Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Gwyro

Cofnodion:

10.1    VAR / 2020/7 - Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) (Cynlluniau a gymeradwywyd), amod (03) (Cynllun Rheoli a Chynnal a Chadw), amod (15) (Sgrin Derfyn) yng nghaniatâd cynllunio VAR / 2019/34 (Codi 4 fflat) er mwyn newid y cynllun draenio a darparu manylion y sgrin derfyn yn 8 Ger y Môr, Rhosneigr.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod egwyddor y datblygiad arfaethedig wedi cael ei sefydlu pan roddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar 16 Tachwedd 2015 ar gyfer pedwar fflat marchnad agored. Nodir y newidiadau arfaethedig yn adroddiad ysgrifenedig y Swyddog ac maent yn ymwneud â gosodiad y draeniau ac ystyrir eu bod yn dderbyniol. Darparwyd manylion am y sgrin derfyn hefyd yn unol ag amod (15) y caniatâd blaenorol, ac ystyrir eu bod yn dderbyniol hefyd. Fodd bynnag, ers mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, nodir Rhosneigr fel Canolfan Wasanaeth Leol dan Bolisi TAI 5 ac nid yw’n cefnogi darparu tai marchnad agored. Ond, gan fod caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle a gan fod y diwygiadau’n dderbyniol, yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais gyda’r amodau cynllunio a restrir a hefyd newid y dyddiad a nodir yn amod (11) i ddarllen 1995 yn hytrach na 2013.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Richard O. Jones fod y cais yn cael ei ganiatáu yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE.

 

Penderfynwyd caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir ynddo ac yn amodol hefyd ar gywiro amod (11) fel yr amlinellwyd.

 

10.2    VAR / 2020/8 – Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (02) (Datganiad Madfallod Cribog), amod (04) (Goleuadau Allanol), amod (12) (Manylion Draenio), amod (13) (codi 3 annedd) er mwyn amrywio’r amodau trwy ddarparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani ynghyd â newid dyluniad yr annedd ar dir yn Bryn y Felin, Niwbwrch

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn groes i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei ganiatáu.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle’r cais o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ond fod y rhan fwyaf o’r safle y tu allan i ffin ddatblygu Niwbwrch, fel y’i diffinnir o dan ddarpariaethau Polisi PCYFF 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC). Fodd bynnag, cymeradwywyd y cais gwreiddiol ym mis Ebrill 2017 cyn mabwysiadu’r CDLlC) ac mae’n ystyriaeth berthnasol wrth asesu’r cais presennol. Felly, o ystyried y caniatad cynllunio sydd eisoes yn bodoli, ac oherwydd mai mân newidiadau i’r dyluniad sy’n cael eu cynnig ac yr ystyrir eu bod yn dderbyniol, a bod y wybodaeth a ddarperir fel rhan o’r cais er mwyn cwrdd â’r amodau a nodwyd yn dderbyniol hefyd, yr argymhelliad yw caniatau’r cais gyda’r amodau a restrir ac yn amodol hefyd ar newid y dyddiad a nodir yn amod (10) i ddarllen 1995 yn hytrach na 2013.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard O. Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir ynddo ac yn amodol hefyd ar gywiro amod (10) fel yr amlinellwyd.

 

10.3    VAR / 2020/6 - Cais o dan Adran 73 i amrywio amod (01) caniatad materion a gadwyd yn ôl cyfeirnod RM / 2019/6 (dyluniad yr annedd) er mwyn caniatáu dyluniad diwygiedig a chael gwared ar y garej ar dir yn Tan Rallt, Carmel

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cynnig yn tynnu’n groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ond yn un mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol â’i fryd ar ei gymeradwyo.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais yn cael ei wneud o dan Adran 73 i amrywio amod (01) caniatad materion a gadwyd yn ôl RM/2019/6 er mwyn diwygio dyluniad annedd y rhoddwyd caniatad cynllunio iddo yn 2016 cyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ers mabwysiadu’r CDLlC, mae Carmel wedi’i nodi bellach fel Clwstwr lle mae’n rhaid i unrhyw annedd newydd fod yn fforddiadwy a chwrdd ag angen lleol, ac ar safle mewnlenwi. Er bod y cais felly yn groes i Bolisi TAI 6 y CDLlC, gan fod caniatad cynllunio eisoes yn bodoli ar y safle am annedd marchnad agored, ac oherwydd yr ystyrir bod y newidiadau yn welliant ar y cais a gymeradwywyd yn flaenorol, yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais gyda’r amodau a restrir ac ychwanegu amod i nodi terfynau amser y caniatad a roddir. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cais gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir ynddo ynghyd ag amod ychwanegol i nodi terfynau amser y caniatad a roddir.

Dogfennau ategol: