Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1  HHP/2020/37 – Y Bwthyn, Llanddaniel

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Izfh2UAB/hhp202037?language=cy

 

12.2  FPL/2020/71 – Ysgol Gyfun Llangefni, Ffordd Cildwrn, Llangefni

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MffKUUAZ/fpl202071?language=cy

 

12.3  FPL/2020/70 – Ysgol Llanfawr, Caergybi

 

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000MffEMUAZ/fpl202070?language=cy

Cofnodion:

12.1    HHP/2020/37 – Cais llawn i godi modurdy newydd i ddefnydd preifat yn Y Bwthyn, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am i Aelod Lleol ei alw i mewn i’r Pwyllgor ei ystyried gan y credir ei fod yn cydymffurfio â pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams ei fod yn sylweddoli yn awr ei fod yn adnabod yr ymgeisydd ac na fyddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth nac yn pleidleisio ar y cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gais ôl-weithredol i gadw modurdy preifat yn Y Bwthyn, Llanddaniel. Mae’r ymgeisydd yn cadarnhau fod yr adeilad at ddefnydd preifat a bod ei angen i gadw cerbydau clasurol a fan wersylla fawr sy’n eiddo i’r ymgeisydd. Mae safle’r cais wedi’i leoli yn yr Ardal Tirwedd Arbennig; mae maint, uchder ac edrychiad yr adeilad dan sylw yn ddiwydiannol ac yn nodweddiadol o adeiladau y gellir eu gweld ar ystadau diwydiannol. Yn ogystal, mae’n uwch na’r prif annedd a elwir yn Y Bwthyn ac mae arwynebedd y llawr yn fwy. Er nad oes gwrthwynebiad i egwyddor y datblygiad, barn y Swyddog yw nad yw’n cyd-fynd â’i gyd-destun, oherwydd ei edrychiad diwydiannol, ei uchder a’i faint, ac nid yw’n cyd-fynd â chymeriad y safle nac yn ei wella,  felly mae’n groes i Bolisi Strategol PS5, Polisi PCYFF1 a Pholisi PCYFF 3 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ar y sail honno, yr argymelliad yw gwrthod y cais. Derbyniwyd un llythyr yn gwrthwynebu’r cynnig sydd yn nodi maint, edrychiad a lleoliad fel rhesymau dros wrthwynebu.

 

Siaradodd y Cynghorydd Eric Wyn Jones, Aelod Lleol, o blaid y cais a dywedodd mai’r mater allweddol yw a ydi’r cynnig yn cydymffurfio â pholisïau’r CDLlC. Roedd o’r farn fod y modurdy wedi ei leoli’n addas o fewn ac ymysg yr anheddau eraill ar y ddwy ochr ac, gan ei fod yn cael ei guddio’n dda gan goed a llwyni, nid oes modd ei weld o’r lôn. Mae busnes bysiau a thacsis masnachol yn cael ei redeg gerllaw sy’n â sied gynnal a chadw fawr ar gyfer cerbydau. Mae’r cais ar gyfer modurdy ac nid adeilad masnachol a bydd yn eistedd yn daclus yn ei gornel heb ymyrryd ag unrhyw un. Oherwydd bod gan yr ymgeisydd ddiddordeb mewn cerbydau clasurol mae’r lleoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol i’r cynnig ac mae’n cael ei gefnogi gan Bolisi PCYFF1. Cyfeiriodd y Cynghorydd Eric Jones hefyd at Bolisïau PCYFF2, PCYFF3, AMG2 a Pholisi Cynllunio Cymru ac esboniodd sut yr oedd yn credu bod y polisïau hynny’n cefnogi’r datblygiad arfaethedig o ran lleoliad, cynaliadwyedd a pharchu cymeriad yr ardal o’i amgylch. Oni bai ei fod yn credu hynny ni fyddai wedi galw’r cais i mewn, ac ni fyddai’n ei gefnogi. Mae’r cynnig yn cwrdd â’r gofynion angenrheidiol; mae angen y modurdy i warchod y cerbydau sydd â gwerth hanesyddol yn ogystal ag ariannol iddynt. O’r herwydd, cynigiodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn groes i argymhellion y Swyddogion.

 

Roedd y Cynghorydd Kenneth Hughes yn credu bod addasrwydd y modurdy arfaethedig yn ei leoliad yn fater o farn ac y gellid ei gyfiawnhau ar sail polisi. Ychwanegodd nad oedd y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cynnig. O’r herwydd, eiliodd gynnig y Cynghorydd Eric Jones i ganiatáu’r cais. Roedd y Cynghorydd Bryan Owen o’r un farn a chyfeiriodd at adeiladau o faint ac edrychiad tebyg ar y safle gerllaw.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y byddai modd cadw’r ceir clasurol yr oedd yr ymgeisydd yn dymuno eu cadw yn y modurdy mewn adeilad wedi ei ddylunio’n fwy sympathetig ac a oedd yn fwy addas i’w leoliad a’i bwrpas fel modurdy preifat na’r hyn a gynigir a’i fod wedi’i synnu â maint yr adeilad. Nid yw’r ffaith fod amrywiol adeiladau o naws diwydiannol ar y safle gerllaw sy’n cael eu defnyddio i gadw bysiau, ac y cafwyd nifer o gwynion amdanynt, yn cyfiawnhau adeilad hyll arall. Ychwanegodd nad oedd yn credu i’r Cyngor Cymuned gael cyfle i gyfarfod i drafod y cais yn llawn ac y gallai gwybodaeth fod wedi ei gylchredeg i aelodau’n unig. Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod y cais yn cael ei wrthod, yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Roedd y Cynghorydd John Griffith yn cytuno a dywedodd y byddai modd gwrthod y cynnig ar sail nifer o bolisïau e.e. Polisi PCYFF1 sy’n nodi y dylai cynnig ddangos fod ei leoliad yng nghefn gwlad yn hanfodol. Nid yw hynny’n wir yn yr achos hwn gan fod yr ymgeisydd wedi cadarnhau fod y cerbydau’n cael eu cadw ar iard y perchennog mewn man arall ar yr Ynys ac y byddai rhai ohonynt yn aros yno. Nid yw’r cynnig yn bodloni disgwyliadau Polisi PCYFF3 chwaith, sef fod pob cynnig yn dangos dyluniad o safon uchel sy’n cymryd y cyd-destun amgylcheddol naturiol, hanesyddol ac adeiledig i ystyriaeth lawn ac sy’n cyfrannu at greu lleoedd deniadol, cynaliadwy, nac ychwaith Bolisi AMG2 sy’n nodi y dylid rhoi ystyriaeth briodol i faint a natur y datblygiad i sicrhau nad oes unrhyw effaith niweidiol sylweddol ar y dirwedd. Yn ychwanegol, mae paragraff 6.1.6 o Bolisi Cynllunio Cymru yn nodi bod edrychiad a swyddogaeth datblygiadau arfaethedig, eu maint a’u perthynas â’r hyn sydd o’u hamgylch yn ystyriaethau perthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Nid yw’r adeilad arfaethedig yn fodurdy arferol o ran ei faint a’i edrychiad ac, fel y noda’r adroddiad, mae’n debycach i adeilad diwydiannol ac nid yw hynny’n gweddu â’i leoliad mewn Ardal Tirwedd Arbennig ac y dylai’r Pwyllgor geisio ei gwarchod ar gyfer y dyfodol. O’r herwydd, eiliodd gynnig y Cynghorydd Dafydd Roberts i wrthod y cais.

 

Yn y bleidlais a ddilynodd, cafodd y cynnig i wrthod y cais yn unol ag argymelliad y Swyddog ei gario.

 

Penderfynwyd gwrthod y cais yn unol ag argymhellion y Swyddog am y rheswm a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2    FPL/2020/71 – Cais llawn ar gyfer estyniad yn cynnwys lifft yn Ysgol Gyfun Llangefni, Lôn Cildwrn, Llangefni

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a’r perchennog tir.

 

Gan eu bod wedi datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y mater, ni chymerodd y Cynghorwyr Vaughan Hughes a Bryan Owen ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar y mater.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y cais ar gyfer adeiladu estyniad 2 lawr gyda tho fflat ar floc de ddwyrain yr ysgol i ddarparu lifft ar gyfer disgyblion a staff er mwyn caniatáu mynediad i’r llawr cyntaf. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig yn lleol. Ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol o ran polisi; bydd yr estyniad yn gweddu â’r adeilad presennol heb niweidio mwynderau eiddo preswyl cyfagos. Felly, yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir ynddo.

 

12.3    FPL/2020/70 – Cais llawn ar gyfer estyniad yn cynnwys platfform a lifft yn Ysgol Llanfawr, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan mai Cyngor Sir Ynys Môn yw’r ymgeisydd a’r perchennog tir.

 

Gan iddo ddatgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, ni chymerodd y Cynghorydd Glyn Haynes ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar y mater.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gais am addasiadau ac estyniad er mwyn codi estyniad 3 llawr gyda tho fflat mewn cornel o’r adeilad siâp U presennol i gynnwys lifft i wella mynediad i bobl sy’n defnyddio’r ysgol. Ystyrir bod y datblygiad arfaethedig yn dderbyniol o safbwynt polisi a bydd yr estyniad yn gweddu’n dda â chymeriad ac edrychiad yr adeilad presennol. Erbyn hyn cyflwynwyd sylwadau gan Dŵr Cymru mewn ymateb i’r cais gan gynnig amod ychwanegol mewn perthynas â draenio. Yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog gyda’r amodau cynllunio a restrir ynddo ynghyd ag amod ychwanegol mewn perthynas â draenio.

Dogfennau ategol: