gyfleuster Parc Adfer ac er bod hyn yn gadarnhaol o safbwynt datgarboneiddio, nid yw'r gwastraff yn cael ei drin ymlaen llaw yn yr un ffordd ag yr oedd gan Potters; mae hwn yn fater y mae'r Gwasanaeth yn ymchwilio iddo. Ar nodyn cadarnhaol, defnyddir y gwastraff a losgir i gynhyrchu trydan a chaiff y lludw a geir yn ei sgil ei ailgylchu.

           O ran gwytnwch Gwasanaethau yn gyffredinol, yr oedd y Pwyllgor am gael sicrwydd yn ei gylch, yn enwedig yng ngoleuni'r pwysau ychwanegol a allai fod ar wasanaethau yn sgil effaith Coronafeirws, dywedodd y Pwyllgor fod gan bob gwasanaeth gynllun parhad busnes yn ei le a bod yr uwch dîm arweinyddiaeth yn monitro'r sefyllfa. Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yw'r pwynt cyswllt yn Ynys Môn ar gyfer cyfathrebu ar lefel ranbarthol. Mae'r rhanbarth yn ei thro mewn cysylltiad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i hysbysu'r cyhoedd ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghyd â Llywodraeth Cymru yn darparu diweddariadau rheolaidd. Caiff Cynlluniau Parhad Busnes y gwasanaethau eu diweddaru hefyd yn unol â hynny.

 

Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd yn ogystal â'r esboniadau a ddarparwyd gan y swyddogion yn y cyfarfod ar y pwyntiau a godwyd, penderfynwyd nodi'r meysydd y mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol fel y'u hamlinellwyd ac i argymell y mesurau lliniaru cysylltiedig.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

Dogfennau ategol: