Eitem Rhaglen

Monitro'r Gyllideb Refeniw, Chwarter 4 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi'r sefyllfa alldro refeniw dros dro am y cyfnod 1 Ebrill, 2019 i 31 Mawrth, 2020 gan gynnwys y prif amrywiadau yn y gyllideb.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2019/20 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a Chronfa'r Dreth Gyngor yn danwariant o £0.308m sy'n sylweddol well na'r hyn a ragwelwyd yn flaenorol ac sydd wedi digwydd i raddau helaeth o ganlyniad i wasanaethau yn lleihau gwariant yn ystod chwarter olaf y flwyddyn ac oherwydd derbyn cyllid grant ychwanegol. Mae hyn yn rhoi hwb i'w groesawu i gyllid y Cyngor gan gynyddu'r Gronfa Gyffredinol i £7.061m sy'n arbennig o bwysig o ystyried effaith debygol argyfwng Covid-19 sydd eisoes yn amlwg yn sgil colli incwm a chostau ychwanegol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod canlyniad alldro dros dro'r gyllideb refeniw  yn welliant sylweddol ar yr amcangyfrif ar ddiwedd Chwarter 3. Mae eitemau penodol â gwariant cyfalaf llai na'r disgwyl a arweiniodd at fenthyca llai a dim galwadau sylweddol ar gyllidebau wrth gefn yn ystod y chwarter olaf wedi bod o gymorth yn hyn o beth. Mae darpariaeth i adlewyrchu addasiad i gyfrifon 2018/19 mewn perthynas â dyledion drwg sydd wedi'i chynnwys yn y ffigyrau ers dechrau'r flwyddyn ariannol wedi cael ei hailystyried ac erbyn hyn penderfynwyd nad oes mo'i hangen ac mae hynny wedi arwain at arbediad o dros £100k. Yn ogystal, mae cau rhai gwasanaethau o ganlyniad i gyfyngiadau'r cyfnod clo yn ystod pythefnos olaf mis Mawrth hefyd wedi cyfrannu at y sefyllfa well.

 

Dywedodd y Swyddog fod Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn parhau i fod yn destun pryder oherwydd bod gorwariant o  £1,138k ar ddiwedd y flwyddyn ariannol (4.5% o'r gyllideb) er gwaethaf y Grant Pwysau'r Gaeaf o £ 371k. Heb y grant hwnnw  byddai'r sefyllfa ariannol wedi bod yn waeth o lawer. Er bod y Cyngor wedi cymeradwyo cynnydd o £1m yn y gyllideb ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion pan osododd  y gyllideb ar gyfer 2020/21 ym mis Mawrth, nid oes sicrwydd y bydd hyn yn ddigonol i gwrdd ag anghenion y gwasanaeth yn enwedig gan y gallai fod pwysau cynyddol ar y gwasanaeth wrth i'r Cyngor ddod allan o'r argyfwng cyfredol.

 

Un agwedd nad oedd yn cael sylw yn yr adroddiad yw'r effaith ar falansau ysgolion. Mae gan dair o bum ysgol uwchradd yr Ynys ddiffyg ariannol bellach ac mae cyfanswm y diffyg yn yr ysgolion uwchradd yn £693k. Er bod gan naw ysgol gynradd ddiffyg ariannol, mae gan y sector cynradd yn ei gyfanrwydd warged o £975k. At ei gilydd, mae balansau ysgolion wedi gostwng yn sylweddol gan fod ysgolion wedi defnyddio cyllid wrth gefn i gydbwyso eu cyllidebau. Byddai hynny wedi digwydd yn 2020/21 hefyd er nad yw effaith cau'r ysgolion am gyfnod estynedig o ganlyniad i'r argyfwng yn hysbys eto.

 

Fel rhan o'r diweddariad ar sefyllfa'r gyllideb refeniw gofynnwyd i'r Pwyllgor Gwaith hefyd gymeradwyo rhyddhau £85k o'r gronfa wrth gefn gyffredinol i gwrdd â‘r gost o ailbaentio Pier Biwmares; byddai'r arian hwnnw’n ychwanegu at gronfa wrth gefn y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd o £100k at y diben hwnnw ac felly'n golygu y gallai'r  gwaith ddechrau cyn gynted ag y bo modd.

 

Er gwybodaeth, dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod cyfrifon drafft y Cyngor ar gyfer 2019/20 bellach wedi’u cwblhau ac y byddent yn cael eu cyhoeddi heddiw yn unol â’r amserlen statudol. Manteisiodd ar y cyfle hwn i ddiolch i staff y Gwasanaeth Cyllid am gyflawni’r hyn sydd ar y gorau yn dasg feichus ac sydd wedi’i gwneud hyd yn oed yn fwy heriol gan yr amgylchiadau presennol gyda chyfran fawr o staff y gwasanaeth yn gweithio o bell. Mae gallu cau’r cyfrifon mewn modd amserol yn golygu y gellir cynnal yr archwiliad ffurfiol yn awr i wirio datganiadau ariannol y Cyngor, gan golygu y gall y Cyngor fod yn glir ynghylch ei sefyllfa ariannol ar ddiwedd 2019/20 a bod y hyderus na fydd y ffigyrau hynny'n newid wrth symud ymlaen i'r flwyddyn ariannol newydd.

 

Ychwanegodd yr Aelod Portffolio Cyllid ei ddiolchiadau yntau hefyd  i staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith yn cwblhau'r cyfrifon ac yn  ymateb i'r argyfwng ac adleisiwyd ei sylwadau gan y Pwyllgor Gwaith  a oedd hefyd yn cydnabod arwyddocâd sefyllfa well y gyllideb refeniw a phwysigrwydd cynnal lefel y cronfeydd wrth gefn o gofio'r heriau yr oedd y Cyngor yn debygol o'u hwynebu yn y flwyddyn i ddod.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B yr adroddiad  mewn perthynas â pherfformiad ariannol amodol yr Awdurdod ar alldro 2019/20.

           Nodi’r crynodeb o gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2019/20 fel y manylir yn Atodiad C yr adroddiad.

           Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â sefyllfa’r rhaglenni buddsoddi i arbed yn Atodiad CH yr adroddiad.

           Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer 2019/20 yn Atodiad D yr adroddiad

           Nodi monitro costau asiantaeth ac ymgynghoriaeth ar gyfer 2019/20 yn Atodiadau DD, E ac F yr adroddiad.

           Rhyddhau £85k o’r balansau cyffredinol i sicrhau bod cyllid digonol ar gael i wneud y gwaith paentio ar Bier Biwmares.

Dogfennau ategol: