Eitem Rhaglen

Gweithio mewn partneriaeth gyda Medrwn Môn

Cyflwyno adroddiad gan Brif Swyddog Medrwn Môn.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Sian Purcell, Prif Swyddog – Medrwn Môn a Mr Andrew Hughes – Cadeirydd Bwrdd Rheoli Medrwn Môn i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Swyddog – Medrwn Môn ar y gwaith a gafodd ei ymgymryd ag ef gan Medrwn Môn yn ystod 2018/19 a’r cynnydd ar ddatblygu’r gwaith partneriaeth o fewn y Cyngor. Roedd copi o Adroddiad Blynyddol 2018-19 wedi’i atodi i’r adroddiad. 

 

Adroddodd Prif Swyddog Medrwn Môn mai prif nod Medrwn Môn yw hyrwyddo a chefnogi gwirfoddoli, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol drwy weithio gydag unigolion, grwpiau a chymunedau ar Ynys Môn i sicrhau eu bod yn chwarae rhan lawn a blaenllaw i ddatblygu potential yr Ynys. Mae Medrwn Môn yn ran o Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW), sy'n bartneriaeth rhwng y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGSau) a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA). Mae Medrwn Môn yn un o 19 o CGSau yng Nghymru. Adolygwyd trefniadau’r bartneriaeth genedlaethol, Cefnogi Trydydd Sector Cymru, yn

ystod 2017-18 a 2018-19. 2018/19 oedd ail flwyddyn rhaglen newid uchelgeisiol Cefnogi Trydydd Sector Cymru a oedd yn canolbwyntio ar wella’r effaith y caiff Medrwn Môn fel partneriaeth wrth gefnogi’r trydydd sector yng Nghymru i ffynnu.

 

Nododd fod Medrwn Môn wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor Sir er mwyn datblygu’r ‘Rhaglen Cynllunio Lle’ ar gyfer yr Ynys. Mae ‘Cynllunio Lle’ yn edrych ar sut y gellir gwneud cymunedau yn gryfach ac yn fwy gwydn yn y dyfodol drwy ddeall yr hyn sydd gan y cymunedau hynny o ran asedau – adeiladau, llecynnau gwyrdd, sgiliau a gwybodaeth, grwpiau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus. Cyfeiriodd at y cymorth a roddwyd gan Medrwn Môn wrth sefydlu Cynghrair Seiriol ac mae gwaith bellach yn cael ei ymgymryd ag ef o fewn Ward Twrcelyn fel rhan o’r ‘Rhaglen Cynllunio Lle’.    

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog - Medrwn Môn at y cynllun Linc Cymunedol Môn y mae Medrwn Môn yn gweithredu fel pwynt mynediad unigol er mwyn i bobl gael gwybodaeth am sefydliadau trydydd sector. Mae Linc Cymunedol yn derbyn cyswllt uniongyrchol gan unigolion ond hefyd yn derbyn atgyfeiriadau gan bartneriaid yn y Cyngor Sir ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae Medrwn Môn hefyd wedi ymwneud â’r rhaglen ‘Camau Cynnar Gyda’n Gilydd’ sydd â’r nod o hwyluso’r trawsnewidiad o blismona i fod yn rhywbeth aml-asiantaeth, seiliedig ar Brofiadau Niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) sy’n galluogi ymyrraeth gynnar a mynd at wraidd y mater.         

 

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Rheoli bod Medrwn Môn bellach wedi sefydlu ffyrdd newydd o weithio a’i fod yn ymgysylltu â thrigolion yr Ynys er mwyn galluogi ymgysylltiad cyhoeddus â chymunedau lleol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gwnaed y pwyntiau canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd yn yr Adroddiad Blynyddol at yr angen i recriwtio ymddiriedolwyr ychwanegol i fod yn aelodau o Fwrdd Rheoli Medrwn Môn. Holwyd i ba raddau oedd y sefydliad yn sicrhau bod unigolion â sgoliau penodol yn cael eu penodi.  

Ymatebodd y Prif Swyddog - Medrwn Môn bod grwpiau gwirfoddol o fewn cymunedau yn enwebu cynrychiolydd i gael ei ystyried ar y Bwrdd Rheoli ond pwysleisiodd efallai nad fyddai gan rai unigolion y lefel o sgiliau angenrheidiol. Mae angen i hyrwyddo lefelau sgiliau unigolion e.e. Adnoddau Dynol, TG, sgiliau ariannol a sgiliau rheoli;

·      Cyfeiriwyd at y Timau Adnoddau Cymunedol o fewn y tair ardal sydd wedi eu hadnabod yn Ynys Môn. Codwyd cwestiynau am rôl Medrwn Môn o fewn y Timau Adnoddau Cymunedol. Ymatebodd Prif Swyddog Medrwn Môn fod staff Medrwn Môn wedi derbyn hyfforddiant i gefnogi trigolion o fewn y meysydd sydd wedi eu hadnabod er mwyn gallu cael mynediad i gyfleusterau sydd ar gael iddynt.   

·      Holwyd beth oedd y prif risgiau yr oedd Medrwn Môn yn eu hwynebu dros y blynyddoedd i ddod. Cyfeiriwyd at y ffaith y bydd pwysau ychwanegol ar y Trydydd Sector i gefnogi sefydliadau o fewn cymunedau lleol. Ymatebodd Prif Swyddog Medrwn Môn mai adnoddau ariannol yw’r prif risg gan fod prosiectau wedi lleihau o fod yn rhai 3 blynedd i rai blwyddyn. Nododd y gall hyn roi pwysau ar y gwaith o reoli prosiect cynlluniau. Dywedodd hefyd bod yr ansicrwydd o ran Brexit wedi rhoi pwysau ychwanegol ar sefydliadau gwirfoddol;    

·      Holwyd sut oedd Medrwn Môn yn annog pobl i wirfoddoli ac yn enwedig yr anawsterau i bobl allu gwirfoddoli yn ystod oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau. Cyfeiriwyd at y ffaith bod angen annog pobl ifanc i wirfoddoli yn eu cymunedau. Ymatebodd Prif Swyddog Medrwn Môn drwy ddweud bod pobol yn gwirfoddoli o fewn eu cymunedau ond bod angen cydbwysedd o ran y gwaith y gall pobl ymgymryd ag ef.   

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr Medrwn Môn am fynychu’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD gofyn i Medrwn Môn fynychu’r cyfarfod hwn bob blwyddyn er mwyn adrodd yn ôl ar eu gwaith ar yr Ynys ac er mwyn i’w bartneriaeth â’r Cyngor allu cael ei graffu arno. 

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: