Eitem Rhaglen

Datblygu darpariaeth Hamdden ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro - Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynllun Hamdden yn ceisio arddangos ymagwedd integredig tuag at ofal iechyd ataliol yn Ynys Môn drwy sicrhau y darperir cyfleusterau hamdden cynaliadwy ac o ansawdd uchel i alluogi preswylwyr i fyw bywydau actif, atal afiechyd a gwella llesiant. Nododd y cynhaliwyd nifer o sesiynau briffio i asesu dyfodol cyfleusterau hamdden yr Awdurdod.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro - Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y cynhaliwyd adolygiad o’r cyfleusterau hamdden i nodi gwelliannau cyfalaf posib i’r canolfannau hamdden. Amcangyfrifwyd y byddai’n costio £21m i adnewyddu’r canolfannau hamdden yn rhannol, yn unol ag arferion adeiladu modern. Byddai’n costio £37m i adeiladu tair canolfan hamdden newydd i gymryd lle’r rhai presennol. Bwriad y Cyngor yw cadw’r pedair canolfan hamdden bresennol ac, oherwydd y sefyllfa ariannol bresennol, cynigir bod angen rhaglen fuddsoddi ar raddfa lai, yn canolbwyntio yn gyntaf ar waith cynnal a chadw angenrheidiol a gwaith buddsoddi ar raddfa lai, i gynnal y ddarpariaeth bresennol yn y tymor byr a chanolig; gwerth y gwaith hwn yw £1m a £3m yn y drefn honno. Cyfeiriodd hefyd at y gwelliannau cyfalaf a wnaed yn barod ac y cyfeirir atynt yn yr adroddiad. Ar hyn o bryd mae cyfleoedd ar gael i sicrhau lefel cymharol isel o arian allanol i wella pob canolfan hamdden a rhaid i’r gwasanaethau hamdden fedru cynhyrchu prosiectau cadarn i wneud cais am yr arian hwn.

 

Rhoddodd y Rheolwr Masnachol Hamdden gyflwyniad byr i’r Pwyllgor a nododd bod nifer defnyddwyr y 4 canolfan hamdden wedi cynyddu i 530,000 yn ystod 2018/19. Mae’r canolfannau’n darparu nifer o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau corfforol ac yn annog ffordd iach o fyw. Ychwanegodd fod y brand Môn Actif wedi gwella canfyddiad y cyhoedd am gyfleusterau'r canolfannau hamdden a bod pecynnau debyd uniongyrchol wedi denu mwy o bobl i ddefnyddio’r adnoddau yn y pedair canolfan hamdden, ynghyd â phecynnau corfforaethol am bris gostyngol i fusnesau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y pwyntiau a ganlyn:-

 

·      Nodwyd bod y gwasanaeth hamdden yn bwriadu sicrhau cyllid ychwanegol i wella gwasanaethau hamdden ar yr Ynys. Gofynnwyd a fyddai modd derbyn arian grant gan Gemau’r Ynysoedd fydd yn cael eu cynnal ar Ynys Môn yn 2025. Dywedodd y Rheolwr Masnachol Hamdden na ragwelir y bydd arian grant mawr ar gael ar gyfer Gemau’r Ynysoedd yn 2025 gan fod Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd yn ystyried fod y cyfleusterau presennol ar Ynys Môn yn ddigonol ar ôl creu caeau 3G newydd ym Mhlas Arthur, Llangefni a Phorthaethwy ac ystafell ffitrwydd yng Nghaergybi. Cyfeiriodd at Dwrnamaint Pêl Droed Gemau’r Ynysoedd a gynhaliwyd ar Ynys Môn yn 2019 a oedd yn llwyddiant mawr a nododd mai nod Gemau’r Ynysoedd yw dathlu cyfleusterau hamdden a rhoi cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y gemau;

·      Cyfeiriwyd at gyflwyno’r pecynnau debyd uniongyrchol newydd a gynigir gan y canolfannau hamdden a dywedwyd bod defnyddwyr gwasanaeth wedi mynegi siom nad oes pecyn debyd uniongyrchol i deuluoedd yn cael ei gynnig ar gyfer cyfleusterau hamdden ar yr Ynys. Dywedodd y Rheolwr Masnachol Hamdden bod cynnig pecyn debyd uniongyrchol i deuluoedd yn cael ei ystyried ac roedd yn cydnabod y gall fod yn ddrud i deulu cyfan ddefnyddio’r cyfleusterau hamdden ar yr un pryd dan y trefniadau talu presennol. Ychwanegodd fod y canolfannau’n cynnig gwersi nofio i blant ieuengach yn awr a bydd hynny’n annog teuluoedd ifanc i ddefnyddio’r cyfleusterau. Ychwanegodd y Rheolwr Masnachol Hamdden, oherwydd bod lefelau gordewdra ymysg plant dan 5 ar Ynys Môn yn parhau i fod yn uchel, bod angen i’r gwasanaeth hamdden weithio gyda’r gwasanaeth addysg i hyrwyddo’r cyfleusterau sydd ar gael er mwyn hyrwyddo byw’n iach.

·      Cyfeiriwyd at y Cynllun Hamdden sy’n cyfeirio at y cyfleoedd y bydd Rhaglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor Sir yn eu cynnig i integreiddio canolfannau hamdden yn well â chyfleusterau addysg, neu eu cydleoli, a gofynnwyd sut mae’r Awdurdod yn bwriadu ymgorffori’r Cynllun Hamdden yn y rhaglen moderneiddio ysgolion. Dywedodd Arweinydd y Cyngor, gan y cynhelir ymgynghoriad yn ardal Amlwch ynghylch y rhaglen foderneiddio ysgolion yn y dyfodol, y bydd hynny’n rhoi cyfle i integreiddio cyfleusterau hamdden a chyfleusterau addysg yn ardal Amlwch, pe bai hynny’n gynaliadwy ac yn fforddiadwy.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cymeradwyo’r Cynllun Hamdden.

 

GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.