Eitem Rhaglen

MIM - Cytundeb Partneriaeth Strategol

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i fynd i Gytundeb Partneru Strategol gyda Chwmni Parneriaeth Addysg Cymru i hwyluso'r broses o ddarparu cyfleusterau addysg a chymunedol.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod Llywodraeth Cymru wedi dylunio Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC) i gyflawni prosiectau seilwaith cyfalaf mawr yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannol ariannu rhai o'r prosiectau trwy'r cynllun MBC gan ddefnyddio cyllid refeniw, yn rhannol oherwydd prinder cyllid cyfalaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn penodi partner sector preifat a fydd wedyn yn ffurfio Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru (CPAC) gydag is-gwmni i Fanc Datblygu Cymru. Ar ôl ffurfio CPAC bydd gofyn iddynt hwy a'r holl gyfranogwyr lofnodi Cytundeb Partneriaeth Strategol (CPS) a fydd yn darparu ar gyfer sut mae'r partïon yn cydweithredu dros y tymor hir i gefnogi cynllunio, caffael a chyflawni gwasanaethau seilwaith, addysg a chyfleusterau cymunedol yng Nghymru mewn modd effeithiol. Dim ond CPAC all gyflawni prosiectau MBC. Fodd bynnag, nid yw llofnodi'r CPS yn ymrwymo'r Cyngor i gymryd rhan mewn unrhyw gynllun MBC ond yn hytrach mae'n rhoi cyfle iddo gymryd rhan mewn cynllun MBC pe bai prosiect addas yn cael ei nodi yn y dyfodol ac mae hefyd yn rhoi mwy o sgôp i ddenu cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn ffordd newydd o ariannu cynlluniau yng Nghymru a’i fod wedi bod yn y broses o gael ei ffurfio ers 2017. Ar gyfer prosiectau Band A a llawer o'r prosiectau Band B yn y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu ei chyfraniad trwy grant neu'r drefn benthyca â chymorth i awdurdodau lleol; rhaid i Lywodraeth Cymru ei hun fenthyca i ariannu'r ffordd hon o weithio hyd at bwynt lle mae'r benthyciad wedyn yn cael ei gapio. Mae'r cynnig yn ffordd i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol drosglwyddo costau cyfalaf a benthyca i gostau refeniw. Bydd Llywodraeth Cymru yn penodi partner sector preifat ac is-gwmni i Fanc Datblygu Cymru i ffurfio'r CPAC; yna bydd awdurdodau yn gwneud taliad blynyddol dros 25 mlynedd i CPAC am ddefnyddio adeiladau (ysgolion neu adeiladau eraill) sydd wedi'u hadeiladu o dan y cynllun MBC. Yn hytrach na chyfrannu 50% tuag at adeiladau ysgolion newydd trwy drefniadau grant a benthyca, bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 81% o gostau refeniw blynyddol cyngor i gwrdd â'r taliad blynyddol i CPAC. Yn wahanol i drefniadau Menter Cyllid Preifat  lle roedd cynghorau nid yn unig yn gorfod gwneud taliad blynyddol am yr adeiladau a gomisiynwyd ond hefyd yn gorfod talu costau ystod o wasanaethau ategol - glanhau ac ati - a allai fod yn uchel, a lle roeddent wedi eu cyfyngu hefyd o ran y newidiadau y gallent eu gwneud eu hunain ac yn gorfod gwneud  taliadau ychwanegol i'r contractwr i wneud mân newidiadau, nid oes y fath gyfyngiadau dan y drefn MBC. Bydd CPAC yn gyfrifol am brif adeiladwaith yr adeilad ac mae cynghorau yn rhydd i wneud newidiadau eraill e.e. paentio fel y dymunant ar eu cost eu hunain. I ddechrau, bydd yr MBC yn berthnasol i brosiectau £15m a throsodd felly mae'n bosib na fydd yn berthnasol i'r rhan fwyaf o brosiectau Ynys Môn, gan gynnwys ei hysgolion cynradd newydd sy'n annhebygol o gyrraedd y trothwy cost hwn. Fodd bynnag, bydd llofnodi'r Cytundeb Partneriaeth Strategol yn rhoi'r opsiwn i'r Cyngor gymryd rhan mewn prosiect MBC yn y dyfodol; mae peidio â llofnodi yn golygu pe bai'r Cyngor eisiau ymrwymo i'r Cytundeb Partneriaeth yn ddiweddarach, yna byddai angen caniatâd yr holl gyfranogwyr i wneud hynny.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Prosiect nad yw'r Cyngor, wrth ymuno â'r CPS, yn ymrwymo i unrhyw brosiect MBC ar hyn o bryd, a'r unig ymrwymiadau fyddai pe bai'n dymuno cymryd rhan mewn prosiect MBC yn y dyfodol byddai'n cael ei gyflawni yn unig trwy CPAC a bod y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Adran 151 yn cael ei benodi i eistedd ar y Bwrdd a fydd yn goruchwylio perfformiad CPAC.

 

Ar ôl ceisio a derbyn sicrwydd ynghylch yr MBC o ran maint ymrwymiad y Cyngor ar hyn o bryd yn ogystal â natur y rhwymedigaethau a fyddai’n disgyn ar y Cyngor pe bai’n cymryd rhan mewn prosiect MBC yn y dyfodol, roedd y Pwyllgor Gwaith yn hapus i  awdurdodi ymrwymo i'r Cytundeb Partneru Strategol.

 

Penderfynwyd

 

           Nodi cynnydd Cam Cynigydd a Ffefrir y Weithdrefn Deialog Cystadleuol o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

           Cymeradwyo cyflawni, cyflenwi a pherfformio’r Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Chwmni Partneriaeth Addysg Cymru yn Hydref 2020 i hwyluso cyflawni ystod o wasanaethau seilwaith ynghyd â chyflawni cyfleusterau addysg a chymunedol.

           Cymeradwyo’r Cytundeb Partneriaeth Strategol a grynhowyd yn Atodiad 2 o’r adroddiad er mwyn gweithredu argymheliad 2 uchod, yn amodol ar argymhelliad 4 isod -

           Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro

 

• I gymeradwyo telerau terfynol y Cytundeb Partneriaeth Strategol a gymeradwywyd yma a all fod yn anghenrheidiol am resymau sy’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gwblhau unrhyw faterion sydd heb eu penderfynu, a

Chymeradwyo unrhyw weithredoedd a dogfennau pellach sy’n ategol i’r Cytundeb Strategol yma.

 

           Nodi y caiff Cytundeb Partneriaeth Strategol ei gyflawni fel gweithred a’i ardystio yn unol ag Erthygl 14.5 y Cyfansoddiad.

           Cymeradwyo penodi y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ynGynrychiolydd y Cyfranogwri eistedd ar y Bwrdd Partneriaeth Strategol (BPS).

           Nodi wrth gytuno i’r Cytundeb Partneriaeth Strategol nad oes gofyn iddo benderfynu bwrw ymlaen ag unrhyw brosiect penodol, ac nad oes unrhyw beth o fewn y SPA sy’n ymrwymo’r Cyngor i wneud ymrwymiad o’r fath. Bydd unrhyw benderfyniad i fwrw ymlaen â phrosiect penodol yn fater i’r Pwyllgor Gwaith benderfynu arno yn y dyfodol.

Dogfennau ategol: