Eitem Rhaglen

Crynodeb o Gyfrifon Terfynol Drafft 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r prif ddatganiadau ariannol drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio - Cyllid mai’r hyn oedd yn yr adroddiad oedd Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft ar gyfer 2019/20 a’r Fantolen ddrafft hyd at 31 Mawrth, 2020 ynghyd â gwybodaeth am gronfeydd wrth gefn a balansau. Nid oedd y ffigurau yn yr adroddiad wedi’u harchwilio ac, felly, roedd modd iddynt gael eu newid. Câi’r adroddiad ei gyflwyno i'r Cyngor wedi i’r Archwiliad Allanol gael ei gwblhau. Wrth gyflwyno'r adroddiad, achubodd yr Aelod Portffolio - Cyllid ar y cyfle i ddiolch i staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith yn ystod y pandemig a diolchodd hefyd i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am yr arweiniad a roes yn ystod yr amser anodd hwn. Ategwyd y teimladau hynny gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfanrwydd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y Datganiad drafft llawn o'r Cyfrifon ar gyfer 2019/20 ar gael ar wefan y Cyngor ac y câi ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio ar 21 Gorffennaf, 2020. I grynhoi

 

           Roedd y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad yn dangos cost cyfrifyddu yn y flwyddyn o ddarparu gwasanaethau yn unol ag arferion cyfrifyddu yn hytrach na'r swm a ariannwyd o drethiant, ac ynddo roedd addasiadau ar gyfer dibrisiant, ailbrisio asedau, ac ailfesur atebolrwydd pensiwn. Roedd y Llywodraeth yn derbyn na ddylai fod yn ofynnol i dalwyr treth y cyngor ariannu addasiadau o'r fath ac, felly, roedd y cyfrifon yn eithrio effaith y rhain yn y nodyn o'r enw Addasiadau rhwng y Sail Gyfrifyddu a'r Sail Ariannu dan Reoliadau (Nodyn 7 yn y cyfrifon). Dangosai’r nodyn hwn am 2019/20 £8.782m o addasiadau cyfrifyddu a ganslwyd yn y Datganiad Symud Cronfeydd Wrth Gefn. Golygodd hyn y cafodd gwir effaith darparu gwasanaethau ar gronfeydd wrth gefn y Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ei leihau, o ddiffyg o £7.683m i warged o £ 1.1m oedd yn gynnydd yng nghronfeydd wrth gefn y Cyngor. Y rheswm dros hyn oedd tanwariant o £0.308m ar Gronfa'r Cyngor a thanwariant o £0.210m yn y CRT a throsglwyddiadau i'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

           Dangosodd Tabl 1 yr adroddiad y symudiad yng nghronfeydd wrth gefn y Cyngor y gellid eu defnyddio yn ystod y flwyddyn. £25.944m oedd balans yr holl gronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio ar 31 Mawrth, 2020, sef cynnydd o £ 1.1m (4.2%). Roedd cronfa wrth gefn y CRT, y balansau ysgolion a'r Gronfa Derbyniadau Cyfalaf wedi'u clustnodi a dim ond at y diben dynodedig yr oedd modd eu defnyddio.

           Cyflwynai Atodiad 3 yr adroddiad fantolen ddrafft y Cyngor ar 31 Mawrth, 2020. Cynyddodd asedau net cyffredinol y Cyngor o £162.456m ar 31 Mawrth, 2019 i £190.618m ar 31 Mawrth, 2020, yn rhannol oherwydd ychwanegu Neuadd y Farchnad, Caergybi ac Ysgol Santes Dwynwen, Niwbwrch, oedd newydd eu hadeiladu. Byddai’r Fantolen yn newid unwaith y câi canlyniadau'r Prisiad Pensiynau diwygiedig eu cynnwys yn Natganiad y Cyfrifon. Yn ddiweddar, gwnaed y penderfyniad i adolygu'r Prisiad Pensiynau i ddeall effaith y pandemig ar y gronfa bensiwn. Ni fyddai hyn yn cael effaith ar yr alldro ar gyfer 2019/20 nag ar gronfeydd wrth gefn y Cyngor y gellir eu defnyddio, oedd yn cynnwys y Gronfa Gyffredinol.

           Dangosai Tabl 3 yr adroddiad y symudiad mewn cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi. Roedd y rhain yn gronfeydd a gâi eu dyrannu i fodloni ymrwymiadau hysbys neu bosibl yn y dyfodol. Dangosai Tabl 4 yr adroddiad y cronfeydd wrth gefn newydd a glustnodwyd ac y gofynnwyd i’r Pwyllgor Gwaith eu cymeradwyo tra bo Atodiad 4 yn rhoi sefyllfa gyfredol fanwl y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

           Rhoddodd Tabl 5 yr adroddiad grynodeb o sefyllfa balansau'r ysgol. Roedd lefel balansau ysgolion wedi gostwng o uchafbwynt o £2.46m yn 2015/16 i £0.197m ddiwedd blwyddyn ariannol 2019/20 - gostyngiad o 92% mewn pum mlynedd gan adlewyrchu'r anawsterau oedd yn wynebu mwyafrif ysgolion y Cyngor.

£8.387m oedd Balans agoriadol y CRT ar 1 Ebrill, 2019. Yn sgil llithriad ar brosiectau cyfalaf yn ystod y flwyddyn, bu tanwariant o £0.210m a arweiniodd at falans cau o £8.597m. Câi hwn ei ailfuddsoddi yn y CRT yn y dyfodol.

 

Er eglurhad, ailadroddodd yr Aelod Portffolio - Cyllid mai’r £7.060m yng Nghronfa wrth Gefn Gyffredinol Cronfa’r Cyngor oedd ar gael i’r Cyngor fel arian wrth gefn i gwrdd â gwariant annisgwyl a bod y cronfeydd wrth gefn eraill - Cronfeydd Wrth Gefn y Cyngor oedd wedi’u clustnodi, y CRT, Cronfeydd Wrth Gefn Ysgolion a Chronfeydd Derbyniadau Cyfalaf i'w defnyddio at y dibenion a ddynodwyd.

 

Penderfynwyd

 

          Nodi’r prif ddatganiadau ariannol drafft (heb eu harchwilio) ar gyfer 2019/20 (Y Datganiad o Gyfrifon llawn ar gael ar wefan y Cyngor).

          Nodi’r sefyllfa o ran cronfeydd wrth gefn clustnodedig a chymeradwyo’r defnydd o, neu gynnydd i gronfeydd wrth gefn unigol fel y nodir yn Atodiad 4 yr adroddiad.

          Cymeradwyo’r cronfeydd wrth gefn newydd, cyfanswm o £0.160m fel y nodir yn Nhabl 4 yr adroddiad.

           Nodi’r sefyllfa o ran balansau’r ysgolion.

           Nodi balansau’r CRT fel yr oeddent ar 31 Mawrth, 2020.

Dogfennau ategol: