Eitem Rhaglen

Adroddiad cynnydd ar gyflawni'r Cynllun Lleisiant gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn

Cofnodion:

Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Adroddodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn y cafodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn ei sefydlu yn 2016, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae gan y Bwrdd 4 aelod statudol, sy’n cynnwys y Cynghorau Sir, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ynghyd â 10 o sefydliadau cyhoeddus sy’n mynychu cyfarfodydd y Bwrdd.

 

Cytunodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar feysydd blaenoriaeth i gyflawni amcan 2 y Cynllun Llesiant. Sefydlwyd yr Is-grwpiau a ganlyn dan Amcan 1 - Cymunedau sy’n ffynnu ac yn llewyrchus yn yr hir dymor.

 

·      Is-grŵp yr Iaith Gymraeg - gweithred gyntaf yr Is-grŵp oedd cymryd rhan yn y prosiect ‘Arfer’. Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn un o’r partneriaid sy’n cymryd rhan yn y cynllun. Mae Prifysgol Bangor wedi treialu’r prosiect ‘Arfer’ yn barod ac fe welwyd cynnydd yn y defnydd o’r iaith Gymraeg yn y gweithle yn ogystal â chynnydd mewn hyder wrth ddefnyddio’r iaith. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gofyn i Is-grŵp yr iaith Gymraeg ystyried sefydlu prosiect i edrych yn benodol ar sut i hyrwyddo ac annog defnyddio’r iaith Gymraeg mewn derbynfeydd;

·      Is-grŵp Effaith Newid Hinsawdd ar Lesiant ein Cymunedau - mae’r Is-grŵp wedi nodi’r angen i addysgu a gweithio mewn partneriaeth â chymunedau lleol er mwyn eu paratoi ar gyfer heriau presennol ynghylch newid hinsawdd a’r rheini y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol. Cynhaliwyd trafodaethau ar lefel ranbarthol yn ddiweddar a chytunwyd y byddai’r Is-grŵp yn trefnu gweithdy ar addasu i newid hinsawdd i drafod y cymunedau a fyddai’n elwa o gynlluniau addasu i newid hinsawdd. Cynhaliwyd rhan gyntaf y gweithdy a chynhelir gweithdy pellach ym mis Mawrth 2020 a bydd adborth o’r gweithdy’n cael ei rannu gyda’r ddau awdurdod lleol yn dilyn hynny;

·      Is-grŵp Cartrefi ar gyfer Pobl Leol - mae’r Is-grŵp yn gweithio gyda’r sector dai i sicrhau mwy o gartrefi addas a fforddiadwy yn y llefydd iawn i ddiwallu anghenion lleol. Penodwyd Swyddog Rheoli Prosiect rhan amser i arwain gwaith yr Is-grŵp a chynhyrchwyd Cynllun Gweithredu ar ei gyfer;

·      Is-grŵp effaith tlodi ar Lesiant ein Cymunedau - mae tlodi’n parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Bwrdd ond nid oes is-grŵp yn arwain y gwaith ar hyn o bryd. Cytunwyd bod cyfle drwy’r Bwrdd i roi sylw i’r gwaith sydd eisoes yn digwydd yn y ddau awdurdod cyn ystyried opsiynau i’r Bwrdd weithio mewn ffordd fwy integredig a chydlynus. Yn ogystal, mae Swyddogion Cefnogi'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymgymryd â dau faes astudiaeth (1) trafnidiaeth, ac yn arbennig rhwystrau a wynebir gan unigolion ar draws y rhanbarth sy’n eu hatal rhag cyrraedd lleoliadau gwaith neu sefydliadau hyfforddi a (2) deall effaith tlodi ac amddifadedd ar fywydau trigolion ac ar eu llesiant.

 

Mae’r ddau faes blaenoriaeth, ‘Iechyd a Gofal Oedolion’ a ‘Lles a llwyddiant plant a phobl ifanc’, yn cyfrannu at Amcan 2. Mewn perthynas â’r ffrwd waith anableddau dysgu, mae gwaith yn digwydd yn Ynys Môn, gyda chyllidebau cyfun, i gryfhau gwasanaethau anableddau dysgu.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y cyngor at grant cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws y rhanbarth. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn wedi cynnig bod y ffynhonnell ariannu hon yn cael ei defnyddio i ariannu astudiaeth ynghylch hyrwyddo’r iaith Gymraeg mewn derbynfeydd. Bydd y cynnig hwn yn cael ei gylchredeg ymysg Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eraill y rhanbarth maes o law, a rhagwelir y byddai modd defnyddio canfyddiadau’r cynllun peilot ar lefel ranbarthol, os nad genedlaethol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y pwyntiau canlynol:-

 

·      Gofynnwyd beth oedd y prif risgiau a heriau o ran cyflawni amcanion y Cynllun Llesiant a sut fydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn mynd ati i liniaru’r risgiau hyn. Cyfeiriodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn at y gofrestr risg yn Atodiad 1 a dywedodd bod y prif risgiau wedi eu cynnwys. Y prif risgiau o ran cyflawni amcanion y Cynllun Llesiant yw diffyg adnoddau ac ymrwymiad aelodau’r Bwrdd mewn perthynas â gwaith yr Is-grwpiau. Nododd hefyd bod y gofrestr risg yn ddogfen fyw ac y byddai aelodau’r Is-grwpiau yn cyfrannu at y gofrestr a’r camau lliniaru;

·      Gofynnwyd a oedd posibilrwydd y byddai gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dyblygu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan yr Awdurdodau Lleol. Rhoddodd Arweinydd y Cyngor enghraifft mewn perthynas â hyrwyddo’r Iaith Gymraeg yn y gweithle. Dywedodd, er bod gwaith yn cael ei wneud yn yr awdurdodau lleol i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg ac fel aelod o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, mae’r awdurdodau lleol yn gallu hyrwyddo pwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y gweithle ymysg aelodau eraill y bwrdd. Cyfeiriwyd hefyd at yr Is-grŵp Tlodi. Nodwyd nad oes is-grŵp yn delio gyda thlodi ar hyn o bryd. Dywedodd Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn fod y Bwrdd wedi cytuno i gadw golwg ar gynnydd yr awdurdodau lleol mewn perthynas â mynd i’r afael â thlodi ac yn dilyn hynny bydd y bwrdd yn cytuno ymhle i ganolbwyntio ei adnoddau er mwyn ychwanegu gwerth at y gwaith a wnaed gan y ddau awdurdod lleol. Mae hwn yn enghraifft o ymgais gan y Bwrdd i osgoi dyblygu;

·      Cyfeiriodd Aelod at flaenoriaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i fynd i’r afael â chartrefi ar gyfer pobl leol. Roedd yn ystyried y gallai polisïau o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd fod yn rhwystr o ran caniatáu i bobl ifanc adeiladu cartrefi yn eu cymunedau a gofynnodd a yw hyn yn risg i flaenoriaethau’r Bwrdd. Dywedodd Arweinydd y Cyngor na fyddai hynny’n cael ei ystyried fel risg i’r Bwrdd. Mae polisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn caniatáu datblygu tai fforddiadwy. Ychwanegodd fod yr Awdurdod Iechyd a’r Heddlu, drwy waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, wedi nodi tir gwag posib sydd ar gael i ddatblygu cartrefi ar gyfer pobl leol. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  

 

GWEITHREDU : Fel y nodir uchod.